Penderfyniadau
Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Troseddu Difrifol
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
04/03/2015 - Supplementary Legislative Consent Motion Serious Crime Bill (Memorandum No. 4): Child Sexual Exploitation and Mandatory Reporting of FGM
Dechreuodd yr
eitem am 15.08
NDM5705 Leighton
Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn
unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau yn y Bil Troseddu Difrifol sy'n ymwneud ag ecsbloetio plant yn
rhywiol a'r drosedd o loetran neu lithio at ddibenion puteindra, a gosod
dyletswydd ar amrywiol weithwyr proffesiynol i roi hysbysiad am achosion a
nodir o anffurfio organau cenhedlu benywod a phŵer cysylltiedig i wneud
canllawiau statudol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
11/02/2015 - Legislative Consent Motion on the Serious Crime Bill - amendment in relation to sexual communication with a child (Supplementary Legislative Consent Memorandum No.3)
Dechreuodd yr eitem am 17.04
NDM5690 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddu Difrifol sy'n ymwneud â'r drosedd
o gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
29/01/2015 - Legislative Consent Motion on the Serious Crime Bill (Memorandum No. 2)
Dechreuodd yr eitem am 14.40
NDM5673 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddu Difrifol sy'n ymwneud ag
ymddygiad cyfyngol neu orthrechol mewn perthnasoedd personol neu deuluol, i'r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Ionawr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog
29.2(iii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10/12/2014 - Legislative Consent Motion on the Serious Crime Bill
Dechreuodd yr eitem am 15.53
NDM5646 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddu Difrifol sy'n ymwneud â chreulondeb
at blant, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Tachwedd 2014 yn unol â Rheol
Sefydlog 29.2(i).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.