Penderfyniadau
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Arloesi Meddygol
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
04/02/2015 - Legislative Consent Motion on the Medical Innovation Bill
Dechreuodd yr eitem am 17.05
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5680 Mark Drakeford
(Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Arloesi Meddygol
sy'n ymwneud â thrin a lliniaru clefyd, salwch, anaf, anabledd ac anhwylder
meddwl; darparu gwasanaethau iechyd; llywodraethu clinigol a safonau gofal
iechyd i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
0 |
0 |
54 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig.