Manylion y penderfyniad
Debate on the Draft Budget 2016-17
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Edrychodd y Pwyllgor
Cyllid ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 o safbwynt strategol
a chyffredinol.
Gweithiodd hefyd
gyda pwyllgorau eraill y Cynulliad i sicrhau bod cynigion ar gyfer portffolios
Gweinidogol penodol yn cael eu hystyried yn fanwl. Cynhaliodd y pwyllgorau
sesiynau i ganolbwyntio ar dystiolaeth gan y Gweinidogion perthnasol er mwyn
archwilio i’r agweddau ar y gyllideb sy’n dod o dan eu cylchoedd gwaith hwy, ac
wedyn gwnaethant adrodd yn ôl i ni gan amlinellu unrhyw bryderon oedd ganddynt.
Cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru eu Cyllideb
Ddrafft ar gyfer 2016-17 ar 8 Rhagfyr 2015.
Cynhaliodd y
Pwyllgor Cyllid ymgynghoriad
cyhoeddus i gynigion y gyllideb ddrafft rhwng 9 Rhagfyr 2015 a 7 Ionawr
2016.
Cyhoeddodd y Pwyllgor
Cyllid adroddiad ar ei waith Craffu
ar Gyllideb Llywodraeth Cymru Ddrafft 2016-17 (PDF, 1MB) ar 2 Chwefror
2016.
Cynhaliwyd dadl
ar y gyllideb ddrafft yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Chwefror 2016.
Cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru ei ymateb
i adroddiad y Pwyllgor Cyllid (PDF, 608KB) ar 6 Mawrth 2016.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.22
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio.
NDM5947
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb
Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-2017 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar 8 Rhagfyr 2015.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pob dim a rhoi
yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn credu nad yw
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 yn diwallu anghenion pobl
Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
23 |
5 |
28 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant
1.
Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith
nad yw'r gyllideb ddrafft yn ymgymryd â dull gweithredu Cymru gyfan mewn
perthynas â buddsoddi cyfalaf yn y dyfodol;
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
23 |
5 |
28 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant
2.
Gwelliant
3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith
bod y gyllideb ddrafft yn cynnig toriad niweidiol a difrifol i gymorth ariannol
ar gyfer sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
23 |
5 |
28 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant
3.
Gwelliant 4 - Elin
Jones (Ceredigion)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
gresynu at y ffaith nad yw cynnig drafft y gyllideb ar gyfer pwysau ariannu
parhaus ar lywodraeth leol wedi cael ei baru â chynnig ar gyfer grant sefydlogi
gwledig.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
23 |
5 |
28 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant
4.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
NDM5947
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-2017 a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar
8 Rhagfyr 2015.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
5 |
23 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 10/02/2016
Dyddiad y penderfyniad: 09/02/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/02/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad