Manylion y penderfyniad

Legislative Consent Motion on the Medical Innovation Bill

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Wedi’i gwblhau

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Mae'r Bil Arloesi Meddygol yn Bil Aelod preifat a gyflwynwyd gan yr Arglwydd Saatchi. Y diben a nodwyd ar ei gyfer yw i annog arloesi cyfrifol o ran triniaeth feddygol. Bydd y darpariaethau yn y Bil yn berthnasol i Gymru.

 

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Arloesi Meddygol (PDF, 187KB) ar 10 Rhagfyr 2014.  Bu’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnal ymgynghoriad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol rhwng 16 Rhagfyr 2014 a 9 Ionawr 2015.

 

Cyfeiriwyd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan y Pwyllgor Busnes ar 13 Ionawr 2015, gyda 29 Ionawr 2015 yn ddyddiad terfyn ar gyfer cyflwyno adroddiad yn ei gylch.

 

Tystiolaeth

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad i gasglu tystiolaeth am y testun hwn

 

Adroddiad y Pwyllgor

Cyflwynodd y Pwyllgor ei adroddiad (PDF, 494KB) yn Ionawr 2015.

 

Cafodd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Chwefror 2015.

 

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Ddatganiad Ysgrifenedig ar 31 Mawrth 2015 ar ymateb Llywodraeth y DU i’r bleidlais ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.05

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NDM5680 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Arloesi Meddygol sy'n ymwneud â thrin a lliniaru clefyd, salwch, anaf, anabledd ac anhwylder meddwl; darparu gwasanaethau iechyd; llywodraethu clinigol a safonau gofal iechyd i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

0

0

54

54

Gwrthodwyd y cynnig.

Dyddiad cyhoeddi: 04/02/2015

Dyddiad y penderfyniad: 03/02/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/02/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad