Penderfyniadau
Cyllideb Llywodraeth Cymru 2016-17
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
09/03/2016 - Dadl ar y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2016-17
Dechreuodd yr
eitem am 15.25
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5986
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25:
Yn
cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-2017 a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar
1 Mawrth 2016.
Troednodyn:
Yn
unol â darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog
20.28, mae'r Gyllideb Flynyddol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
1.
y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth
Cymru 2006;
2.
yr adnoddau y cytunodd y Trysorlys arnynt ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y
flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
3.
cysoni rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r
adnoddau i'w hawdurdodi i'w defnyddio yn y cynnig;
4.
cysoni rhwng yr amcangyfrif o'r symiau i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr
Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o'r Gronfa
yn y cynnig; a
5.
cysoni rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf
a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o Gronfa Gyfunol Cymru o dan
adran 125(1)(c).
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
5 |
22 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig.
03/03/2016 - Welsh Government draft Budget 2016 - 17 - consideration of draft budget letters
10/02/2016 - Debate on the Draft Budget 2016-17
Dechreuodd yr eitem am 15.22
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio.
NDM5947
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb
Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-2017 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar 8 Rhagfyr 2015.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pob dim a rhoi
yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn credu nad yw
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 yn diwallu anghenion pobl
Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
23 |
5 |
28 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant
1.
Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith
nad yw'r gyllideb ddrafft yn ymgymryd â dull gweithredu Cymru gyfan mewn
perthynas â buddsoddi cyfalaf yn y dyfodol;
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
23 |
5 |
28 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant
2.
Gwelliant
3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith
bod y gyllideb ddrafft yn cynnig toriad niweidiol a difrifol i gymorth ariannol
ar gyfer sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
23 |
5 |
28 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant
3.
Gwelliant 4 - Elin
Jones (Ceredigion)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
gresynu at y ffaith nad yw cynnig drafft y gyllideb ar gyfer pwysau ariannu
parhaus ar lywodraeth leol wedi cael ei baru â chynnig ar gyfer grant sefydlogi
gwledig.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
23 |
5 |
28 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant
4.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
NDM5947
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-2017 a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar
8 Rhagfyr 2015.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
5 |
23 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig.
16/12/2015 - Welsh Government Draft Budget 2016-17: Consideration of evidence
5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr ymgynghori.
27/11/2015 - Welsh Government Draft Budget 2016-17: Correspondence from Chair of Petitions Committee
6.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
28/10/2015 - Welsh Government Draft Budget 2016-17: Approach to scrutiny
8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull craffu.
08/10/2015 - Welsh Government Draft Budget 2016-17
13.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Cyllid a Busnes y Llywodraeth.
29/07/2015 - Approach to Budget Scrutiny: Welsh Government Draft Budget 2016-17
8.1
Cytunodd y Pwyllgor ar y dull o gynnal y gwaith craffu ar y gyllideb.