Manylion y penderfyniad
Legislative Consent Motion on the Public Services (Social Enterprise and Social Value) Bill
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Ymchwiliad ar droed
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Defnyddir hwn ble y bydd Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar fater a allai ddod o fewn
cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.
Penderfyniad:
NDM4857 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud â lles
economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol drwy gontractau cyhoeddus yn y Bil
Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol) fel y’i
cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 30 Mehefin 2010, i’r graddau y maent yn
dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant
1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod Senedd y DU wedi newid enw'r Bil i’r Bil Gwasanaethau Cyhoeddus
(Gwerth Cymdeithasol) drwy ei ddiwygio ar 18 Hydref 2011.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4857 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud â lles
economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol drwy gontractau cyhoeddus yn y Bil
Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol) fel y’i
cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 30 Mehefin 2010, i’r graddau y maent yn
dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn nodi bod Senedd y DU wedi newid enw'r Bil i’r Bil Gwasanaethau Cyhoeddus
(Gwerth Cymdeithasol) drwy ei ddiwygio ar 18 Hydref 2011.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio, yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 23/11/2011
Dyddiad y penderfyniad: 22/11/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/11/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad