Penderfyniadau

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol)

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

23/11/2011 - Legislative Consent Motion on the Public Services (Social Enterprise and Social Value) Bill

NDM4857 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud â lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol drwy gontractau cyhoeddus yn y Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol) fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 30 Mehefin 2010, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod Senedd y DU wedi newid enw'r Bil i’r Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Gwerth Cymdeithasol) drwy ei ddiwygio ar 18 Hydref 2011.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4857 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud â lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol drwy gontractau cyhoeddus yn y Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol) fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 30 Mehefin 2010, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn nodi bod Senedd y DU wedi newid enw'r Bil i’r Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Gwerth Cymdeithasol) drwy ei ddiwygio ar 18 Hydref 2011.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.