Manylion y penderfyniad
Supplementary Legislative Consent Motion Serious Crime Bill (Memorandum No. 4): Child Sexual Exploitation and Mandatory Reporting of FGM
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Defnyddir hwn ble y bydd
Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad Cenedlaethol
Cymru ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 15.08
NDM5705 Leighton
Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn
unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau yn y Bil Troseddu Difrifol sy'n ymwneud ag ecsbloetio plant yn
rhywiol a'r drosedd o loetran neu lithio at ddibenion puteindra, a gosod
dyletswydd ar amrywiol weithwyr proffesiynol i roi hysbysiad am achosion a
nodir o anffurfio organau cenhedlu benywod a phŵer cysylltiedig i wneud
canllawiau statudol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 04/03/2015
Dyddiad y penderfyniad: 03/03/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad