Penderfyniadau

Dadl Plaid Cymru

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

03/03/2016 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.35

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5984 Elin Jones (Ceredigion)

1. Yn gresynu at y ffaith bod gan Gymru un o'r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer canser yn y DU a'r UE.

2. Yn nodi bod amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig yn annerbyniol o uchel ac yn sylweddol uwch nag yn Lloegr a'r Alban.

3. Yn gresynu at yr anghydraddoldeb o ran mynediad cleifion ledled Cymru i gyffuriau a thriniaethau canser.

4. Yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i:

a) gwella'r perfformiad mewn perthynas ag amseroedd aros diagnostig yn sylweddol, fel bod 95 y cant o'r bobl y mae eu meddyg teulu yn tybio bod canser ganddynt yn gallu cael diagnosis neu gadarnhad nad oes canser ganddynt o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y cânt eu cyfeirio i gael eu profi;

b) cyflwyno cronfa triniaethau newydd i sicrhau ymagwedd genedlaethol tuag at fynediad i driniaethau i sicrhau bod cleifion yn cael mynediad at driniaethau yn seiliedig ar angen clinigol nid lle maent yn byw neu a ydynt yn bodloni meini prawf eithriadol; a

c) sicrhau bod pob claf canser yn cael mynediad at weithiwr allweddol, gan gasglu a chyhoeddi data yn rheolaidd i ddangos perfformiad yn erbyn y targed hwn.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

8

0

38

46

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 3:

'a rhwng Cymru a rhannau eraill o'r DU.'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

24

47

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ym mhwynt 4b), dileu 'cyflwyno cronfa triniaethau newydd' a rhoi yn ei le  'ymestyn y gronfa technolegau iechyd i feddyginiaethau newydd'.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

0

42

46

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

'datblygu panel Cymru gyfan ar gyfer ceisiadau cyllido cleifion unigol i osgoi'r loteri cod post sy'n bodoli eisoes ar gyfer triniaethau canser yng Nghymru.'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

34

46

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

'sefydlu gwasanaeth trin canser symudol cenedlaethol i atal teithiau yn ôl a blaen hir i gleifion sydd am gael mynediad i glinigau a thriniaeth cemotherapi'.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

0

46

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

'sefydlu ymgyrch addysg gyhoeddus flynyddol i godi ymwybyddiaeth o achosion a symptomau canser'.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

0

46

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

'darparu gwarant o apwyntiad dilynol fel bod pob claf yn cael ei weld o fewn chwe mis ar y mwyaf o ddiwedd ei gyfnod cychwynnol o driniaeth canser ac ymhellach yn galw am casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd i fonitro perfformiad yn erbyn y warant.'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

8

23

46

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

'penodi eiriolwr dros gleifion canser i ddwyn Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd lleol i gyfrif mewn perthynas â chyflawni cynlluniau cyflenwi canser cenedlaethol a lleol.'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

31

46

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5984 Elin Jones (Ceredigion)

1. Yn gresynu at y ffaith bod gan Gymru un o'r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer canser yn y DU a'r UE.

2. Yn nodi bod amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig yn annerbyniol o uchel ac yn sylweddol uwch nag yn Lloegr a'r Alban.

3. Yn gresynu at yr anghydraddoldeb o ran mynediad cleifion ledled Cymru i gyffuriau a thriniaethau canser.

4. Yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i:

a) gwella'r perfformiad mewn perthynas ag amseroedd aros diagnostig yn sylweddol, fel bod 95 y cant o'r bobl y mae eu meddyg teulu yn tybio bod canser ganddynt yn gallu cael diagnosis neu gadarnhad nad oes canser ganddynt o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y cânt eu cyfeirio i gael eu profi;

b) cyflwyno cronfa triniaethau newydd i sicrhau ymagwedd genedlaethol tuag at fynediad i driniaethau i sicrhau bod cleifion yn cael mynediad at driniaethau yn seiliedig ar angen clinigol nid lle maent yn byw neu a ydynt yn bodloni meini prawf eithriadol; a

c) sicrhau bod pob claf canser yn cael mynediad at weithiwr allweddol, gan gasglu a chyhoeddi data yn rheolaidd i ddangos perfformiad yn erbyn y targed hwn.

d) sefydlu gwasanaeth trin canser symudol cenedlaethol i atal teithiau yn ôl a blaen hir i gleifion sydd am gael mynediad i glinigau a thriniaeth cemotherapi.

e) sefydlu ymgyrch addysg gyhoeddus flynyddol i godi ymwybyddiaeth o achosion a symptomau canser.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

24

47

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


11/02/2016 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.19

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5954 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y gwerth i economi Cymru o gynnal digwyddiadau mawr yng Nghymru

2. Yn galw am lunio cais i gynnal Gemau'r Gymanwlad gyda Chymru'n croesawu'r Gemau hynny yn 2026 neu 2030.

3. Yn galw am lunio cais i ddod â Ras Fawr beicio i Gymru, ar gyfer dynion a menywod.

4. Yn galw am ddigwyddiad swyddogol yn y Cynulliad hwn i ffarwelio â thîm pêl-droed Cymru wrth iddo fynd i gystadlu yn Ewro 2016 yr UEFA.

5. Yn galw am sefydlu 'parthau cefnogwyr' ledled Cymru fel bod y rhai na allant fod yn bresennol yn Ewro 2016 yr UEFA yn gallu cefnogi eu tîm gartref.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


11/02/2016 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.52

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5952 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i ddatganoli manyleb a phroses gaffael masnachfraint nesaf rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.

2. Yn nodi â braw bwriad Llywodraeth y DU i ddileu rhai gwasanaethau o'r fasnachfraint honno cyn ei datganoli.

3. Yn nodi nad yw cyfyngiad o'r fath yn gymwys, ac ni fu'n gymwys, i'r fasnachfraint rheilffyrdd yn yr Alban.

4. Yn credu y byddai ail-lunio map gwasanaethau masnachfraint Cymru a'r Gororau yn sylweddol yn tanseilio'r broses o ddatganoli swyddogaethau trafnidiaeth ac yn niweidio buddiannau teithwyr rheilffyrdd yng Nghymru a'r Gororau.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

16

51

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


28/01/2016 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.12

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5939 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai cau'r bwlch ffyniant gyda gweddill y DU fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru;

2. Yn nodi cynllun economaidd tymor hir Plaid Cymru fel modd i hybu twf economaidd cynaliadwy sy'n cynnwys sefydlu corff masnach newydd, banc cenedlaethol i Gymru a chomisiwn seilwaith cenedlaethol; a

3. Yn cefnogi dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy ar gyfer diwydiannau sylfaen, gan gynnwys y diwydiant dur yn arbennig.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

39

48

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at y ffaith bod gweinyddiaethau olynol Llywodraeth Cymru ers 1999 wedi â methu mynd i'r afael â chau'r bwlch ffyniant yn effeithiol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

32

48

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn credu ym mhwysigrwydd darparu strategaeth economaidd gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio ac sy'n mynd i'r afael â thanddatblygiad Cymru a'r angen am fanc datblygu i Gymru i gefnogi ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

20

48

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Mewnosod pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod y bydd y polisïau a nodir yn 'Cyrchfan Cymru', 'Buddsoddi Cymru' a 'Gweledigaeth ar gyfer y Stryd Fawr yng Nghymru' yn cyflawni datblygiad economaidd a chymdeithasol cynaliadwy ledled Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

37

48

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy i'r diwydiant dur, ei bod yn ofynnol bod:

a) yr Undeb Ewropeaidd yn cymryd camau i fynd i'r afael â dympio dur gan Tsieina;

b) Llywodraeth y DU yn parhau i gymryd camau i fynd i'r afael phrisiau ynni uchel a etifeddwyd gan y blaid Lafur;

c) Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rhyddhad ardrethi busnes;

d) lleiafswm o ran y safonau sy'n ofynnol ar gyfer dur o fewn prosesau caffael y sector cyhoeddus;

e) pecyn o gefnogaeth i staff y disgwylir iddynt golli eu swyddi.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

33

48

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 3:

'ac yn galw am ddileu ardrethi busnes ar offer a pheiriannau a sefydlu cwmni adfywio trefol i Bort Talbot.'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

33

48

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5939 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai cau'r bwlch ffyniant gyda gweddill y DU fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru;

2. Yn credu ym mhwysigrwydd darparu strategaeth economaidd gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio ac sy'n mynd i'r afael â thanddatblygiad Cymru a'r angen am fanc datblygu i Gymru i gefnogi ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru; a

3. Yn cefnogi dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy ar gyfer diwydiannau sylfaen, gan gynnwys y diwydiant dur yn arbennig.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

11

47

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


10/12/2015 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.20

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5905 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i ddefnyddio pwerau trethu newydd o dan Deddf Cymru 2014 i ganiatáu i Lywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno ardoll ar ddiodydd llawn siwgr.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

10

48

Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

 


10/12/2015 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 15.53

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5904 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu ei bod yn bwysig sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer S4C fel darlledwr annibynnol iaith Gymraeg;

2. Yn croesawu ymrwymiad parhaus S4C i symud ei phencadlys allan o Gaerdydd i Gaerfyrddin; a

3. Yn credu bod y cynnig yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant i dorri ymhellach cyllideb adran Llywodraeth y DU dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i S4C gan 26 y cant yn groes i'r amcanion hyn ac felly'n annerbyniol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

 


26/11/2015 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 15.56

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5890 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r angen i gryfhau perfformiad economi gogledd Cymru;

2. Yn cydnabod yr angen i ddatblygu gogledd Cymru fel pwerdy economaidd ochr yn ochr â phwerdy gogledd Lloegr a gan gydweithio gydag ef er mwyn hyrwyddo gweithgarwch economaidd trawsffiniol;

3. Yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddiad seilwaith i hyrwyddo'r economi, yn galw am raglen barhaus o welliannau i goridor yr A55 ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi trydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru; a

4. Yn credu bod yn rhaid i fasnachfraint ddatganoledig nesaf Cymru barhau i gynnwys llwybrau i ogledd-orllewin Lloegr.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

11

52

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


19/11/2015 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 15.09

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5877 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gwrthwynebu adnewyddu neu ailosod y system Trident bresennol gan Lywodraeth y DU; a

2. Yn cefnogi ymdrechion rhyngwladol i ymgymryd â diarfogi niwclear ledled y byd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

35

49

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pob dim a rhoi yn ei le:

Yn cefnogi ymdrechion rhyngwladol i ymgymryd â diarfogi niwclear ledled y byd, ond yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hwn.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

24

49

Derbyniwyd Gwelliant 1.

Gan fod Gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd Gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5877 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cefnogi ymdrechion rhyngwladol i ymgymryd â diarfogi niwclear ledled y byd, ond yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hwn.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

10

1

49

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.

 


12/11/2015 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.57

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5870 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod costau gofal plant yng Nghymru ymhlith y drutaf yn y byd datblygedig;

2. Yn nodi bod teuluoedd yng Nghymru yn cael llai o ofal plant am ddim na'u cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban;

3. Yn cydnabod pwysigrwydd addysg gynnar i godi cyrhaeddiad disgyblion difreintiedig;

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig darpariaeth gyson o ofal plant am ddim ac addysg gynnar ledled Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

19

0

28

47

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1– Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r cyllid a gafodd ei sicrhau yn y cytuneb ar gyllideb 2014 rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru i ddarparu £0.4 miliwn dros ddwy flynedd i weithredu astudiaeth ddichonoldeb a chynllun peilot gofal plant ar gyfer myfyrwyr mewn addysg bellach.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

10

9

47

Derbyniwyd Gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5870 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod costau gofal plant yng Nghymru ymhlith y drutaf yn y byd datblygedig;

2. Yn nodi bod teuluoedd yng Nghymru yn cael llai o ofal plant am ddim na'u cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban;

3. Yn cydnabod pwysigrwydd addysg gynnar i godi cyrhaeddiad disgyblion difreintiedig;

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig darpariaeth gyson o ofal plant am ddim ac addysg gynnar ledled Cymru;

5. Yn croesawu'r cyllid a gafodd ei sicrhau yn y cytuneb ar gyllideb 2014 rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru i ddarparu £0.4 miliwn dros ddwy flynedd i weithredu astudiaeth ddichonoldeb a chynllun peilot gofal plant ar gyfer myfyrwyr mewn addysg bellach.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

19

24

47

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


05/11/2015 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.06

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5864 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella perfformiad o ran mynd i'r afael â thlodi tanwydd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

5

42

Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.


22/10/2015 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.12

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5852 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw am foratoriwm ar unwaith ar unrhyw wariant a chynllunio ar gyfer 'llwybr du' yr M4 tan fydd pobl Cymru yn rhoi mandad pan fyddant yn ethol Llywodraeth nesaf Cymru yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2016.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

40

49

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn croesawu'r ffaith bod cytundeb y gyllideb y cytunodd Llywodraeth Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru arno yn sicrhau "na fydd gwaith yn cychwyn i adeiladu ffordd liniaru'r M4 cyn etholiadau nesaf y Cynulliad" ym mis Mai 2016 ac y byddai astudiaeth effaith amgylcheddol manwl ar y llwybr y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio, sef y llwybr du, yn cael ei gomisiynu.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

20

49

Derbyniwyd Gwelliant 1.

Derbyniwyd gwelliant 1, felly cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5852 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn croesawu'r ffaith bod cytundeb y gyllideb y cytunodd Llywodraeth Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru arno yn sicrhau "na fydd gwaith yn cychwyn i adeiladu ffordd liniaru'r M4 cyn etholiadau nesaf y Cynulliad" ym mis Mai 2016 ac y byddai astudiaeth effaith amgylcheddol manwl ar y llwybr y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio, sef y llwybr du, yn cael ei gomisiynu.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

0

19

49

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.

 


08/10/2015 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 15.45

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5839 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bwriad datganedig Llywodraeth y DU i gyflwyno model cadw pwerau ar gyfer datganoli drwy Fil Cymru newydd;

 

2. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i ddatganoli yng Nghymru ar sail model cadw pwerau;

 

3.  Yn gwrthod unrhyw fodel cadw pwerau sy'n dileu unrhyw bwerau sy'n arferadwy gan y Cynulliad o dan y trefniadau presennol;

 

4. Yn galw am greu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru fel y fframwaith cyfreithiol mwyaf dymunol ac effeithiol i gyd-fynd â'r broses o weithredu'r model cadw pwerau ar gyfer datganoli; a

 

5. Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol a phlismona i gyd-fynd â chreu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

14

51

Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.


24/09/2015 - Dadl Plaid Cymru

 Dechreuodd yr eitem am 15.26

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5827 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cefnogi cyfryngau cryf fel elfen annatod o ddemocratiaeth rydd a llawn weithredol yng Nghymru;

 

2. Yn cydnabod effaith sylweddol y cyfryngau a'r diwydiannau creadigol ar economi Cymru;

 

3. Yn pryderu am gynigion presennol Llywodraeth y DU ar gyfer y BBC cyn adnewyddu ei siarter yn 2016, gyda golwg arbennig ar ddarlledu yn Gymraeg ac yn Saesneg a BBC Cymru ac S4C cryf;

 

4. Yn galw ar ei bwyllgorau i ymchwilio i newidiadau sylfaenol i'r diwydiant cyfryngau er mwyn cefnogi ei swyddogaethau democrataidd yng Nghymru a gweithredu'r newidiadau hynny; a

 

5. Yn ailsefydlu is-bwyllgor darlledu er mwyn ffurfio barn a safbwynt ar adnewyddu siarter y BBC cyn gynted ag y bo modd.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

41

51

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau sefydlogrwydd ariannol ac annibyniaeth olygyddol S4C.


Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

 

Yn croesawu'r ffaith bod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i'r adolygiad o siarter y BBC.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

10

51

Derbyniwyd Gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5827 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cefnogi cyfryngau cryf fel elfen annatod o ddemocratiaeth rydd a llawn weithredol yng Nghymru;

 

2. Yn cydnabod effaith sylweddol y cyfryngau a'r diwydiannau creadigol ar economi Cymru;


3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau sefydlogrwydd ariannol ac annibyniaeth olygyddol S4C.

 

4. Yn pryderu am gynigion presennol Llywodraeth y DU ar gyfer y BBC cyn adnewyddu ei siarter yn 2016, gyda golwg arbennig ar ddarlledu yn Gymraeg ac yn Saesneg a BBC Cymru ac S4C cryf;

5. Yn galw ar ei bwyllgorau i ymchwilio i newidiadau sylfaenol i'r diwydiant cyfryngau er mwyn cefnogi ei swyddogaethau democrataidd yng Nghymru a gweithredu'r newidiadau hynny; a

 

6. Yn croesawu'r ffaith bod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i'r adolygiad o siarter y BBC.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

11

51

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.


17/09/2015 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.58

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5822 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynnydd yn y grant bloc sy'n deillio o gynnydd yng ngwariant iechyd Llywodraeth y DU, yn cael ei fuddsoddi yng ngwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

11

31

52

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi mewn lefelau diogel staff nyrsio sy'n cael effaith sylweddol ar ofal cleifion a recriwtio a chadw staff.


Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cydraddoldeb ar gyfer gofal iechyd meddwl yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.


Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd Gwelliant 2.

Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwella mynediad i feddygon teulu yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.


Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd Gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5822 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynnydd yn y grant bloc sy'n deillio o gynnydd yng ngwariant iechyd Llywodraeth y DU, yn cael ei fuddsoddi yng ngwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.

 

2. Yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi mewn lefelau diogel staff nyrsio sy'n cael effaith sylweddol ar ofal cleifion a recriwtio a chadw staff.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cydraddoldeb ar gyfer gofal iechyd meddwl yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwella mynediad i feddygon teulu yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

11

26

52

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


16/07/2015 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.14

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5817 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi'r anawsterau difrifol sy'n wynebu'r sectorau cig coch a llaeth yng Nghymru.

 

2. Yn gresynu at y dirywiad ym mhris wrth gât y fferm llaeth a chig oen.

 

3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i ddiwygio'r ardoll cig coch.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) defnyddio'r Rhaglen Datblygu Gwledig i ddarparu cefnogaeth ar unwaith i'r sectorau a'r busnesau yr effeithir arnynt fwyaf;

 

b) amddiffyn ffermwyr Cymru rhag anwadalrwydd y marchnadoedd byd-eang drwy gryfhau cadwyni cyflenwi domestig;

 

c) gwneud sylwadau brys i Lywodraeth y DU gyda'r bwriad o gyflwyno system ddosbarthu ardoll cig coch decach; a

 

d) gweithio tuag at gynnal blwyddyn genedlaethol bwyd a diod Cymru fel canolbwynt ar gyfer hyrwyddo cynnyrch Cymreig ar lefel ddomestig a rhyngwladol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

16

50

Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

 


02/07/2015 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.23

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5802 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu y dylai'r system addysg alluogi'r gweithlu addysg i arwain ar ddatblygiad proffesiynol a gwella safonau addysg;

 

2. Yn galw am godi safonau proffesiynol y gweithlu addysg drwy wneud addysgu yn broffesiwn lefel Meistr a gwella datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y gweithlu cyfan; a

 

3. Yn galw am ddatganoli tâl ac amodau athrawon i Gymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

44

53

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Mewnosod pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn credu y gall corff cofrestru proffesiynol helpu gyda gwelliant parhaus staff a myfyrwyr addysgu ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cynrychiolaeth etholedig o gyfoedion o'r proffesiwn addysgu i Gyngor y Gweithlu Addysg er mwyn sicrhau ei fod yn atebol fel sy'n briodol.


Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ym mhwynt 2, dileu pob dim ar ôl 'Meistr' a rhoi yn ei le:

 

'ac yn galw am well mynediad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y gweithlu cyfan, ni waeth pwy yw'r cyflogwr; a'


Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd Gwelliant 2.

Gwelliant 3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

 

Yn cydnabod y manteision sydd ynghlwm wrth ddatganoli tâl ac amodau athrawon i Gymru cyn belled â bod digon o adnoddau'n cael eu trosglwyddo.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

0

21

52

Derbyniwyd Gwelliant 3.

Derbyniwyd gwelliant 3, felly cafodd gwelliant 4  ei ddad-ddethol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5802 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai'r system addysg alluogi'r gweithlu addysg i arwain ar ddatblygiad proffesiynol a gwella safonau addysg;

 

2. Yn galw am godi safonau proffesiynol y gweithlu addysg drwy wneud addysgu yn broffesiwn lefel Meistr ac yn galw am well mynediad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y gweithlu cyfan, ni waeth pwy yw'r cyflogwr; a

 

3. Yn cydnabod y manteision sydd ynghlwm wrth ddatganoli tâl ac amodau athrawon i Gymru cyn belled â bod digon o adnoddau'n cael eu trosglwyddo.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

12

53

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.


18/06/2015 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.55

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5788 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu darparu'n effeithlon ac yn effeithiol ac yn diwallu anghenion dinasyddion Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

14

48

Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

 


11/06/2015 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 15.59

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5781 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau effeithiol i hyrwyddo cyfranogiad economaidd llawn gan fenywod.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

15

48

Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.


01/06/2015 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.20

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5759 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod nad yw fformiwla gyllido Barnett er budd pennaf Cymru;

 

2. Yn nodi pe bai Cymru'n cael ei hariannu ar yr un sail â'r Alban fesul pen o'r boblogaeth, byddai'n cael £1.2 biliwn ychwanegol bob blwyddyn; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddadlau'r achos o blaid cyllido Cymru ar yr un sail â'r Alban.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

38

47

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

 

1. Yn cydnabod canfyddiadau Comisiwn Holtham fod fformiwla Barnett yn tanwario ar Gymru o ryw £300 miliwn y flwyddyn;

 

2. Yn credu y dylai Cymru gael ei hariannu'n deg;

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i:

 

a) comisiynu diweddariad o ddadansoddiad Comisiwn Holtham;

 

b) sefydlu llawr Barnett ar unwaith; ac

 

c) cynyddu'r grant bloc i lefel teg i sicrhau cyllid teg i Gymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

3

0

44

47

Gwrthodwyd Gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwyntiau 2 a 3 ac yn eu lle rhoi:

 

2. Yn nodi bod astudiaethau wedi dod i'r casgliad dro ar ôl tro nad yw Cymru'n cael ei chyllido'n unol â'r angen.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru yn cael ei chyllido'n deg drwy weithredu terfyn ariannu isaf sy'n cael cefnogaeth drawsbleidiol.


Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

19

47

Derbyniwyd Gwelliant 2.

 

Derbyniwyd gwelliant 2, felly cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol

 

Gwelliant 4 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn croesawu cytundeb Dydd Gŵyl Dewi a'r cynlluniau ar gyfer cyllid gwaelodol ar gyfer Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

34

47

Gwrthodwyd Gwelliant 4.

 

Derbyniwyd gwelliant 2, felly cafodd gwelliant 5 ei ddad-ddethol

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5759 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod nad yw fformiwla gyllido Barnett er budd pennaf Cymru;

 

2. Yn nodi bod astudiaethau wedi dod i'r casgliad dro ar ôl tro nad yw Cymru'n cael ei chyllido'n unol â'r angen.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru yn cael ei chyllido'n deg drwy weithredu terfyn ariannu isaf sy'n cael cefnogaeth drawsbleidiol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.

 


07/05/2015 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.49

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5751 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai plismona adlewyrchu anghenion pobl Cymru.

2. Yn credu bod heddluoedd Cymru wedi cael eu gwleidyddoli drwy sefydlu Comisiynwyr Heddlu a Throseddu etholedig.

3. Yn galw am ddileu'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu cyn gynted â phosibl.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

8

33

Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.


23/04/2015 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.13

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5741 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi pwysigrwydd sefydliadau addysg bellach i ddarparu addysg ôl-16;

 

2. Yn nodi pwysigrwydd darparu cyfleoedd dysgu i oedolion ar gyfer oedolion sydd am ddatblygu sgiliau newydd;

 

3. Yn gresynu at effaith y toriadau i addysg ôl-16 ar y sector addysg bellach; a

 

4. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fonitro tâl uwch reolwyr mewn addysg uwch yn flynyddol ac yn annog hynny i gael ei ymestyn i addysg bellach.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

9

46

Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.


26/03/2015 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.48

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5733 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gwrthwynebu adleoli system arfau niwclear y DU i Gymru;

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau yn nodi hyn i Lywodraeth y DU;

 

3. Yn gwrthwynebu adnewyddu neu newid y system Trident bresennol gan Lywodraeth y DU; a

 

4. Yn cefnogi ymdrechion rhyngwladol i ymgymryd â diarfogi niwclear ledled y byd.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

38

47

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau i benderfynu ble i leoli arfau niwclear ac yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hwn.

 

[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

13

47

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5733 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau i benderfynu ble i leoli arfau niwclear ac yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hwn.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

9

47

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


12/03/2015 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.41

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5718 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Adroddiad Synthesis y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) ar gyfer 2014 sy'n datgan:

a) bod dylanwad dynol ar y system hinsawdd yn glir, ac mai'r allyriadau anthropogenig diweddar o nwyon tŷ gwydr yw'r rhai uchaf mewn hanes;

b) bod yr awyrgylch a'r môr wedi cynhesu, bod cyfanswm yr eira a'r rhew wedi lleihau, a lefel y môr wedi codi; a

c) y gall gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau dros y degawdau nesaf leihau risgiau i'r hinsawdd yn yr 21ain ganrif a thu hwnt, cynyddu rhagolygon ar gyfer addasu effeithiol, lleihau costau a heriau lliniaru yn y tymor hwy, a chyfrannu at lwybrau datblygu cynaliadwy sy'n gallu dygymod â'r newid yn yr hinsawdd.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno targedau statudol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

40

49

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 2 a rhoi'r canlynol yn ei le:

Yn edrych ymlaen at Fil yr Amgylchedd a fydd yn gyfrwng i Lywodraeth Cymru ddeddfu ar gyfer targedau statudol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

15

49

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5718 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Adroddiad Synthesis y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) ar gyfer 2014 sy'n datgan:

a) bod dylanwad dynol ar y system hinsawdd yn glir, ac mai'r allyriadau anthropogenig diweddar o nwyon tŷ gwydr yw'r rhai uchaf mewn hanes;

b) bod yr awyrgylch a'r môr wedi cynhesu, bod cyfanswm yr eira a'r rhew wedi lleihau, a lefel y môr wedi codi; a

c) y gall gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau dros y degawdau nesaf leihau risgiau i'r hinsawdd yn yr 21ain ganrif a thu hwnt, cynyddu rhagolygon ar gyfer addasu effeithiol, lleihau costau a heriau lliniaru yn y tymor hwy, a chyfrannu at lwybrau datblygu cynaliadwy sy'n gallu dygymod â'r newid yn yr hinsawdd.

2. Yn edrych ymlaen at Fil yr Amgylchedd a fydd yn gyfrwng i Lywodraeth Cymru ddeddfu ar gyfer targedau statudol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


05/03/2015 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.45

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5710 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu na ddylai lefel Cymru o hunanlywodraeth fod yn is nag unrhyw ran arall o'r DU;

 

2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni cydraddoldeb o ran pwerau a pharch i Gymru yn ystod ei daliadaeth;

 

3. Yn galw am gydraddoldeb llawn o ran pwerau a chyllid ar gyfer Cymru a'r Alban;

 

4. Yn galw am drosglwyddo cyfrifoldeb am gyfansoddiad Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Fil ymreolaeth newydd;

 

5. Yn nodi y dylai'r Bil ymreolaeth gynnwys datganoli'r cyfrifoldeb dros adnoddau naturiol Cymru yn llawn;

 

6. Yn galw ymhellach am greu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru a datganoli plismona, carchardai, llysoedd a chyfiawnder troseddol; a

 

7. Yn credu y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael y grym i gefnogi'r rhai sydd angen diogelwch cymdeithasol drwy bwerau cynyddol mewn perthynas â budd-daliadau lles fel yr argymhellodd y Comisiwn Smith i'r Alban.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

35

44

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

 

1. Yn croesawu'r camau sylweddol a gymerwyd ymlaen mewn perthynas â'r setliad datganoli i Gymru ers 2010, gan gynnwys:

 

a) refferendwm ar bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

 

b) sefydlu Comisiwn Silk;

 

c) cyflwyno Deddf Cymru 2014, sydd wedi datganoli treth stamp, trethi busnes a threth tirlenwi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a darparu ar gyfer refferendwm ar a ddylid datganoli elfen o dreth incwm.

 

2. Yn croesawu'r cyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi sy'n cynnig:

 

a) datganoli'r cyfrifoldeb dros bob caniatâd cynllunio i ddatblygiadau prosiectau ynni hyd at 350 MW ar y tir ac yn nyfroedd tiriogaethol Cymru;

 

b) datganoli terfynau cyflymder, rheoliadau bws a thacsi, a swyddogaethau'r Comisiynydd Traffig;

 

c) cyflwyno model cadw pwerau;

 

d) datganoli datblygu porthladdoedd;

 

e) datganoli pwerau yn ymwneud ag etholiadau'r Cynulliad ac etholiadau llywodraeth leol;

 

f) datganoli cymhwysedd dros ddyletswyddau cydraddoldeb ar gyfer y sector cyhoeddus datganoledig; a

 

g) datganoli trwyddedu echdynnu olew a nwy ar y tir yng Nghymru

 

3. Yn credu bod yn rhaid inni fynd ymhellach i sicrhau ymreolaeth i Gymru ac yn galw am:

 

a) datganoli'n llawn y cynigion Silk Rhan 1 sy'n weddill ar bwerau ariannol i Gymru;

 

b) datganoli'n llawn y cynigion Silk Rhan 2 sy'n weddill ar bwerau deddfwriaethol i Gymru;

 

c) datganoli cyllid Network Rail mewn perthynas â rhwydwaith Cymru;

 

d) datganoli terfynau yfed a gyrru;

 

e) datganoli'r cyfrifoldeb dros ariannu gwariant cyhoeddus ar S4C i'r Cynulliad;

 

f) datganoli cyfiawnder ieuenctid, plismona a phwerau cyfiawnder eraill yn y tymor hwy;

 

g) trosglwyddo pwerau i reoli asedau economaidd Ystâd y Goron;

 

h) trosglwyddo rheolaeth dros ystod o fuddion ar gyfer pobl hŷn, gofalwyr a phobl anabl;

 

i) datganoli pwerau i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 yn etholiadau cenedlaethol a lleol Cymru;

 

j) rhoi'r hawl i Lywodraeth Cymru osod ei gwyliau banc ei hun; a

 

k) rhoi'r pŵer i Gomisiynydd Plant Cymru archwilio materion sy'n effeithio ar blant yng Nghymru ond nad ydynt o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru.

 

4. Yn galw am sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ar draws y DU i ddrafftio cynllun ar gyfer undeb newydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

3

0

41

44

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

 

1. Yn nodi cynnig y Cynulliad, a gefnogwyd gan bob plaid a'i gymeradwyo ar 22 Hydref 2014, sy'n amlinellu ei ddyheadau ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru;

 

2. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Papur Gorchymyn sy'n amlinellu ein cynigion ar gyfer camau nesaf datganoli;

 

3. Yn cydnabod bod cynnydd wedi'i wneud o safbwynt rhai o'r dyheadau y cytunwyd arnynt gan y Cynulliad ar gyfer datganoli, gan gynnwys model cadw pwerau i Gymru, a phwerau newydd i'r Cynulliad ar drafnidiaeth, adnoddau naturiol ac etholiadau;

 

4. Yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cydnabod y dylai Cymru gael setliad cyllido tecach, ond yn mynegi siom nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell i fodloni cais unfrydol gan y Cynulliad i Lywodraeth y DU ymrwymo i ddull penodedig o atal rhagor o gydgyfeirio.

 

5. Yn mynegi siom ynghylch y diffyg cynnydd o ran datganoli pwerau eraill a argymhellwyd gan Gomisiwn Llywodraeth y DU ar Ddatganoli yng Nghymru: a

6. Yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i roi sylw i'r materion hyn sy'n weddill yn dilyn Etholiad Cyffredinol y DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

18

44

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5710 Elin Jones (Ceredigion)

 

1. Yn nodi cynnig y Cynulliad, a gefnogwyd gan bob plaid a'i gymeradwyo ar 22 Hydref 2014, sy'n amlinellu ei ddyheadau ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru;

2. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Papur Gorchymyn sy'n amlinellu ein cynigion ar gyfer camau nesaf datganoli;

3. Yn cydnabod bod cynnydd wedi'i wneud o safbwynt rhai o'r dyheadau y cytunwyd arnynt gan y Cynulliad ar gyfer datganoli, gan gynnwys model cadw pwerau i Gymru, a phwerau newydd i'r Cynulliad ar drafnidiaeth, adnoddau naturiol ac etholiadau;

4. Yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cydnabod y dylai Cymru gael setliad cyllido tecach, ond yn mynegi siom nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell i fodloni cais unfrydol gan y Cynulliad i Lywodraeth y DU ymrwymo i ddull penodedig o atal rhagor o gydgyfeirio.

5. Yn mynegi siom ynghylch y diffyg cynnydd o ran datganoli pwerau eraill a argymhellwyd gan Gomisiwn Llywodraeth y DU ar Ddatganoli yng Nghymru: a

6. Yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i roi sylw i'r materion hyn sy'n weddill yn dilyn Etholiad Cyffredinol y DU.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

9

44

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


12/02/2015 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.50

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5695 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i baratoi cynllun gweithlu cenedlaethol 10 mlynedd newydd ar gyfer y GIG, sy'n cynnwys camau i hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon ychwanegol, er mwyn sicrhau bod y GIG yn gallu darparu gwasanaethau iechyd ym mhob rhan o Gymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

38

48

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu popeth ar ôl 'cynllun gweithlu cenedlaethol 10 mlynedd newydd ar gyfer y GIG,' a rhoi yn ei le 'sy'n sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i hyfforddi a recriwtio digon o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i sicrhau bod iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru yn barod ar gyfer y dyfodol '.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

20

48

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

 

Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu at y ffaith bod y naill Lywodraeth Cymru ar ôl y llall wedi methu â chynllunio'n effeithiol ar gyfer anghenion gweithlu'r GIG yng Nghymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

25

48

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5695 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i baratoi cynllun gweithlu cenedlaethol 10 mlynedd newydd ar gyfer y GIG, sy'n sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i hyfforddi a recriwtio digon o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i sicrhau bod iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru yn barod ar gyfer y dyfodol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


05/02/2015 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.59

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5686 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod Cymru yn hanesyddol wedi gwneud cyfraniad sylweddol i bortffolio ynni'r DU.

 

2. Yn gresynu at y darpariaethau ym Mil Seilwaith Llywodraeth y DU a fydd yn caniatáu i gwmnïau ffracio ddrilio o dan gartrefi yng Nghymru heb ganiatâd gan berchnogion yr eiddo.

 

3. Yn credu y dylai ynni gael ei ddatganoli'n llawn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac y dylai Llywodraeth Cymru gael y pŵer i atal ffracio.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei phŵer i atal ffracio rhag digwydd yng Nghymru hyd nes y profir bod ffracio yn ddiogel yng nghyd-destun yr amgylchedd ac iechyd cyhoeddus.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

16

53

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


29/01/2015 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 15.50

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5678 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu at yr effaith y mae'r polisi o lymder wedi'i gael ar gymunedau ledled Cymru, sydd wedi arwain at:

 

a) economi Cymru yn colli dros £1 biliwn drwy doriadau i amddiffyn cymdeithasol;

 

b) cynnydd yn nibyniaeth pobl ar fanciau bwyd;

 

c) toriadau i wariant llywodraeth leol sydd wedi arwain at gau asedau cymunedol a thynnu gwasanaethau yn ôl;

 

d) cynnydd yn y bwlch cyfoeth rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf; a

 

e) parhad mewn anghydbwysedd economaidd gyda gorddibyniaeth parhaus ar wasanaethau ariannol a chyfoeth yn cael ei ganolbwyntio mewn un cornel o'r wladwriaeth Brydeinig.

 

2. Yn galw am:

 

a) rhoi terfyn ar economeg o lymder;

 

b) ail-gydbwyso grym a chyfoeth o fewn y wladwriaeth Brydeinig;

 

c) mabwysiadu polisïau economaidd a fydd yn arwain at swyddi newydd mewn sectorau cynaliadwy;

 

d) cynyddu'r isafswm cyflog i gyflog byw;

 

e) rhoi terfyn ar ddatgymalu'r wladwriaeth les;

 

f) cydraddoldeb ariannol rhwng Cymru a'r Alban; a

 

g) datganoli ysgogiadau cyllidol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

43

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

 

Yn cydnabod yr angen am reolaeth economaidd ddarbodus gan lywodraethau ar bob lefel a'r angen i ddarparu sicrwydd economaidd i bobl Cymru a'r DU.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

9

31

52

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

 

1. Yn nodi yr etifeddodd Llywodraeth Glymblaid y DU y diffyg ariannol mwyaf erioed mewn cyfnod o heddwch.

 

2. Yn croesawu, diolch i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn Llywodraeth y DU:

 

a) bod y diffyg yn y gyllideb wedi cael ei haneru;

 

b) bod buddsoddiad net y sector cyhoeddus yn uwch fel cyfran o CMC nag yr oedd rhwng 1997 a 2010;

 

c) bod 1.8 miliwn o swyddi wedi cael eu creu;

 

d) bod treth incwm wedi cael ei thorri £800 ar gyfer 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru sydd ar incwm isel a chanolig drwy godi trothwy’r dreth incwm i £10,500, gan arbed 153,000 o bobl rhag talu treth incwm yn gyfan gwbl;

 

e) bod y Banc Buddsoddi Gwyrdd cyntaf yn y byd wedi cael ei sefydlu;

 

f) bod cyflogwyr yn cael £2,000 o arian yn ôl ar y dreth y maent yn ei thalu ar eu gweithwyr;

 

g) y dilëwyd cynlluniau i dalu llai i weithwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru dim ond am eu bod yn byw y tu allan i Lundain a de-ddwyrain Lloegr;

 

h) bod y gyfradd gyflogaeth ar y lefel uchaf erioed o £30.8 miliwn, yn ôl ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol; ac 

 

i) bod tâl rheolaidd wedi cynyddu 1.8 y cant a thâl yn y sector preifat wedi cynyddu 2.2 y cant, sy'n cynrychioli cynnydd uwch na chwyddiant mewn cyflogau gweithwyr, yn ôl ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

 

3. Yn credu:

 

a) na all rhaglen flaengar gael ei darparu gan Lywodraeth sy'n fethdalwr;

 

b) na fyddai mynnu cyllid ychwanegol gan Lywodraeth San Steffan yn bosibl yng nghyd-destun Cymru annibynnol; ac

 

c) y dylem gydbwyso'r gyllideb erbyn 2018, torri trethi ar gyfer pobl sy'n ennill cyflogau isel a chanolig a sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus digonol ar gael, gan greu cyfleoedd i bawb.

 

4. Yn galw am:

 

a) lleihad teg yn y diffyg ariannol drwy sicrhau bod pobl sy'n ennill cyflogau uchel a'r bobl gyfoethocaf yn talu eu rhan, gan gynnwys drwy gyflwyno treth plastai wedi'i fandio;

 

b) rheolau ariannol newydd i gydbwyso'r gyllideb wrth ganiatáu ar gyfer buddsoddi cynhyrchiol;

 

c) toriad pellach o £400 yn y dreth incwm ar gyfer pobl sydd ar gyflog isel a chanolig;

 

d) gweithredu cynigion Silk Rhan 1 ar bwerau ariannol i Gymru yn llawn; a

 

d) cyllid teg i Gymru, drwy gynyddu grant bloc Cymru i lefel deg dros gyfnod Senedd a mynd i'r afael â'r anghydbwysedd drwy sefydlu llawr Barnett ar lefel sy'n adlewyrchu'r angen i Gymru gael ei hariannu'n deg.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

12

35

52

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 1c) dileu 'toriadau i wariant llywodraeth leol' a rhoi yn ei le 'y toriad digyffelyb o £1.5 biliwn gan Lywodraeth y DU i Grant Bloc Llywodraeth Cymru';

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 4 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 2f) a rhoi yn ei le:

 

setliad ariannol teg ar frys i Gymru gan weithredu cyllid gwaelodol a fydd yn arwain at fwy o gydraddoldeb ariannol â'r Alban a gweddill y DU;

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

12

11

51

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5678 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu at yr effaith y mae'r polisi o lymder wedi'i gael ar gymunedau ledled Cymru, sydd wedi arwain at:

 

a) economi Cymru yn colli dros £1 biliwn drwy doriadau i amddiffyn cymdeithasol;

 

b) cynnydd yn nibyniaeth pobl ar fanciau bwyd;

 

c) toriadau i wariant llywodraeth leol sydd wedi arwain at gau asedau cymunedol a thynnu gwasanaethau yn ôl;

 

d) cynnydd yn y bwlch cyfoeth rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf; a

 

e) parhad mewn anghydbwysedd economaidd gyda gorddibyniaeth parhaus ar wasanaethau ariannol a chyfoeth yn cael ei ganolbwyntio mewn un cornel o'r wladwriaeth Brydeinig.

 

2. Yn galw am:

 

a) rhoi terfyn ar economeg o lymder;

 

b) ail-gydbwyso grym a chyfoeth o fewn y wladwriaeth Brydeinig;

 

c) mabwysiadu polisïau economaidd a fydd yn arwain at swyddi newydd mewn sectorau cynaliadwy;

 

d) cynyddu'r isafswm cyflog i gyflog byw;

 

e) rhoi terfyn ar ddatgymalu'r wladwriaeth les;

 

f) setliad ariannol teg ar frys i Gymru gan weithredu cyllid gwaelodol a fydd yn arwain at fwy o gydraddoldeb ariannol â'r Alban a gweddill y DU;

 

g) datganoli ysgogiadau cyllidol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

43

52

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


22/01/2015 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.06

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5671 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

1. Yn nodi:

 

a) pwysigrwydd y diwydiant amaeth i economi, amgylchedd a chymunedau Cymru;

 

b) yr argyfwng yn y sector llaeth sy'n deillio o ostyngiad yn y prisiau llaeth a delir i ffermwyr ac ansefydlogrwydd y gadwyn laeth;

 

c) yr ansicrwydd o ran y taliad sylfaenol sy'n deillio o ddiddymu Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014 yn dilyn her barnwrol;

 

d) y bleidlais yn Senedd Ewrop i roi'r pŵer i aelod-wladwriaethau i awdurdodi cnydau GM i aelod-wladwriaethau, a'r ffaith mai Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad yng Nghymru.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) gweithio gyda'r gadwyn laeth a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu'n benodol i sicrhau cynaliadwyedd hyfyw y cynhyrchwyr llaeth;

 

b) sicrhau adnoddau digonol ac amserlen gyraeddadwy i ddiogelu talu'r taliad sylfaenol ar 1 Rhagfyr 2015; ac

 

c) ail-ddatgan ei bwriad i gadw Cymru yn ddi-GM.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

17

50

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


20/11/2014 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.14

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5622 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu bod costau cyfleustodau yn annerbyniol o uchel ac yn nodi'r anawsterau penodol y mae hyn yn eu hachosi ar gyfer cymunedau gwledig, busnesau, a'r rhai ar incwm isel.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu i liniaru costau cyfleustodau uchel.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

38

47

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi'r gronfa 'Cheaper Energy Together' a lansiwyd gan Adran Llywodraeth y DU ar Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) i gefnogi newid cyflenwyr ar y cyd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda DECC i hyrwyddo newid cyflenwyr ar y cyd ledled Cymru i leihau biliau defnyddwyr.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn galw ar Lywodraeth y DU i rewi prisiau ynni.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

14

47

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar gostau cysylltiad â'r grid a'u heffaith ar filiau cyfleustodau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i'r Grid Cenedlaethol i sicrhau ei fod yn edrych ar Gymru yn ei chyfanrwydd wrth gyfrifo sut y mae trydan yn cael ei allforio pan gaiff cyfrifiadau prisio eu gwneud er mwyn sicrhau gwerth am arian i ddefnyddwyr.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried pa mor agored i gynnydd mewn prisiau y mae cwsmeriaid nad ydynt ar y grid, lle mae opsiynau ar gyfer newid yn gyfyngedig, neu lle nad yw marchnadoedd yn cael eu rheoleiddio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5622 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu bod costau cyfleustodau yn annerbyniol o uchel ac yn nodi'r anawsterau penodol y mae hyn yn eu hachosi ar gyfer cymunedau gwledig, busnesau, a'r rhai ar incwm isel.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i rewi prisiau ynni.

 

3. Yn nodi'r gronfa 'Cheaper Energy Together' a lansiwyd gan Adran Llywodraeth y DU ar Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) i gefnogi newid cyflenwyr ar y cyd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda DECC i hyrwyddo newid cyflenwyr ar y cyd ledled Cymru i leihau biliau defnyddwyr.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu i liniaru costau cyfleustodau uchel.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar gostau cysylltiad â'r grid a'u heffaith ar filiau cyfleustodau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

 

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i'r Grid Cenedlaethol i sicrhau ei fod yn edrych ar Gymru yn ei chyfanrwydd wrth gyfrifo sut y mae trydan yn cael ei allforio pan gaiff cyfrifiadau prisio eu gwneud er mwyn sicrhau gwerth am arian i ddefnyddwyr.

 

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried pa mor agored i gynnydd mewn prisiau y mae cwsmeriaid nad ydynt ar y grid, lle mae opsiynau ar gyfer newid yn gyfyngedig, neu lle nad yw marchnadoedd yn cael eu rheoleiddio.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

14

47

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


06/11/2014 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.24

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5611 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu at y ffaith bod y bwlch anghydraddoldeb rhwng y bobl a'r rhanbarthau tlotaf a'r rhai cyfoethocaf wedi tyfu o dan y naill Lywodraeth y DU ar ôl y llall.

 

2. Yn nodi bod GYC y pen yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 62.7% o gyfartaledd y DU tra bod GYC y pen yng nghanol Llundain yn 308.8%.

 

3. Yn cydnabod yr angen i newid cydbwysedd economi'r DU i ffwrdd o grynodiad o gyfoeth yn ne-ddwyrain Lloegr.

 

4. Yn nodi ffocws strategaeth economaidd Llywodraeth y DU ar y sector gwasanaethau ariannol ac yn nodi ymhellach, er y gall hwn fod yn sector twf yng Nghymru, fod gweithgynhyrchu, cynhyrchu ac allforion wrth wraidd economi Cymru.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) canolbwyntio ar wireddu ac adeiladu ar botensial economaidd Cymru;

 

b) blaenoriaethu buddsoddiadau seilwaith mewn ardaloedd sydd ei angen fwyaf;

 

c) sefydlu banc busnes sy'n eiddo i'r cyhoedd i gynnig cyllid i fusnesau bach ar gyfraddau cystadleuol; a

 

d) ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i fod yn gymwys i bob busnes sydd â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

40

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ym mhwynt 1, ar ôl DU mewnosoder "a Llywodraeth Cymru"

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

35

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:

 

ac yn cydnabod hefyd yr angen i newid cydbwysedd economi Cymru i ffwrdd o grynodiad o gyfoeth ar hyd coridor de Cymru (yr M4).

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

35

50

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

 

Yn cydnabod y sefydlogrwydd economaidd sy'n deillio o bolisïau Llywodraeth y DU sydd yn ysgogi twf economaidd ledled y DU.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

35

50

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu is-bwynt 5(d).

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

5

20

50

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

 

Paratoi strategaeth allforio glir i Gymru i uno dyfeisgarwch sector preifat â chefnogaeth sector cyhoeddus.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lwydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu cynigion y Ceidwadwyr Cymreig sy'n cynnwys cael gwared ar Cyllid Cymru a sefydlu Buddsoddi Cymru yn ei le.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

40

50

Gwrthodwyd gwelliant 6.

 

Gwelliant 7 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu at y dirywiad yn GYC Cymru o dan 15 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

35

50

Gwrthodwyd gwelliant 7.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5611 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu at y ffaith bod y bwlch anghydraddoldeb rhwng y bobl a'r rhanbarthau tlotaf a'r rhai cyfoethocaf wedi tyfu o dan y naill Lywodraeth y DU ar ôl y llall.

 

2. Yn nodi bod GYC y pen yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 62.7% o gyfartaledd y DU tra bod GYC y pen yng nghanol Llundain yn 308.8%.

 

3. Yn cydnabod yr angen i newid cydbwysedd economi'r DU i ffwrdd o grynodiad o gyfoeth yn ne-ddwyrain Lloegr.

 

4. Yn nodi ffocws strategaeth economaidd Llywodraeth y DU ar y sector gwasanaethau ariannol ac yn nodi ymhellach, er y gall hwn fod yn sector twf yng Nghymru, fod gweithgynhyrchu, cynhyrchu ac allforion wrth wraidd economi Cymru.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) canolbwyntio ar wireddu ac adeiladu ar botensial economaidd Cymru;

 

b) blaenoriaethu buddsoddiadau seilwaith mewn ardaloedd sydd ei angen fwyaf;

 

c) sefydlu banc busnes sy'n eiddo i'r cyhoedd i gynnig cyllid i fusnesau bach ar gyfraddau cystadleuol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

15

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


23/10/2014 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.36

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5606 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi'r amodau economaidd sy'n gynyddol anodd i ffermwyr;

 

2. Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i drosglwyddo'r uchafswm o 15% o golofn 1 i golofn 2 o'r Polisi Amaethyddol Cyffredin.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cynyddu ei hymdrechion i leihau biwrocratiaeth yn y diwydiant;

 

b) cymryd camau ymarferol a chyflym i gefnogi'r sectorau cig coch a llaeth yng Nghymru; ac

 

c) cyflwyno cynllun Ardaloedd â Chyfyngiadau Naturiol  i helpu'r rhai sy'n ffermio o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

8

0

41

49

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi proffil oedran uchel ffermwyr Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella prosesau cynllunio ar gyfer olyniaeth a ffermio ar y cyd.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn gresynu at y ffaith nad oes Ardal â Chyfyngiadau Naturiol benodedig yn rhan o'r Cynllun Datblygu Gwledig; penderfyniad sydd â'i wreiddiau mewn dewisiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru'n Un.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

33

49

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri'r gyllideb Amaethyddiaeth a Bwyd o 17.8% a'r gyllideb Iechyd Anifeiliaid o 20.7% yng Nghyllideb Ddrafft 2015-16.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

19

5

25

49

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer swydd benodol yn y Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Amaethyddiaeth a Bwyd.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Gwrthodwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gefnogi cod ymarfer gwirfoddol ar gyfer archfarchnadoedd i neilltuo rhan amlwg o'u harwynebedd llawr ar gyfer cig ansawdd uchel o Gymru sydd â statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig a chig Tractor Coch Prydeinig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

25

48

Gwrthodwyd gwelliant 5.

 

Gwelliant 6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu y byddai lleoli lladd-dy cig eidion a chig oen yng ngogledd Cymru yn sicrhau cynaliadwyedd cynhyrchu cig coch yng ngogledd Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Gwrthodwyd gwelliant 6.

 

Gwelliant 7 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddiwygio'r ardoll hybu cig er mwyn sicrhau bod yr ardoll yn daladwy i'r wlad lle cafodd yr anifail ei eni.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd gwelliant 7.

 

Gwelliant 8 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod canran uwch o'r cynnyrch a brynir drwy brosesau caffael cyhoeddus yn dod o Gymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd gwelliant 8.

 

Gwelliant 9 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar gylch gorchwyl yr adolygiad annibynnol o'r diwydiant llaeth yng Nghymru i gynnwys datblygu cynllun gweithredu strategol cynhwysfawr i gefnogi'r diwydiant llaeth.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Gwrthodwyd gwelliant 9.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5606 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi proffil oedran uchel ffermwyr Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella prosesau cynllunio ar gyfer olyniaeth a ffermio ar y cyd.

 

2. Yn nodi'r amodau economaidd sy'n gynyddol anodd i ffermwyr;

 

3. Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i drosglwyddo'r uchafswm o 15% o golofn 1 i golofn 2 o'r Polisi Amaethyddol Cyffredin.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cynyddu ei hymdrechion i leihau biwrocratiaeth yn y diwydiant;

 

b) cymryd camau ymarferol a chyflym i gefnogi'r sectorau cig coch a llaeth yng Nghymru; ac

 

c) cyflwyno cynllun Ardaloedd â Chyfyngiadau Naturiol  i helpu'r rhai sy'n ffermio o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddiwygio'r ardoll hybu cig er mwyn sicrhau bod yr ardoll yn daladwy i'r wlad lle cafodd yr anifail ei eni.

 

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod canran uwch o'r cynnyrch a brynir drwy brosesau caffael cyhoeddus yn dod o Gymru.

 

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


02/10/2014 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.14

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NDM5587 Elin Jones AC (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu bod tagfeydd ar yr M4 yn ardal Casnewydd yn niweidiol i economi Cymru, a bod angen datrysiad cynaliadwy a fforddiadwy;

 

2. Yn cadarnhau nad yw'r achos wedi'i wneud ar gyfer bwrw ymlaen â'r 'llwybr du';

 

3. Yn credu y bydd neilltuo holl bwerau benthyca newydd Cymru i un prosiect yn cyfyngu ar fuddsoddi mewn mannau eraill; a

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth llawn i'r 'llwybr glas' am resymau economaidd, amgylcheddol ac ariannol ac er mwyn rheoli traffig.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

36

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

 

1. Yn credu bod tagfeydd ar yr M4 yn ardal Casnewydd yn niweidiol i economi Cymru, a bod angen datrysiad cynaliadwy a fforddiadwy;

 

2. Yn cadarnhau bod diffyg achos tryloyw dros fwrw ymlaen â'r 'llwybr du' ac yn galw ar Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i gyhoeddi tystiolaeth glir bod materion amgylcheddol wedi cael eu hystyried yn llawn a bod proses o ddiwydrwydd dyladwy effeithiol wedi ei dilyn;

 

3. Yn credu y bydd neilltuo holl bwerau benthyca newydd Cymru i un prosiect yn cyfyngu ar fuddsoddi mewn mannau eraill ac y bydd, yn ddiamau, yn effeithio ar gynlluniau trafnidiaeth ledled Cymru; a

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro pam y cafodd y 'llwybr glas' ei ddiystyru yn gynnar ac amlinellu pa amodau economaidd, rheoli traffig, amgylcheddol ac ariannol y methodd y llwybr â'u cwrdd.


Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

39

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwyntiau 2, 3 a 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn credu y dylai buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a chamau gweithredu i annog newid moddol oddi wrth ddefnyddio ceir fod yn flaenoriaeth fel rhan o gynllun trafnidiaeth gynaliadwy ac integredig.

 

 Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

10

49

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Mewnosod ym mhwynt 4 ar ôl 'llwybr glas':

Yn ogystal â datrysiadau trafnidiaeth gyhoeddus addas

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

36

50

Gwrthodwyd gwelliant 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5587 Elin Jones AC (Ceredigion) 

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu bod tagfeydd ar yr M4 yn ardal Casnewydd yn niweidiol i economi Cymru, a bod angen datrysiad cynaliadwy a fforddiadwy;

 

2. Yn cadarnhau nad yw'r achos wedi'i wneud ar gyfer bwrw ymlaen â'r 'llwybr du';

 

3. Yn credu y dylai buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a chamau gweithredu i annog newid moddol oddi wrth ddefnyddio ceir fod yn flaenoriaeth fel rhan o gynllun trafnidiaeth gynaliadwy ac integredig.

 

4. Yn credu y bydd neilltuo holl bwerau benthyca newydd Cymru i un prosiect yn cyfyngu ar fuddsoddi mewn mannau eraill; a

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth llawn i'r 'llwybr glas' am resymau economaidd, amgylcheddol ac ariannol ac er mwyn rheoli traffig.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

36

50

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


25/09/2014 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.14

NDM5571 Elin Jones (Ceredigion)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai'r berthynas rhwng cenhedloedd yr ynysoedd hyn newid yn dilyn y refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban;

2. Yn credu bod pobl Cymru yn sofran ac mai nhw ddylai benderfynu ar natur a chyflymder datblygiadau cyfansoddiadol yn y wlad hon; a

3. Yn galw ar y Prif Weinidog i ddechrau trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar unwaith i hwyluso'r broses o drosglwyddo cyfrifoldeb dros swyddogaethau i Gymru, er mwyn ail-gydbwyso pwerau rhwng y cenhedloedd.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

42

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn croesawu'n fawr benderfyniad diamwys yr Alban i bleidleisio yn erbyn annibyniaeth ac yn edrych ymlaen at weithio gyda phob rhan o'r Deyrnas Unedig i greu undeb cryfach at y dyfodol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

41

52

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg), Aled Roberts (Gogledd Cymru):

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

1. Yn croesawu'r ffaith fod pobl yr Alban wedi dewis aros yn aelod o deulu cenhedloedd y Deyrnas Unedig;

2. Yn credu bod yn rhaid inni hyrwyddo undeb newydd ar gyfer holl bobl y DU, gan gynnwys Cymru; a

3. Yn galw am weithredu ar fyrder Rannau 1 a 2 o'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru a sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ar draws y DU i ddrafftio cynllun ar gyfer undeb newydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

11

10

52

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5571 Elin Jones (Ceredigion)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu'r ffaith fod pobl yr Alban wedi dewis aros yn aelod o deulu cenhedloedd y Deyrnas Unedig;

2. Yn credu bod yn rhaid inni hyrwyddo undeb newydd ar gyfer holl bobl y DU, gan gynnwys Cymru; a

3. Yn galw am weithredu ar fyrder Rannau 1 a 2 o'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru a sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ar draws y DU i ddrafftio cynllun ar gyfer undeb newydd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

11

10

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


18/09/2014 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16:53

NDM5562 Elin Jones AC (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod 266,000 o weithwyr yng Nghymru yn cael eu talu llai na'r cyflog byw.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio tuag at greu cyflog byw yng Nghymru drwy:

a) sefydlu cyflog byw ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru;

b) gweithio gyda chyflogwyr i esbonio manteision talu'r cyflog byw; a

c) cyflwyno sylwadau i'r Comisiwn Cyflogau Isel i sicrhau bod yr isafswm cyflog yn codi i lefel y cyflog byw erbyn 2020.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

13

46

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


03/07/2014 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.07

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5545 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

2. Yn nodi nad yw'r adroddiad yn ymdrin yn gynhwysfawr â gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig y gwasanaeth iechyd, yn sgil y cylch gorchwyl a nodwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

3. Yn credu bod angen darparu mandad democrataidd ar gyfer pecyn strategol hirdymor i ddiwygio’r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus.

 

4. Yn credu ymhellach mai'r ffordd orau o drafod a datrys y cydbwysedd o gymwyseddau a darparu gwasanaethau cyhoeddus rhwng llywodraeth genedlaethol, ranbarthol a chymunedol yw drwy faniffestos pleidiau yn ystod etholiad nesaf y Cynulliad.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

8

0

39

47

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Dileu pwynt 2.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

23

47

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn credu y byddai’r atebolrwydd ychwanegol a fyddai’n deillio o system bleidleisio deg yn gwella gwasanaethau cyhoeddus.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

35

47

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi bod yr adroddiad yn datgan y dylid sicrhau y caiff dinasyddion a chymunedau eu cynnwys yn fwy wrth gydgynhyrchu'r gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi bod yr adroddiad yn datgan y 'gall y trydydd sector roi gwybodaeth am brofiad defnyddwyr o wasanaethau a gall helpu i sicrhau yr ymgysylltir mewn ffordd systematig a chynaliadwy â chymunedau yn ogystal ag arbenigedd y sector mewn meysydd polisi a gwasanaeth amrywiol'.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cydnabod yr angen am werthusiadau cost llawn cyn cymryd unrhyw gamau mewn perthynas â newidiadau strwythurol i wasanaethau cyhoeddus.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

24

47

Gwrthodwyd gwelliant 5.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5545 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

2. Yn credu bod angen darparu mandad democrataidd ar gyfer pecyn strategol hirdymor i ddiwygio’r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus.

 

3. Yn credu ymhellach mai'r ffordd orau o drafod a datrys y cydbwysedd o gymwyseddau a darparu gwasanaethau cyhoeddus rhwng llywodraeth genedlaethol, ranbarthol a chymunedol yw drwy faniffestos pleidiau yn ystod etholiad nesaf y Cynulliad.

 

4. Yn nodi bod yr adroddiad yn datgan y dylid sicrhau y caiff dinasyddion a chymunedau eu cynnwys yn fwy wrth gydgynhyrchu'r gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau.

 

5. Yn nodi bod yr adroddiad yn datgan y 'gall y trydydd sector roi gwybodaeth am brofiad defnyddwyr o wasanaethau a gall helpu i sicrhau yr ymgysylltir mewn ffordd systematig a chynaliadwy â chymunedau yn ogystal ag arbenigedd y sector mewn meysydd polisi a gwasanaeth amrywiol'.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


26/06/2014 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.00

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5536 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn dymuno'n dda i dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad.

 

2. Yn nodi pwysigrwydd chwaraeon a gweithgarwch corfforol i iechyd a lles.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) sicrhau bod gan bawb fynediad i chwaraeon a gweithgarwch corfforol;

 

b) adolygu effeithiolrwydd addysg gorfforol o ran annog cyfranogi gydol oes mewn chwaraeon a mynd i’r afael â chyfraddau cyfranogi isel ymhlith rhai grwpiau economaidd-gymdeithasol; ac

 

c) gwella'r cysylltiadau rhwng cyrff llywodraethu cenedlaethol, awdurdodau lleol, ysgolion a chlybiau chwaraeon i sicrhau bod arferion hyfforddiant gorau yn cael eu mabwysiadu i gynyddu'r tebygolrwydd y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn gallu cystadlu ar y lefel uchaf.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

14

46

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


19/06/2014 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.07

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5529 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi Dogfen Ymgynghori Llywodraeth Cymru ar y Cynllun drafft “Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd”.

 

2. Yn nodi mai dewis Llywodraeth Cymru fyddai adeiladu M4 newydd dros Wastadeddau Gwent i'r de o Gasnewydd.

 

3. Yn credu y dylid diystyru'r llwybr a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer M4 newydd ar sail amgylcheddol a gwerth am arian.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi gwelliannau i ôl troed ffordd yr A48 bresennol o amgylch Casnewydd fel yr amlinellwyd yng nghysyniad y ‘Llwybr Glas’.

 

5. Yn credu na ddylai pwerau benthyca i Gymru fod yn seiliedig ar gymorth Llywodraeth Cymru i brosiect penodol, ond y dylent fod ar gael i'w defnyddio ar draws y cyfan o'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

1

16

26

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Dileu pwyntiau 3, 4 a 5.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

15

26

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 4:

 

‘fel rhan o strategaeth drafnidiaeth integredig ar gyfer de ddwyrain Cymru sy’n cynnwys buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, seilwaith rheilffyrdd ar gyfer cludo nwyddau a gwella llwybrau lleol strategol'.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

11

26

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu’r buddsoddiad gan Lywodraeth y DU a’r ymrwymiad i gael mynediad cynnar at bwerau benthyca er mwyn ariannu gwelliannau i’r M4;

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

10

26

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cydnabod bod angen penderfyniad cynnar ynghylch cael ffordd i ysgafnhau’r tagfeydd ar seilwaith presennol yr M4 o amgylch Casnewydd, a rhoi’r penderfyniad hwnnw ar waith.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

0

25

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cydnabod pryderon y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ei lythyr yn dwyn y teitl ‘Cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd’, ar 5 Mehefin 2014.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

0

26

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5529 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi Dogfen Ymgynghori Llywodraeth Cymru ar y Cynllun drafft “Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd”.

 

2. Yn nodi mai dewis Llywodraeth Cymru fyddai adeiladu M4 newydd dros Wastadeddau Gwent i'r de o Gasnewydd.

 

3. Yn credu y dylid diystyru'r llwybr a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer M4 newydd ar sail amgylcheddol a gwerth am arian.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi gwelliannau i ôl troed ffordd yr A48 bresennol o amgylch Casnewydd fel yr amlinellwyd yng nghysyniad y ‘Llwybr Glas’ fel rhan o strategaeth drafnidiaeth integredig ar gyfer de ddwyrain Cymru sy’n cynnwys buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, seilwaith rheilffyrdd ar gyfer cludo nwyddau a gwella llwybrau lleol strategol.

 

5. Yn credu na ddylai pwerau benthyca i Gymru fod yn seiliedig ar gymorth Llywodraeth Cymru i brosiect penodol, ond y dylent fod ar gael i'w defnyddio ar draws y cyfan o'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.

 

6. Yn croesawu’r buddsoddiad gan Lywodraeth y DU a’r ymrwymiad i gael mynediad cynnar at bwerau benthyca er mwyn ariannu gwelliannau i’r M4.

 

7. Yn cydnabod bod angen penderfyniad cynnar ynghylch cael ffordd i ysgafnhau’r tagfeydd ar seilwaith presennol yr M4 o amgylch Casnewydd, a rhoi’r penderfyniad hwnnw ar waith.

 

8. Yn cydnabod pryderon y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ei lythyr yn dwyn y teitl ‘Cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd’, ar 5 Mehefin 2014.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

1

20

26

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


22/05/2014 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.49

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5511 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu bod rhannau o gymoedd de Cymru yn parhau i wynebu lefelau uchel o amddifadedd.

 

2. Yn cydnabod bod trechu tlodi yn y Cymoedd yn ei gwneud yn ofynnol cael buddsoddiad parhaus ac ymyriad Llywodraeth Cymru.

 

3. Yn nodi'r potensial sylweddol i gymoedd de Cymru hyrwyddo eu treftadaeth gymdeithasol a diwylliannol.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cynorthwyo'n uniongyrchol fentrau ar lawr gwlad i drechu tlodi a gwella adfywiad ardaloedd ag amddifadedd yn y Cymoedd;

 

b) sicrhau bod digon o ofal plant fforddiadwy i ddiwallu anghenion rhieni;

 

c) sicrhau bod gan bob unigolyn sydd allan o waith yn y Cymoedd fynediad i hyfforddiant prentisiaeth neu sgiliau;

 

d) datblygu, drwy ymgynghori â'r cyhoedd, strategaeth gynhwysfawr i fynd i'r afael â'r problemau a meithrin cymunedau cynaliadwy yn y Cymoedd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

15

43

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


15/05/2014 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.28

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5505 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu rhwydwaith rheilffordd cyflymder uchel HS2 yn Lloegr.

 

2. Yn cydnabod y rhagwelir y bydd datblygu HS2 yn cael effaith negyddol gyffredinol ar economi Cymru.

 

3. Yn gresynu, hyd yma, na chadarnhawyd y bydd Cymru yn cael unrhyw adnodd ychwanegol pellach drwy fformiwla Barnett yn sgîl gwariant Llywodraeth y DU ar HS2.

 

4. Yn nodi pwysigrwydd hanfodol buddsoddi yn y seilwaith trafnidiaeth ar gyfer rhagolygon economi Cymru yn y dyfodol.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cyllid canlyniadol Barnett llawn neu unrhyw setliad ariannol teg arall, yn sgîl datblygu HS2.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

41

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl ‘cydnabod’ a rhoi yn ei le:

 

‘y cyfleoedd y mae HS2 yn eu cynnig i gryfhau’r achos busnes dros drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

9

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

 

Yn croesawu’r buddsoddiad sylweddol i drydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

9

50

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Dileu pwyntiau 4 a 5 a rhoi yn eu lle:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i anrhydeddu ei chytundeb gyda Llywodraeth y DU i weithio mewn partneriaeth i drydaneiddio rheilffyrdd de Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

34

50

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn croesawu’r cynnydd yng nghapasiti rheilffyrdd y DU yn sgîl datblygu HS2, a fydd yn galluogi rhagor o gerbydau cludo i deithio ar y rheilffyrdd ar hyd a lled y DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

9

0

50

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5505 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu rhwydwaith rheilffordd cyflymder uchel HS2 yn Lloegr.

 

2. Yn cydnabod y cyfleoedd y mae HS2 yn eu cynnig i gryfhau’r achos busnes dros drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru.

 

3. Yn croesawu’r buddsoddiad sylweddol i drydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western.

 

4. Yn nodi pwysigrwydd hanfodol buddsoddi yn y seilwaith trafnidiaeth ar gyfer rhagolygon economi Cymru yn y dyfodol.

 

5. Yn croesawu’r cynnydd yng nghapasiti rheilffyrdd y DU yn sgîl datblygu HS2, a fydd yn galluogi rhagor o gerbydau cludo i deithio ar y rheilffyrdd ar hyd a lled y DU.

 

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cyllid canlyniadol Barnett llawn neu unrhyw setliad ariannol teg arall, yn sgîl datblygu HS2.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

0

19

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


08/05/2014 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.13

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5498 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw am ddiddymu'r dreth ystafell wely.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

16

48

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


01/05/2014 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.56

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5495 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod y gyfradd ddiweithdra ymhlith ieuenctid yn 21.3% - y lefel uchaf o blith pedair gwlad y DU;

 

2. Yn gresynu bod diweithdra hirdymor ymhlith pobl ifanc wedi cynyddu bedair gwaith ers ffurfio'r Llywodraeth Cymru bresennol;

 

3. Yn cydnabod gwerth pobl ifanc i economi Cymru; a

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ar unwaith i wella rhagolygon economaidd pobl ifanc.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

8

0

37

45

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ym mhwynt 3, ar ôl 'Cymru’ rhoi ‘ac yn gresynu mai dim ond 60% o raddedigion gradd gyntaf cyflogedig, llawn amser o Sefydliadau Addysg Uwch Cymru a arhosodd yng Nghymru i weithio chwe mis ar ôl graddio.'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

23

45

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Ni ddetholwyd gwelliant 2 a gyflwynwyd ar gyfer y ddadl.

 

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ym mhwynt 4, dileu ‘gymryd camau ar unwaith’ a rhoi yn ei le ‘weithio ar y cyd gyda Llywodraeth y DU’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

31

45

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gasglu gwell data er mwyn cyfrannu at bolisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i allu cydweddu cyfleoedd hyfforddi a graddedigion yng Nghymru yn well.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

23

45

Gwrthodwyd gwelliant 4.

 

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.


27/03/2014 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.13

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5478 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi'r cyfraddau disgwyliad oes is mewn cymunedau o amddifadedd;

 

2. Yn cydnabod rôl deddfwriaeth, trethiant a pholisi cyhoeddus o ran hyrwyddo iechyd da a mynd i’r afael â'r cysylltiad rhwng tlodi ac afiechyd; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi ac afiechyd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

15

50

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


20/03/2014 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 18.08

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5467 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â rhwystrau i gyflogaeth a dilyniant gyrfa drwy:

 

a) Ymestyn gofal plant fforddiadwy ledled Cymru;

 

b) Sicrhau bod cyrff y sector cyhoeddus yn cymryd camau gweithredu cadarnhaol i gynyddu amrywiaeth;

 

c) Gweithio gyda chyflogwyr mawr i gynyddu cyfleoedd i bobl anabl;

 

d) Cefnogi'r cyflog byw a dileu arferion cyflogaeth gwael fel contractau dim oriau.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

17

52

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


12/03/2014 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.00

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5449 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod bod y Gymraeg yn sbarduno'r economi a bod ei ffyniant tymor hir fel iaith gymunedol yn dibynnu ar dwf economaidd rhanbarthol a lleol cryf.

 

2. Yn cydnabod bod gwariant gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yn gallu dylanwadu’n drwm ar yr iaith.

 

3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid ddatblygu polisïau i gefnogi’r iaith a hyrwyddo ei budd economaidd ar sail ardaloedd penodedig.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

5

55

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


05/03/2014 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.52

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5441 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod llwyddiant hanesyddol Cymru fel canolfan ar gyfer arloesi a diwydiant;

 

2. Yn cydnabod rhan ganolog strategaeth sy’n seiliedig ar allforio ar gyfer llwyddiant economaidd yn y dyfodol;

 

3. Yn credu bod dulliau newydd yn angenrheidiol i asesu'r gallu i allforio; a

 

4. Yn cefnogi ymdrechion i sicrhau potensial mwyaf posibl busnesau cynhenid i ehangu a chreu cyflogaeth a ffyniant.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

17

51

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


19/02/2014 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 15.55

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5438 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi'r gostyngiad o 44% mewn incwm ffermydd ar draws pob math o ffermydd yng Nghymru y llynedd;

 

2. Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i drosglwyddo'r 15% yn llawn o Golofn 1 i Golofn 2 o'r Polisi Amaethyddol Cyffredin a'r gostyngiad dilynol o 23.4% o ran hawliau Cynllun y Taliad Sengl; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth lawn i'r amgylchiadau heriol hyn ac amgylchiadau heriol eraill a wynebir gan y diwydiant amaethyddol ar hyn o bryd wrth iddi gyflwyno diwygiadau i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin, Cynllun Datblygu Gwledig newydd a mentrau polisi gwledig ehangach yng Nghymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

43

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r Cynllun Datblygu Gwledig i gyflwyno cynllun Ardaloedd â Chyfyngiadau Naturiol penodol i Weundiroedd.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu ymhellach at effaith TB buchol ar incwm ffermydd yng Nghymru a methiant Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r mater pwysig hwn.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

1

27

54

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.


06/02/2014 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.16

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5422 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn cydnabod potensial sylweddol adnoddau naturiol Cymru ac yn credu y dylai rheolaeth lawn dros y defnydd ohonynt gael ei datganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

16

48

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


23/01/2014 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.46

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5405 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod dros flwyddyn wedi mynd heibio ers cyhoeddi ffigurau cyfrifiad 2011 sy’n dangos bod gostyngiad o 2 y cant yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn galluogi’r Gymraeg i ffynnu drwy, ymysg pethau eraill:

 

a) sicrhau bod gan bawb yng Nghymru’r cyfle i ddysgu Cymraeg;

 

b) buddsoddi mewn gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg;

 

c) cynyddu nifer y disgyblion sy’n derbyn y Cyfnod Sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg;

 

d) defnyddio’r potensial o dan Fesur y Gymraeg 2011 i osod safonau ar gyfer y Gymraeg sy’n rhoi hawliau cryfach i siaradwyr Cymraeg na chynlluniau iaith o dan Ddeddf Iaith 1993;

 

e) annog cyrff cyhoeddus i ddefnyddio’r Gymraeg fel iaith weinyddol yn fewnol;

 

f) creu cyfleoedd economaidd a swyddi yng nghadarnleoedd y Gymraeg drwy hybu datblygiad Bangor a Menai, Aberystwyth a Chaerfyrddin fel dinas-ranbarthau;

 

g) sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chymryd o ddifrif yn y system gynllunio.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

43

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi methiannau Llywodraeth Cymru o ran bodloni’r safonau yn llawn wrth hybu’r defnydd o ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol mewn bywyd cyhoeddus, fel y nodir yn Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys ‘yn effeithiol’ ar ddiwedd is-bwynt 2a.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

14

52

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu pwynt 2f a rhoi yn ei le:

 

cefnogi cadarnleoedd y Gymraeg yng ngorllewin Cymru drwy ddatblygu strategaeth economaidd ar gyfer yr ardaloedd hyn, sy’n adlewyrchu eu cymeriad ac sydd wedi’u teilwra’n unol â'u hanghenion

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

0

21

52

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gan fod gwelliant 3 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 4 ei ddad-ddethol.

 

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

manteisio ar y cyllid ychwanegol ar gyfer Dechrau'n Deg i wella’r broses o hyrwyddo'r Gymraeg ymysg plant ifanc a'u teuluoedd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

gweithio gydag oedolion sy’n dysgu Cymraeg er mwyn creu cyfleoedd i siarad Cymraeg yn eu cymunedau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 6.

 

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

rhoi sylw i’r anawsterau a wynebwyd yn lleol o ran derbyn darllediadau yn y Gymraeg ers newid i’r digidol ar gyfer teledu yn 2010.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 7.

 

Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

rhoi sylw i’r gwendidau yn narpariaeth Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 8.

 

Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

sicrhau y caiff Comisiynydd y Gymraeg ei benodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

35

52

Gwrthodwyd gwelliant 9.

 

Gwelliant 10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

sicrhau bod Cynlluniau Strategol Addysg Gymraeg yn gadarn ac yn cynnwys mesurau y mae modd eu cyflawni i gwrdd â’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg ac i sicrhau dilyniant rhwng yr addysg gynradd ac uwchradd a gynigir.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 10.

 

Gwelliant 11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

sicrhau bod unrhyw werthusiad o’r rhaglen Dechrau’n Deg yn rhoi sylw i’r ddarpariaeth Gymraeg.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 11.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5405 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod dros flwyddyn wedi mynd heibio ers cyhoeddi ffigurau cyfrifiad 2011 sy’n dangos bod gostyngiad o 2 y cant yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn galluogi’r Gymraeg i ffynnu drwy, ymysg pethau eraill:

 

a) sicrhau bod gan bawb yng Nghymru’r cyfle i ddysgu Cymraeg yn effeithiol;

 

b) buddsoddi mewn gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg;

 

c) cynyddu nifer y disgyblion sy’n derbyn y Cyfnod Sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg;

 

d) defnyddio’r potensial o dan Fesur y Gymraeg 2011 i osod safonau ar gyfer y Gymraeg sy’n rhoi hawliau cryfach i siaradwyr Cymraeg na chynlluniau iaith o dan Ddeddf Iaith 1993;

 

e) annog cyrff cyhoeddus i ddefnyddio’r Gymraeg fel iaith weinyddol yn fewnol;

 

f) cefnogi cadarnleoedd y Gymraeg yng ngorllewin Cymru drwy ddatblygu strategaeth economaidd ar gyfer yr ardaloedd hyn, sy’n adlewyrchu eu cymeriad ac sydd wedi’u teilwra’n unol â'u hanghenion;

 

g) sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chymryd o ddifrif yn y system gynllunio;

 

h) manteisio ar y cyllid ychwanegol ar gyfer Dechrau'n Deg i wella’r broses o hyrwyddo'r Gymraeg ymysg plant ifanc a'u teuluoedd;

 

i) gweithio gydag oedolion sy’n dysgu Cymraeg er mwyn creu cyfleoedd i siarad Cymraeg yn eu cymunedau;

 

j) rhoi sylw i’r anawsterau a wynebwyd yn lleol o ran derbyn darllediadau yn y Gymraeg ers newid i’r digidol ar gyfer teledu yn 2010;

 

k) rhoi sylw i’r gwendidau yn narpariaeth Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion;

 

l) sicrhau bod Cynlluniau Strategol Addysg Gymraeg yn gadarn ac yn cynnwys mesurau y mae modd eu cyflawni i gwrdd â’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg ac i sicrhau dilyniant rhwng yr addysg gynradd ac uwchradd a gynigir;

 

m) sicrhau bod unrhyw werthusiad o’r rhaglen Dechrau’n Deg yn rhoi sylw i’r ddarpariaeth Gymraeg.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

12

0

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


16/01/2014 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.01

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5399 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu ac i weithredu cynllun gweithlu GIG cenedlaethol newydd ar gyfer y degawd nesaf ac i gynyddu’r gweithlu meddygol yn sylweddol yng Nghymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

47

58

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu ‘ac i gynyddu’r gweithlu meddygol yn sylweddol yng Nghymru’ a rhoi yn ei le ‘i fynd i’r afael â heriau recriwtio yng ngwasanaeth iechyd Cymru’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

11

58

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae’n bwriadu defnyddio’r £180 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i wasanaeth iechyd Cymru ar gyfer 2014-15 yn dilyn argymhellion Adroddiad Francis, er mwyn ymateb i faterion o ran y gweithlu yn GIG Cymru.

 

Mae Adroddiad Francis ar gael yn:

 

http://www.midstaffspublicinquiry.com/report

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

58

0

0

58

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu mai ychydig iawn o effaith y mae ymgyrchoedd recriwtio Llywodraeth Cymru, fel Gweithio dros Gymru, wedi ei chael o ran lliniaru’r prinder o glinigwyr mewn rhai disgyblaethau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

30

59

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu bod ansicrwydd ynghylch dyfodol gwasanaethau mewn rhai ysbytai yng Nghymru wedi bod yn anfanteisiol wrth geisio recriwtio staff.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

30

59

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi’r gwariant uchel ar staff locwm ac asiantaeth ar draws byrddau iechyd yng Nghymru o ganlyniadau i heriau o ran y gweithlu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

30

59

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cydnabod bod angen GIG sydd ag adnoddau priodol a phwysigrwydd buddsoddi mewn hyfforddiant a swyddi parhaol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

57

0

0

57

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu ac i weithredu cynllun gweithlu GIG cenedlaethol newydd ar gyfer y degawd nesaf i fynd i’r afael â heriau recriwtio yng ngwasanaeth iechyd Cymru.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae’n bwriadu defnyddio’r £180 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i wasanaeth iechyd Cymru ar gyfer 2014-15 yn dilyn argymhellion Adroddiad Francis, er mwyn ymateb i faterion o ran y gweithlu yn GIG Cymru.

 

Mae Adroddiad Francis ar gael yn:

 

http://www.midstaffspublicinquiry.com/report

 

3. Yn cydnabod bod angen GIG sydd ag adnoddau priodol a phwysigrwydd buddsoddi mewn hyfforddiant a swyddi parhaol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

30

59

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig fel y’i diwygiwyd. Felly, gwrthodwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.


12/12/2013 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.11

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5386 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni ac yn gresynu at yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar bob aelwyd yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy'n dlawd o ran tanwydd na allant fanteisio ar fargeinion ynni tanwydd deuol ffafriol.

2. Yn gresynu bod y defnydd o fanciau bwyd wedi bron â threblu dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda mwyafrif y rhai sy'n troi at fanciau bwyd yn deuluoedd oedran gweithio, rhai oherwydd cyflog isel.

3. Yn nodi bod adroddiad diweddar Cartrefi Cymunedol Cymru ar effaith y dreth ystafell wely wedi canfod y disgwylir i ôl-ddyledion yn sgîl y dreth ystafell wely fod dros £2 filiwn erbyn mis Ebrill nesaf.

4. Yn nodi bod dros 41,000 yn fwy o bobl o hyd yn ddi-waith nawr nag a oedd cyn i'r argyfwng economaidd ddechrau.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu a diwygio ei strategaeth yn erbyn tlodi yng ngoleuni'r argyfwng cynyddol a wynebir gan bobl yn sgîl caledi, newidiadau i fudd-daliadau a chynnydd yng nghostau byw.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

44

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu bod economi’r DU wedi tyfu 0.8% yn nhrydydd chwarter 2013 a bod y rhagolwg ar gyfer twf CMC y DU yn 2013 wedi codi o 0.6% i 1.4%.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

9

53

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:

‘, a’r angen i roi sylw i effaith hyn gyda dealltwriaeth glir o’r canlyniadau o ran prisiau, buddsoddiad, ymateb y diwydiant a defnyddwyr’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

9

53

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU am ddiwygiadau a fydd yn golygu y bydd cartrefi’n arbed £50 y flwyddyn ar gyfartaledd ar eu biliau ynni a bod y dreth ar danwydd yn cael ei rhewi am weddill y Senedd hon.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

9

53

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod banciau bwyd sydd wedi agor yn ddiweddar ledled Cymru yn helpu i fodloni anghenion y garfan gudd o bobl newynog, ac yn cydnabod gwaith pwysig banciau bwyd a’u cyfraniad at fywydau pobl mewn argyfwng.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

5

9

53

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu polisi’r Democratiaid Rhyddfrydol i godi trothwy’r dreth incwm  i £10,000, a weithredwyd gan Lywodraeth y DU, sy’n golygu, o fis Ebrill 2014,  y bydd dros 1.1 miliwn o bobl yng Nghymru yn cael dros £700 o doriad mewn treth ac na fydd 106,000 o weithwyr ar incwm isel yng Nghymru yn gorfod talu’r dreth incwm o gwbl.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

12

9

53

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ar frys i ddarparu ateb marchnad gyfan i’r argyfwng mewn cyflenwad tai ers datganoli.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

9

53

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu wrth fethiant y cymdeithasau tai a Llywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer newidiadau yn y system fudd-daliadau, er gwaethaf dwy flynedd o rybudd, a methiant y llywodraethau Llafur a Cheidwadol blaenorol i adeiladu digon o gartrefi, gan olygu bod 1.5 miliwn o gartrefi wedi’u colli.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

48

53

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu’r gostyngiad yn nifer y bobl nad ydynt mewn cyflogaeth yng Nghymru ers 2010, ond yn cydnabod bod gan Gymru lawer o ffordd i fynd o hyd o’i gymharu â gweddill y DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

41

53

Gwrthodwyd gwelliant 8.

Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 4:

‘ac yn gresynu bod Cymru yn dal ar ei hôl hi y tu ôl i weddill y DU gyda chyfradd ddiweithdra o 7.8% o gymharu â chyfartaledd o 7.1% yn y DU’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

36

53

Gwrthodwyd gwelliant 9.

Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu a diwygio ei strategaeth yn erbyn tlodi ar sail cyd-gynhyrchu er mwyn mynd i’r afael â’r achosion o dlodi yng Nghymru sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn, y bwlch tlodi cynyddol, a’r symudedd cymdeithasol sydd wedi peidio ers datganoli.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

41

53

Gwrthodwyd gwelliant 10.

Gwelliant 11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ym mhwynt 5, dileu ‘yng ngoleuni’r argyfwng cynyddol a wynebir gan bobl yn sgîl caledi, newidiadau i fudd-daliadau a chynnydd yng nghostau byw’ a rhoi yn ei le ‘er mwyn mynd i’r afael â thlodi cynyddol, sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn, mewn cymunedau yng Nghymru’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

35

53

Gwrthodwyd gwelliant 11.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5386 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu bod economi’r DU wedi tyfu 0.8% yn nhrydydd chwarter 2013 a bod y rhagolwg ar gyfer twf CMC y DU yn 2013 wedi codi o 0.6% i 1.4%.

2. Yn nodi'r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni ac yn gresynu at yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar bob aelwyd yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy'n dlawd o ran tanwydd na allant fanteisio ar fargeinion ynni tanwydd deuol ffafriol, a’r angen i roi sylw i effaith hyn gyda dealltwriaeth glir o’r canlyniadau o ran prisiau, buddsoddiad, ymateb y diwydiant a defnyddwyr.

3. Yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU am ddiwygiadau a fydd yn golygu y bydd cartrefi’n arbed £50 y flwyddyn ar gyfartaledd ar eu biliau ynni a bod y dreth ar danwydd yn cael ei rhewi am weddill y Senedd hon.

4. Yn nodi bod banciau bwyd sydd wedi agor yn ddiweddar ledled Cymru yn helpu i fodloni anghenion y garfan gudd o bobl newynog, ac yn cydnabod gwaith pwysig banciau bwyd a’u cyfraniad at fywydau pobl mewn argyfwng.

5. Yn croesawu polisi’r Democratiaid Rhyddfrydol i godi trothwy’r dreth incwm  i £10,000, a weithredwyd gan Lywodraeth y DU, sy’n golygu, o fis Ebrill 2014,  y bydd dros 1.1 miliwn o bobl yng Nghymru yn cael dros £700 o doriad mewn treth ac na fydd 106,000 o weithwyr ar incwm isel yng Nghymru yn gorfod talu’r dreth incwm o gwbl.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ar frys i ddarparu ateb marchnad gyfan i’r argyfwng mewn cyflenwad tai ers datganoli.

7. Yn nodi bod dros 41,000 yn fwy o bobl o hyd yn ddi-waith nawr nag a oedd cyn i'r argyfwng economaidd ddechrau.

8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu a diwygio ei strategaeth yn erbyn tlodi yng ngoleuni'r argyfwng cynyddol a wynebir gan bobl yn sgîl caledi, newidiadau i fudd-daliadau a chynnydd yng nghostau byw.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

48

53

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


05/12/2013 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.49

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5379 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) mai'r bwlch cyllido a amcangyfrifir rhwng y galw am gyllid gan fusnesau Cymru a'r cyflenwad presennol o'r sector bancio yw £500 miliwn;

b) bod ardrethi annomestig yn cyfrif am gyfran sylweddol o gostau gweithredu ar gyfer microfusnesau a busnesau bach;

c) bod cynnydd o 1% yng nghyfradd contractau caffael y sector cyhoeddus sy'n mynd i fusnesau Cymru yn creu 2,000 o swyddi newydd; a

d) bod adnoddau naturiol Cymru yn cynnig cryn botensial ar gyfer budd economaidd.

2. Yn gresynu:

a) mai’r GYC y pen yng Nghymru yw'r isaf o blith pob un o wledydd y DU sef cyfradd o 75.2% o ffigur y DU;

b) bod dulliau macro-economaidd yn aros yn nwylo Aelodau Seneddol yn Senedd y DU ond yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru rôl sylweddol i'w chwarae o ran tyfu economi Cymru;

c) absenoldeb dangosyddion economaidd cyfredol i Gymru;

d) methiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â diweithdra a thangyflogaeth; a

e) methiant cyrff y sector cyhoeddus i weithredu Polisi Llywodraeth Cymru ar gaffael.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyhoeddi cynllun cynhwysfawr a hirdymor ar gyfer tyfu economi Cymru;

b) bwysleisio i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yr angen i ddarparu dangosyddion economaidd rheolaidd a mynych i Gymru;

c) mabwysiadu polisi Plaid Cymru i estyn rhyddhad ardrethi busnesau bach i bob busnes â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai; a

d) archwilio manteision sefydlu banc datblygu busnes cyhoeddus, hyd braich, nid er elw i'w ddosbarthu.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

46

56

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys is-bwynt 1a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

y twf yng Nghynnyrch Mewnwladol Crynswth y DU yn 2013;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

10

56

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys is-bwynt 1a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

bod 29.8% o bobl Cymru yn cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus, sy’n uwch na 23.5%, sef cyfartaledd y DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:

bod economi’r DU wedi cynyddu 0.8% yn ystod trydydd chwarter 2013, sy’n pwysleisio llwyddiant polisi economaidd Llywodraeth y DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

37

55

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys is-bwynt 2a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

bod oddeutu 200,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn cael trafferth cael gafael ar gyllid, yn ôl adroddiad Cam 1 o’r ‘Adolygiad o’r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru’ gan yr Athro Dylan Jones-Evans.

Gellir gweld yr ‘Adolygiad o’r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru’ yn: http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/publications/accesstofinance/?skip=1&lang=cy

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu is-bwynt 2b) a rhoi yn ei le:

methiant Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r ysgogiadau economaidd sylweddol sydd ar gael iddi er mwyn sbarduno twf yn economi Cymru;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

43

56

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu is-bwynt 2e).

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

10

56

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu is-bwynt 3c) a rhoi yn ei le:

mabwysiadu polisi’r Ceidwadwyr Cymreig i ymestyn rhyddhad ardrethi i fusnesau bach sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000, a darparu rhyddhad sy’n lleihau’n raddol i’r rheini sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

43

56

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu is-bwynt 3c) a rhoi yn ei le:

ymestyn rhyddhad ardrethi busnes i bob busnes sydd â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai, ac i fwy o gyfleusterau cymunedol fel swyddfeydd post, tafarndai a siopau annibynnol; a

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

38

56

Gwrthodwyd gwelliant 8.

Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys is-bwynt 3d) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

rhoi cyfle i awdurdodau lleol gadw cyfran o’r ardrethi busnes y maent yn eu casglu er mwyn ysgogi twf economaidd lleol;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu is-bwynt 3d) a rhoi yn ei le:

ymateb cyn gynted â phosibl i adroddiad yr Adolygiad o'r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru – Cam 2, ac ystyried yr achos dros ddatblygu banciau busnes rhanbarthol fel yr amlinellwyd yn ‘Buddsoddi Cymru’.

Gellir gweld adroddiad yr ‘Adolygiad o’r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru – Cam 2’ yn:

http://wales.gov.uk/docs/det/publications/131121accesstofund2en.pdf

Gellir gweld ‘Buddsoddi Cymru’ yn:

http://yourvoiceintheassembly.co.uk/wp-content/uploads/2013/01/Buddsoddi-Cymru-FINAL1.pdf

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

15

56

Derbyniwyd gwelliant 10.

Gwelliant 11 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

ystyried y posibilrwydd o rannu lluosydd Cymru yn fusnesau bach a mawr, a fyddai'n sicrhau bod y system ardrethi busnes yn deg a bod Cymru ar yr un lefel â Lloegr a'r Alban.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 11.

Gwelliant 12 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

sicrhau bod polisïau’r llywodraeth yn symleiddio ein rheoliadau a’n prosesau caffael ar gyfer y sector cyhoeddus.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 12:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 12.

Gwelliant 13 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

cefnogi mentrau cymdeithasol a busnesau llai a'u galluogi i dyfu drwy ddadfwndelu contractau'r sector cyhoeddus yn rhannau mwy hylaw, gan ei gwneud yn haws i'r busnesau hyn gyflwyno cynigion a chystadlu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 13:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 13.

Gwelliant 14 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

gweithio i godi ymwybyddiaeth ymysg busnesau o gyfleoedd cyllid sy’n bodoli ar hyn o bryd, a gwrando ar y gymuned fusnes ynghylch ffyrdd o wella cymorth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 14:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 14.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5379 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) y twf yng Nghynnyrch Mewnwladol Crynswth y DU yn 2013;

b) mai'r bwlch cyllido a amcangyfrifir rhwng y galw am gyllid gan fusnesau Cymru a'r cyflenwad presennol o'r sector bancio yw £500 miliwn;

c) bod ardrethi annomestig yn cyfrif am gyfran sylweddol o gostau gweithredu ar gyfer microfusnesau a busnesau bach;

d) bod cynnydd o 1% yng nghyfradd contractau caffael y sector cyhoeddus sy'n mynd i fusnesau Cymru yn creu 2,000 o swyddi newydd; ac

e) bod adnoddau naturiol Cymru yn cynnig cryn botensial ar gyfer budd economaidd.

2. Yn gresynu:

a) bod oddeutu 200,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn cael trafferth cael gafael ar gyllid, yn ôl adroddiad Cam 1 o’r ‘Adolygiad o’r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru’ gan yr Athro Dylan Jones-Evans.

b) mai’r GYC y pen yng Nghymru yw'r isaf o blith pob un o wledydd y DU sef cyfradd o 75.2% o ffigur y DU;

c) bod dulliau macro-economaidd yn aros yn nwylo Aelodau Seneddol yn Senedd y DU ond yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru rôl sylweddol i'w chwarae o ran tyfu economi Cymru;

d) absenoldeb dangosyddion economaidd cyfredol i Gymru; ac

e) methiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â diweithdra a thangyflogaeth; a

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyhoeddi cynllun cynhwysfawr a hirdymor ar gyfer tyfu economi Cymru;

b) bwysleisio i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yr angen i ddarparu dangosyddion economaidd rheolaidd a mynych i Gymru;

c) mabwysiadu polisi Plaid Cymru i estyn rhyddhad ardrethi busnesau bach i bob busnes â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai;

d) ymateb cyn gynted â phosibl i adroddiad yr Adolygiad o'r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru – Cam 2, ac ystyried yr achos dros ddatblygu banciau busnes rhanbarthol fel yr amlinellwyd yn ‘Buddsoddi Cymru’;

e) ystyried y posibilrwydd o rannu lluosydd Cymru yn fusnesau bach a mawr, a fyddai'n sicrhau bod y system ardrethi busnes yn deg a bod Cymru ar yr un lefel â Lloegr a'r Alban;

f) sicrhau bod polisïau’r llywodraeth yn symleiddio ein rheoliadau a’n prosesau caffael ar gyfer y sector cyhoeddus;

g) cefnogi mentrau cymdeithasol a busnesau llai a'u galluogi i dyfu drwy ddadfwndelu contractau'r sector cyhoeddus yn rhannau mwy hylaw, gan ei gwneud yn haws i'r busnesau hyn gyflwyno cynigion a chystadlu; a

h) gweithio i godi ymwybyddiaeth ymysg busnesau o gyfleoedd cyllid sy’n bodoli ar hyn o bryd, a gwrando ar y gymuned fusnes ynghylch ffyrdd o wella cymorth.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

46

56

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


28/11/2013 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.57

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5372 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

1. Yn nodi na fydd perfformiad Cymru yn erbyn PISA a mesuriadau perfformiad addysgol cenedlaethol a rhyngwladol eraill yn gwella digon i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru oni bai bod cyfraddau cyrhaeddiad disgyblion o gefndir difreintiedig yn gwella'n sylweddol.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn rhaglen hyfforddi gynhwysfawr i athrawon, penaethiaid a staff cymorth newydd a phresennol ar ymyriad cynnar i wella llythrennedd, rhifedd, presenoldeb ac ymddygiad er mwyn codi cyfraddau cyrhaeddiad disgyblion difreintiedig.

 

3. Yn croesawu cytundeb cyllideb Plaid Cymru gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru i fwy na dyblu'r cyllid a roddir fesul plentyn drwy'r Grant Amddifadedd Disgyblion.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cryfhau'r canllawiau ar y defnydd o'r Grant Amddifadedd Disgyblion i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol ac yn effeithlon i godi cyrhaeddiad disgyblion difreintiedig yn seiliedig ar dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio; a

 

b) cryfhau'r broses o fonitro’r defnydd o’r Grant Amddifadedd Disgyblion i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio at y diben a fwriadwyd.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

18

56

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


21/11/2013 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 15.59

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5362 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn Nodi:

a) canfyddiadau adroddiad ar newid yn yr hinsawdd gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd ei bod 95% yn sicr mai dylanwad dynol ar yr hinsawdd a achosodd dros hanner o'r cynnydd a nodwyd mewn tymereddau arwyneb cyfartalog o 1951-2010;

b) dibyniaeth barhaus Cymru ar danwyddau ffosil ar gyfer ynni, sy'n darparu tua 80% o'r anghenion ynni;

c) mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y defnydd o  adnoddau nwy siâl Cymru, ynghyd â rheoli unrhyw fudd sy'n deillio ohono;

d) methiant Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei tharged o gynhyrchu 4TWh o drydan o ynni adnewyddadwy erbyn 2010;

e) er gwaethaf y ffaith bod Cymru yn allforiwr net trydan, mae biliau'n uwch yng Nghymru nag yn Lloegr neu'r Alban;

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datblygu ‘Map Llwybrmanwl a Chynllun Gweithredu a fydd yn arwain at dargedau ynni adnewyddadwy 2020, gan ddangos targedau ar gyfer pob math unigol o ynni a'r camau a gymerir i gyrraedd y targedau hynny;

b) rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i ddatganoli yn llawn y portffolio ynni a rheoli adnoddau naturiol Cymru i'r Cynulliad Cenedlaethol;

c) cadarnhau gydag Ofgem a'r Grid Cenedlaethol a oes unrhyw ymchwil wedi'i gwneud i gost a hyfywedd cebl tanfor sy'n cysylltu'r Grid Cenedlaethol rhwng gogledd a de Cymru, ac os felly darparu copi o'r ymchwil honno;

d) ymchwilio i'r potensial i sefydlu cwmni ynni cyhoeddus, di-ddifidend i fuddsoddi mewn ynni er budd pobl Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

10

48

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


07/11/2013 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.25

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5344 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.

2. Yn cydnabod rôl trafnidiaeth o ran cysylltu Cymru yn fewnol ac yn allanol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ceisio cyllid canlyniadol Barnett parhaus neu unrhyw setliad ariannol digolledu arall mewn perthynas â phrosiect HS2 Llywodraeth y DU;

b) adolygu gweithrediad y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol a llywodraethu trafnidiaeth yn gyffredinol;

c) ailddatgan ei hymrwymiad i drafnidiaeth gyhoeddus integredig; a

d) cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU, i sicrhau bod coridorau trafnidiaeth gogledd a de Cymru wedi'u cynnwys yn rhwydwaith craidd newydd TEN-T y Comisiwn Ewropeaidd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

17

52

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


10/10/2013 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.28

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5324 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn condemnio bwriad Llywodraeth y DU i breifateiddio'r Post Brenhinol;

2. Yn cydnabod bod preifateiddio yn agor y drws i fygythiadau i wasanaethau post yng Nghymru wledig a threfol yn y dyfodol;

3. Yn nodi pwysigrwydd y Post Brenhinol i Rwydwaith Swyddfa’r Post;

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar bwysigrwydd gwasanaethau post sy'n atebol i'r cyhoedd i economi Cymru ac i gymunedau Cymru; a

b) ystyried cynnig Plaid Cymru ar gyfer datganoli gwasanaethau post er mwyn diogelu gwasanaeth cyffredinol a fforddiadwy.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

45

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1) Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i breifateiddio’r Post Brenhinol.

2) Yn cydnabod:

a) y bydd preifateiddio yn diogelu’r gwasanaeth cyffredinol, yn galluogi’r Post Brenhinol i gasglu arian yn yr un modd â'i gystadleuwyr, ac yn rhoi cyfranddaliadau am ddim i’r 150,000 o bobl sy’n gweithio i’r Post Brenhinol; a

b) y bydd gan y Post Brenhinol wedi’i breifateiddio gyfrifoldeb cyfreithiol o hyd i ddanfon i bob cyfeiriad, boed mewn ardal drefol neu wledig, o dan ofynion sylfaenol y Gwasanaeth Cyffredinol.

3) Yn cydnabod pa mor bwysig yw’r Post Brenhinol i rwydwaith Swyddfa’r Post, nad yw Swyddfa’r Post ar werth, ac na fydd cynllun i gau Swyddfeydd Post o dan Lywodraeth bresennol y DU.  

4) Yn gresynu bod 7,000 o Swyddfeydd Post wedi cael eu cau o dan Lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU.

5) Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU ar ei rhaglen £1.34 biliwn i gynnal rhwydwaith sy’n cynnwys o leiaf 11,500 o ganghennau Swyddfa’r Post ledled y DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

36

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ym mhwynt 1, dileuYn condemnio” a rhoiYn nodiyn ei le. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

36

54

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn rhannu pryderon yr undebau llafur ynghylch y bygythiad posibl i weithlu’r Post Brenhinol yng Nghymru;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

13

5

54

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn trosglwyddo rhwymedigaethau hanesyddol o oddeutu £37.5 biliwn o Gynllun Pensiwn y Post Brenhinol i Gynllun Pensiwn Statudol newydd y Post Brenhinol. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

9

54

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i wasanaeth post cyffredinol, chwe diwrnod yr wythnos, a ddiogelir gan y gyfraith yn Neddf Gwasanaethau Post 2011.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

9

54

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:

ac nad yw’r bwriad i breifateiddio yn cynnwys Swyddfa’r Post.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

36

54

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 4 newydd, ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi ymdrechion niferus y Blaid Lafur i breifateiddio’r Post Brenhinol hyd at 2009 a'r rhaglen i gau Swyddfeydd Post, lle cafodd 216 o swyddfeydd post eu cau yng Nghymru o dan y Blaid Lafur rhwng mis Hydref 2007 a mis Ionawr 2009;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 4 newydd, ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu’r ffaith nad oes unrhyw swyddfeydd post wedi cau ers 2010 o ganlyniad i bolisi Llywodraeth Glymblaid y DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

36

53

Gwrthodwyd gwelliant 8.

Gwelliant 9 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu is-bwynt 4b.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

1

8

54

Derbyniwyd gwelliant 9.

Gan fod gwelliant 9 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 10 ei ddad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5324 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn condemnio bwriad Llywodraeth y DU i breifateiddio'r Post Brenhinol;

2. Yn rhannu pryderon yr undebau llafur ynghylch y bygythiad posibl i weithlu’r Post Brenhinol yng Nghymru;

3. Yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn trosglwyddo rhwymedigaethau hanesyddol o oddeutu £37.5 biliwn o Gynllun Pensiwn y Post Brenhinol i Gynllun Pensiwn Statudol newydd y Post Brenhinol;

4. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i wasanaeth post cyffredinol, chwe diwrnod yr wythnos, a ddiogelir gan y gyfraith yn Neddf Gwasanaethau Post 2011;

5. Yn nodi pwysigrwydd y Post Brenhinol i Rwydwaith Swyddfa’r Post;

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar bwysigrwydd gwasanaethau post sy'n atebol i'r cyhoedd i economi Cymru ac i gymunedau Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

18

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


03/10/2013 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 15.51

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5311 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr angen i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion er mwyn darparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol i bobl mewn angen; a

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio cyfle'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol i weithredu'r integreiddio hwn.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

15

49

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


26/09/2013 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 15.58

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5304 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. Yn nodi bod galwad olaf am dystiolaeth y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk) yn dod i ben ddydd Gwener, 27 Medi 2013.

2. Yn nodi bod y gwaith ymchwil a wnaethpwyd ar ran Comisiwn Silk yn dangos cefnogaeth sylweddol dros roi rhagor o bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth benodol dros drosglwyddo pwerau ynni adnewyddadwy (70%), plismona (63%) a darlledu a rheoleiddio’r cyfryngau (58%).

3. Yn nodi ymhellach y gefnogaeth a welwyd y llynedd dros drosglwyddo pwerau ariannol, gyda 64% yn cefnogi trosglwyddo pwerau treth incwm i Lywodraeth Cymru, 80% yn cefnogi pwerau benthyca ar gyfer prosiectau seilwaith, a 72% o blaid trethicymell’.

4. Yn mynegi pryder bod Llywodraeth y DU wedi oedi cymaint cyn ymateb i adroddiad cyntaf Comisiwn Silk, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i lynu wrth yr amserlen a nodwyd gan Gomisiwn Silk, a bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cyhoeddi eu hymatebion yn brydlon i’r ail adroddiad pan gaiff ei gyhoeddi’r gwanwyn nesaf.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

18

54

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


18/07/2013 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.30

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5298 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi gyda phryder bod 48.9% o ddisgyblion Cymru yn gadael yr ysgol heb 5 TGAU A*-C gan gynnwys Cymraeg/Saesneg a mathemateg.

2. Yn nodi gyda phryder bod y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndir difreintiedig a mwy breintiedig yn tyfu drwy'r cyfnodau allweddol, gan gyrraedd 33% yng Nghyfnod Allweddol 4.

3. Yn credu y dylid ailwerthuso polisïau i fynd i'r afael â lleoedd dros ben i gynorthwyo safonau uchel fel blaenoriaeth.

4. Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod disgyblion yn gadael yr ysgol gyda chymwysterau perthnasol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu sefydlu Cymwysterau Cymru yn sefydliad annibynnol i reoleiddio cymwysterau yn y lle cyntaf.

5. Yn cydnabod pwysigrwydd cau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndir difreintiedig a disgyblion o gefndir mwy breintiedig ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y grant amddifadedd disgyblion yn cael ei ddyrannu i bolisïau sy'n mynd i'r afael â hyn.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ei chynigion cynhwysfawr i weithredu'r argymhellion yn adroddiad Hill.

7. Yn croesawu cytundeb Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru i greu 5,650 o gyfleoedd prentisiaeth ychwanegol, gan roi cyfleoedd gwerthfawr i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau a chael gwaith. 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

17

51

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


20/06/2013 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.48

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5269 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi rôl allweddol y system gynllunio o ran cyfrannu tuag at gynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol;  a

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r system gynllunio fel ei bod yn adlewyrchu'n well egwyddorion datblygu cynaliadwy, yn arbennig:

a) bod Cynlluniau Datblygu Lleol yn adlewyrchu anghenion tai lleol yn well;

b) bod yr iaith Gymraeg yn dod yn ystyriaeth gynllunio fwy ystyrlon; ac

c) bod y system gynllunio'n hwyluso twf gwyrdd yn well.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

16

50

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


13/06/2013 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 15.56

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5263 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i drafnidiaeth gyhoeddus integredig.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gyflawni'r ymrwymiadau yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, ac i gefnogi gweithredu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol ledled y wlad.

3. Yn cefnogi datblygu systemau trafnidiaeth integredig ledled Cymru, gan gynnwys ‘system Metro’ i dde-ddwyrain Cymru.

4. Yn croesawu camau gweithredu Llywodraeth Cymru ar Faes Awyr Caerdydd, ac yn galw am ddatblygu a chyhoeddi strategaeth hedfan i Gymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi creu awdurdod trafnidiaeth cenedlaethol i Gymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

45

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôlLywodraeth Cymru i’ a rhoi yn ei le ‘gyflawni’r ymrwymiadau yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, i gefnogi’r broses o weithredu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol ledled y wlad, ac i sicrhau cysylltiadau effeithiol â meysydd datblygu economaidd eraill, gan gynnwys Ardaloedd Menter a Dinas-ranbarthau’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

9

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:

‘, gan gydnabod y pwysau ar y gyllideb sydd ar gael

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

5

54

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod pwysigrwydd cynlluniau trafnidiaeth cymunedol, yn enwedig i bobl hŷn a phobl anabl a’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu cyllidebau tair blynedd ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth cymunedol er mwyn sicrhau bod cyllid ar gael i weithredwyr trafnidiaeth cymunedol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ym mhwynt 3, dileu ‘, gan gynnwys ‘system Metro’ i dde-ddwyrain Cymru’ a rhoi yn ei le ‘ac yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i’r cynllun gwerth £1 biliwn i drydaneiddio prif reilffordd Great Western, ac i’r cynllun gwerth £350 miliwn i drydaneiddio Cledrau’r Cymoedd, a fydd yn braenaru’r tir ar gyfer ‘system Metro’ i dde-ddwyrain Cymru

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

37

54

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 3, ar ôlgan gynnwyscynnwysystyried potensial’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

42

54

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cefnogi trydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro a yw Manceinion yn rhan o’r achos strategol ac yn cael ei chynnwys yn ystyriaethau'r Tasglu ynghylch yr achos busnes dros drydaneiddio.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

37

54

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod y cynigion a amlinellwyd yn nogfenGlasbrint ar gyfer Maes Awyr Caerdydd’ y Ceidwadwyr Cymreig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth hedfan gynhwysfawr i Gymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

42

54

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ym mhwynt 4, dileucroesawu’ a rhoinodiyn ei le.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

37

54

Gwrthodwyd gwelliant 8.

Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu wrth y penderfyniad i ddirwyn i ben y llwybr bws X91 sy’n gwasanaethu Maes Awyr Caerdydd ar ddydd Sul, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno llwybr uniongyrchol o ansawdd uchel rhwng canol dinas Caerdydd a Maes Awyr Caerdydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

9

54

Derbyniwyd gwelliant 9.

Gwelliant 10 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

21

54

Derbyniwyd gwelliant 10.

Gan fod gwelliant 10 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 11 a 12 eu dad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5263 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i drafnidiaeth gyhoeddus integredig.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflawni’r ymrwymiadau yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, i gefnogi’r broses o weithredu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol ledled y wlad, ac i sicrhau cysylltiadau effeithiol â meysydd datblygu economaidd eraill, gan gynnwys Ardaloedd Menter a Dinas-ranbarthau, gan gydnabod y pwysau ar y gyllideb sydd ar gael.

3. Yn cefnogi datblygu systemau trafnidiaeth integredig ledled Cymru, gan gynnwys ‘system Metro’ i dde-ddwyrain Cymru.

4. Yn croesawu camau gweithredu Llywodraeth Cymru ar Faes Awyr Caerdydd, ac yn galw am ddatblygu a chyhoeddi strategaeth hedfan i Gymru.

5. Yn gresynu wrth y penderfyniad i ddirwyn i ben y llwybr bws X91 sy’n gwasanaethu Maes Awyr Caerdydd ar ddydd Sul, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno llwybr uniongyrchol o ansawdd uchel rhwng canol dinas Caerdydd a Maes Awyr Caerdydd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

5

0

53

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


06/06/2013 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 15.55

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5256 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu bod angen i gymunedau Cymru gael gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth wedi'u harwain gan ymgynghorwyr mewn ysbytai cyffredinol dosbarth lleol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

44

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig:

Yn gresynu bod y toriadau cyllidebol y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu gwneud i gyllid y GIG, sef y toriadau dwysaf o blith gwledydd y DU, yn cael effaith niweidiol ar allu GIG Cymru i barhau i ddarparu cyfluniad presennol gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth wedi’u harwain gan ymgynghorwyr yn ysbytai Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

14

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gwrthod y cynigion sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd gan Raglen De Cymru i israddio gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth wedi’u harwain gan ymgynghorwyr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

0

27

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyflawni ei ymrwymiad i gadw’r gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys presennol yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

0

27

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Weinidog Iechyd Cymru i sicrhau dyfodol y gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys presennol yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

0

27

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y bydd ysbytai cyffredinol dosbarth lleol yn darparu gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth sy’n gynaliadwy ac yn glinigol gadarn os bydd lefelau recriwtio meddygon yn gwella, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canlyniadau ei Hymgyrch Recriwtio Meddygon, a lansiwyd ym mis Ebrill 2012.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y bydd ysbytai cyffredinol dosbarth lleol yn darparu gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth sy’n gynaliadwy ac yn glinigol gadarn os bydd lefelau staffio nyrsys yn gwella, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i hwyluso lefel sylfaenol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5256 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu bod angen i gymunedau Cymru gael gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth wedi'u harwain gan ymgynghorwyr mewn ysbytai cyffredinol dosbarth lleol.

Yn gwrthod y cynigion sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd gan Raglen De Cymru i israddio gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth wedi’u harwain gan ymgynghorwyr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.

Yn galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyflawni ei ymrwymiad i gadw’r gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys presennol yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Yn galw ar Weinidog Iechyd Cymru i sicrhau dyfodol y gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys presennol yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.


16/05/2013 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.55

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5239 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pwysigrwydd buddsoddi yn y seilwaith o ran caffael, prentisiaethau, cyflogaeth a busnesau bach yn economi Cymru;

2. Yn cydnabod yr effaith negyddol ar economi Cymru yn sgîl toriadau i'r gyllideb gyfalaf yn Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant 2010; a

3. Yn galw am ddiogelu'r gyllideb gyfalaf i Gymru yn yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant sydd ar y gweill.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

18

51

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


02/05/2013 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 15.51

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5224 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r cylch gwaith i'r Comisiwn ar Lywodraethu Gwasanaethau Cyhoeddus o fynd i'r afael â'r diffyg atebolrwydd democrataidd presennol yn y GIG drwy ystyried:

a) etholiadau uniongyrchol i Fyrddau Iechyd Lleol;

b) goruchwylio democrataidd o drefniadau cydweithio a chyllideb gyfun rhwng Byrddau Iechyd ac awdurdodau lleol;

c) ethol defnyddwyr gwasanaethau i Gynghorau Iechyd Cymuned; a

d) atebolrwydd ariannol Byrddau Iechyd Lleol yn uniongyrchol i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

41

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu ‘roi’r cylch gwaith i’r Comisiwn ar Lywodraethu Gwasanaethau Cyhoeddus o fynd i'r afael â'r diffyg atebolrwydd democrataidd presennol yn y GIG drwy ystyried:’ a rhoi yn ei le ‘gynnwys yng nghylch gorchwyl y Comisiwn ar Lywodraethu Gwasanaethau Cyhoeddus y diffyg atebolrwydd democrataidd presennol yn y GIG ac a fyddai modd mynd i'r afael â hyn drwy:’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

34

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu is-bwynt d) a rhoi yn ei le:

‘rôl y Cynulliad Cenedlaethol ac awdurdodau lleol yn nhrefniadau atebolrwydd ariannol GIG Cymru.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

34

50

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu is-bwynt d)

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

8

16

50

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys is-bwynt d) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

‘mabwysiadu manyleb safonol o’r sgiliau, y profiad a’r doniau a fyddai’n ofynnol i aelodau sy’n cael eu hethol i bwyllgorau gwaith Cynghorau Iechyd Cymuned;’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

8

26

50

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

‘gofyniad ar fyrddau iechyd lleol i gyhoeddi manylion pob eitem o wariant sy’n fwy na £500 (ar wahân i gostau staff unigol) ar-lein ar gyfer craffu cyhoeddus’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

34

50

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

‘rôl mudiadau’r trydydd sector i wella atebolrwydd y GIG i bobl Cymru.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

4

50

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5224 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r cylch gwaith i'r Comisiwn ar Lywodraethu Gwasanaethau Cyhoeddus o fynd i'r afael â'r diffyg atebolrwydd democrataidd presennol yn y GIG drwy ystyried:

a) etholiadau uniongyrchol i Fyrddau Iechyd Lleol;

b) goruchwylio democrataidd o drefniadau cydweithio a chyllideb gyfun rhwng Byrddau Iechyd ac awdurdodau lleol;

c) ethol defnyddwyr gwasanaethau i Gynghorau Iechyd Cymuned; a

d) rôl mudiadau’r trydydd sector i wella atebolrwydd y GIG i bobl Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


25/04/2013 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.58

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5213 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn gresynu’n ddirfawr at anghydraddoldeb ar sail rhyw a'i fwlch cyflog parhaol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth tymor hir i fynd i'r afael â stereoteipio o ran rhyw.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

14

50

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


17/04/2013 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.31

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5202 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) adolygu'r rheolau caffael mewn llywodraeth leol i'w gwneud yn haws i gwmnïau a busnesau lleol gynnig am waith a gwasanaethau a darparu cyrsiau hyfforddi i swyddogion caffael mewn awdurdodau lleol;

b) gweithio gydag awdurdodau lleol i ddenu cyfleoedd cyflogaeth newydd a sicrhau cymaint o gyflogaeth leol â phosibl pan fydd prosiectau seilwaith mawr ar y gweill; ac

c) darparu rhagor o adnoddau i awdurdodau lleol gynnal a chadw eu rhwydwaith ffyrdd mewn cyflwr da.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

5

54

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


07/03/2013 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16:43

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5179 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol hwn:

 

1. Yn cydnabod effaith gymhleth ond negyddol yn bennaf diffyg twf economaidd a newidiadau i fudd-daliadau lles ar fenywod a theuluoedd yng Nghymru fel y nodwyd yn adroddiad Sefydliad Bevan ‘Women, work and the recession in Wales';

 

2. Yn nodi rhybudd Sefydliad Jospeh Rowntree fod Cymru yn wynebu degawd o dlodi;

 

3. Yn credu bod Llywodraeth y DU wedi dilyn y llwybr economaidd anghywir ers 2010, gan roi menywod a theuluoedd mewn perygl; a

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion Cuts Watch Cymru i liniaru ar effeithiau newidiadau mewn budd-daliadau tai i deuluoedd ac i ddatblygu cynllun i gefnogi menywod ifanc i gyflogaeth briodol sy’n talu'n dda er mwyn diwallu eu hanghenion.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

16

48

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


28/02/2013 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.32

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5170 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:

 

1.Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cynllunio’r gweithlu yn y GIG yn gadarn a digonol i gwrdd ag anghenion poblogaeth Cymru dros y tymor hir; a

 

2.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r prinder meddygon drwy gyflwyno rhaglen o gymhellion ariannol i gynyddu hyfforddiant meddygon mewn ardaloedd lle y mae prinder neu lle y rhagwelir hynny.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

6

0

43

49

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo’r pwyntiau’n unol â hynny:

 

Yn nodi arolwg y Cyngor Meddygol Cyffredinol o feddygon iau yng Nghymru a oedd yn datgelu anghysonderau mawr yn safon yr hyfforddiant meddygol mewn ysbytai yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn meddyginiaethau a thechnegau meddygol sy’n fwy modern, i wella’r hyfforddiant a’r cyfleoedd addysgol i feddygon iau yn ysbytai Cymru a denu rhagor o staff meddygol i Gymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ym mhwynt 2 dileugyflwyno’ a rhoiystyried cyflwynoyn ei le

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

36

49

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi y gallai’r pwysau ariannol sydd ar GIG Cymru ar hyn o bryd gyfrannu at sialensiau recriwtio.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

31

49

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.


24/01/2013 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.32

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5146 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniad enfawr y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol i economi a diwylliant Cymru.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau llwyddiant parhaus y sectorau hyn drwy:

 

a) adolygu gweithrediad adroddiad Hargreaves, ‘Calon Cymru Ddigidol’, i sicrhau bod ei pholisïau’n berthnasol a chyfoes, yn benodol o ran datblygu system breindaliadau hawliau perfformio i Gymru; a

 

b) sicrhau bod Cyngor Celfyddydau Cymru yn adolygu ei strategaeth ar ffurfiau celf yn ystod 2013 ac yn rhoi sylw llawn i’r angen i gynyddu cyfranogaeth yn y celfyddydau, annog pobl ifanc i ymgysylltu â chreadigrwydd, hyrwyddo rhagoriaeth artistig yn Gymraeg a’r Saesneg a gosod Cymru ar lwyfan y byd.

 

 O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

17

50

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


10/01/2013 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.03

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5129 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:

 

1. Yn dathlu bod y Gymraeg yn rhan annatod a hanfodol o ddiwylliant a threftadaeth Cymru ac yn croesawu bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi codi mewn nifer o ardaloedd nad ydynt yn rhai traddodiadol;

 

2. Yn gresynu’n arw wrth y gostyngiad yn nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2011;

 

3. Yn nodi bod angen gweithredu ar unwaith i wneud iawn am y gostyngiad a sicrhau dyfodol Cymru fel cenedl ddwyieithog;

 

4. Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth y DU i dorri rhagor ar gyllideb S4C dros y ddwy flynedd nesaf a hithau’n adeg pan ddylai pawb fod yn blaenoriaethu cefnogaeth ar gyfer yr iaith; a

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu’r canlynol, er mwyn cefnogi’r chwe ardal strategol ar gyfer gweithredu a nodir ynIaith fyw: iaith byw’:

 

a) hybu a chefnogi mentergarwch gan siaradwyr Cymraeg, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle mae’r iaith yn dal i gael ei siarad yn eang;

 

b) buddsoddi mewn seilwaith, yn enwedig band eang, i gefnogi cymunedau a diwydiannau creadigol sy’n siarad Cymraeg;

 

c) rhoi’r safonau Cymraeg arfaethedig ar sail gyfreithiol;

 

d) hybu twf a defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, gan ddechrau gydag awdurdodau cyhoeddus a gweithio gyda’r sector preifat;

 

e) sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer addysgu’r Gymraeg fel ail iaith i oedolion ac i blant;

 

f) cynllunio a hybu’r achos dros ddatganoli darlledu a datganoli swyddi darlledu yn fewnol;

 

g) diwygio’r system gynllunio er mwyn i awdurdodau lleol allu osod cap ar nifer yr ail gartrefi mewn lleoliadau penodol; a

 

h) ymchwilio i sut y gall polisïau caffael gefnogi’r gweithlu a’r gymuned leol i ddefnyddio’r Gymraeg a hybu defnyddio polisïau o’r fath.

 

 O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

44

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20 newydd er i'r ymgynghoriad ar y nodyn technegol newydd ddod i ben ym mis Mehefin 2011.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn llongyfarch Comisiynydd y Gymraeg ar yr ymgynghoriad trylwyr a chynhwysfawr a gynhaliodd parthed y safonau Cymraeg arfaethedig ac yn cefnogi'r safonau fel y'u cyhoeddwyd ganddi ym mis Tachwedd 2012.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

 

Yn cydnabod pwysigrwydd S4C modern ac effeithlon ac yn croesawu cefnogaeth barhaus Llywodraeth y DU i’r darlledwr ar adeg pan fo penderfyniadau gwariant anodd yn gorfod cael eu gwneud. 

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

36

53

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos y camau gweithredu y mae’n eu cymryd er mwyn cefnogi’r chwe ardal strategol ar gyfer gweithredu a nodir ynIaith Fyw: Iaith Byw” ac yn benodol i:

 

(a) hyrwyddo a chefnogi entrepreneuriaeth ymysg Cymry Cymraeg;

 

(b) annog twf y Gymraeg a’r defnydd ohoni yn y gweithle a hyrwyddo’r defnydd o Nod Siarter Cymraeg i gydnabod gwasanaethau Cymraeg o ansawdd uchel;

 

(c) hyrwyddo manteision economaidd sgiliau dwyieithog mewn ardaloedd economaidd difreintiedig;

 

(d) ymchwilio i sut gall polisïau caffael gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg;

 

(e) ystyried rhinweddau gosod y safonau Cymraeg arfaethedig, ar ôl eu cytuno, ar sail statudol;

 

(f) buddsoddi mewn seilwaith, yn enwedig band eang, i gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y diwydiannau creadigol ac mewn bywyd bod dydd mewn cymunedau;

 

(g) archwilio pam nad oes rhagor o bobl ifanc yn ystyried eu bod yn gallu siarad Cymraeg ar ôl degawd o ddysgu Cymraeg yn orfodol mewn ysgolion, ac i sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer dysgu Cymraeg fel ail iaith;

 

(h) adrodd ar lefel y pwys a roddir gan bob awdurdod lleol ar dwf a chynaliadwyedd y defnydd o'r Gymraeg wrth wneud penderfyniadau cynllunio yn eu hardaloedd;

 

(i) archwilio pa feysydd o’r diwydiant darlledu yng Nghymru a allai fod yn atebol i Lywodraeth Cymru ac i Lywodraeth y DU ac yna dadlau’r achos dros rannu cyfrifoldeb

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

41

53

Gwrthodwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru o weld y Gymraeg yn ffynnu, ynghyd â’r chwe maes gweithredu a amlinellir yn Strategaeth y Gymraeg 2012-17, Iaith Fyw: Iaith Byw, sef:

 

a) annog a chefnogi'r defnydd o'r Gymraeg o fewn teuluoedd;

 

b) cynyddu’r ddarpariaeth o weithgareddau Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc a chynyddu eu hymwybyddiaeth o werth yr iaith;

 

c) cryfhau safle’r Gymraeg o fewn y gymuned;

 

d) cynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle;

 

e) gwella gwasanaethau Cymraeg ar gyfer dinasyddion; ac

 

f) cryfhau’r seilwaith ar gyfer yr iaith, gan gynnwys technoleg ddigidol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

14

53

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Derbyniwyd gwelliant 5, felly cafodd gwelliant 6 ei ddad-ddethol.

 

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Weinidogion Cymru i weithredu ar eu haddewid i brif-ffrydio’r Gymraeg ar draws holl weithgareddau Llywodraeth Cymru drwy:

 

(a) mynnu bod corff annibynnol yn cynnal adolygiad cyflawn o holl wariant y Llywodraeth ac i asesu’r berthynas rhwng y gwariant hwnnw a’r Gymraeg - sef mesur ôl-troed ieithyddol y gwariant - ac, o hyn ymlaen, cynnal asesiad effaith iaith cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru bob blwyddyn;

 

(b) cynnwys lles y Gymraeg fel rhan o’r diffiniad statudol o ddatblygu cynaliadwy yn y Bil Datblygu Cynaliadwy arfaethedig; ac

 

(c) sefydlu marchnad lafur cyfrwng Cymraeg a fydd yn cynnwys monitro’r angen am weithlu cyfrwng Cymraeg mewn sectorau a lleoliadau ledled Cymru a chynllunio i ateb y galw am weithlu â sgiliau iaith Gymraeg, gan gynnwys sicrhau cynllun hyfforddiant uchelgeisiol Cymraeg yn y gweithle.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

1

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 7.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5129 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:

 

1. Yn dathlu bod y Gymraeg yn rhan annatod a hanfodol o ddiwylliant a threftadaeth Cymru ac yn croesawu bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi codi mewn nifer o ardaloedd nad ydynt yn rhai traddodiadol;

 

2. Yn gresynu’n arw wrth y gostyngiad yn nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2011;

 

3. Yn nodi bod angen gweithredu ar unwaith i wneud iawn am y gostyngiad a sicrhau dyfodol Cymru fel cenedl ddwyieithog;

 

4. Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth y DU i dorri rhagor ar gyllideb S4C dros y ddwy flynedd nesaf a hithau’n adeg pan ddylai pawb fod yn blaenoriaethu cefnogaeth ar gyfer yr iaith; a

 

5. Yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru o weld y Gymraeg yn ffynnu, ynghyd â’r chwe maes gweithredu a amlinellir yn Strategaeth y Gymraeg 2012-17, Iaith Fyw: Iaith Byw, sef:

 

a) annog a chefnogi'r defnydd o'r Gymraeg o fewn teuluoedd;

 

b) cynyddu’r ddarpariaeth o weithgareddau Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc a chynyddu eu hymwybyddiaeth o werth yr iaith;

 

c) cryfhau safle’r Gymraeg o fewn y gymuned;

 

d) cynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle;

 

e) gwella gwasanaethau Cymraeg ar gyfer dinasyddion; ac

 

f) cryfhau’r seilwaith ar gyfer yr iaith, gan gynnwys technoleg ddigidol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

17

9

53

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


06/12/2012 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17:23

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5115 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu wrth y lefel uchel barhaus o bobl ifanc sy’n ddi-waith;

 

2. Yn croesawu cytundeb Llywodraeth Cymru i ddarparu £20m ychwanegol ar gyfer 2013-14, a swm dangosol tebyg ar gyfer 2014-15, i gyllido prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi ychwanegol i bobl ifanc 16-24 oed;

 

3. Yn cydnabod bod angen rhoi rhagor o gymhellion i gyflogwyr bach a chanolig gynnig prentisiaethau sy’n gallu cynnig amrywiaeth o sgiliau i bobl ifanc.

 

 O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

18

52

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


22/11/2012 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 15.55

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5099 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd mawr cyllideb yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer dyfodol y Polisi Amaethyddol Cyffredin a chronfeydd rhanbarthol; a

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i beidio â hybu na chytuno ar unrhyw ostyngiad yn y gyllideb Ewropeaidd a fydd yn cael effaith andwyol ar Gymru a’n gallu i gryfhau economi Cymru.

 O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

18

52

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 


15/11/2012 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16:52

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5091 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi’r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni ac yn gresynu wrth yr effaith a gaiff hyn ar bob aelwyd yng Nghymru, yn enwedig y rheini sy’n dlawd o ran tanwydd;

 

2. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi methu â rheoleiddio’r farchnad ynni i ddiogelu’r rheini sy’n byw mewn tlodi tanwydd; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni holl stoc tai Cymru, gan flaenoriaethu’r rheini sy’n dlawd o ran tanwydd.

 

 O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

7

0

39

46

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi Bargen Werdd Llywodraeth y DU a fydd:

 

a) yn sicrhau, o dan y Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni newydd, ei bod yn ofynnol i gwmnïau ynni ganolbwyntio eu cymorth ar y cartrefi tlotaf a mwyaf agored i niwed, yn ogystal â’r rheini mewn eiddo sy’n anodd eu trin sy’n methu â gwneud arbedion ariannol heb rywfaint o gymorth;

 

b) yn sicrhau y bydd llawer o bobl yn gallu ad-dalu costau cychwynnol gwaith inswleiddio eu cartrefi drwy gyfrwng biliau is o ganlyniad i welliannau i’w cartrefi; ac

 

c) yn sicrhau bod cwmnïau ynni’n cyfathrebu â’u cwsmeriaid i wneud yn siwr eu bod ar y tariff mwyaf addas yn unol â’u hanghenion;

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

10

7

45

Derbyniwyd gwelliant 1.


Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

 

Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 3, dileulunio cynllun i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni holl’ a rhoi yn ei le ‘adeiladu ar y gwaith y mae’n ei wneud eisoes i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

0

15

46

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys fel pwynt 3 newydd ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â Bargen Werdd Llywodraeth y DU i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

0

46

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi mai’r cynnydd sylweddol ym mhris cyfanwerthu nwy sy’n bennaf cyfrifol am y codiadau diweddar mewn prisiau ynni, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i fynd ar drywydd dulliau amgen o gynhyrchu ynni adnewyddadwy er budd y cyhoedd yng Nghymru ac i ddiogelu ffynonellau ynni’r wlad.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

10

0

46

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu’n arw fod nifer y cartrefi mewn tlodi tanwydd yng Nghymru wedi codi o 28% i 33.5% rhwng 2008 a 2011.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

21

0

24

45

Gwrthodwyd gwelliant 6.

 

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni i helpu’r rheini sydd fwyaf mewn angen ac ar gyfer eiddo sy’n anos eu trin, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynlluniau effeithlonrwydd ynni ei hun yn cyd-fynd â’r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni yn hytrach na’i dyblygu’n ddiangen.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

7

46

Derbyniwyd gwelliant 7.

 

Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn annog Llywodraeth Cymru i fanteisio i’r eithaf ar bolisi Bargen Werdd Llywodraeth y DU.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

1

46

Derbyniwyd gwelliant 8.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5091 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi’r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni ac yn gresynu wrth yr effaith a gaiff hyn ar bob aelwyd yng Nghymru, yn enwedig y rheini sy’n dlawd o ran tanwydd;

 

2. Yn nodi Bargen Werdd Llywodraeth y DU a fydd:

 

a) yn sicrhau, o dan y Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni newydd, ei bod yn ofynnol i gwmnïau ynni ganolbwyntio eu cymorth ar y cartrefi tlotaf a mwyaf agored i niwed, yn ogystal â’r rheini mewn eiddo sy’n anodd eu trin sy’n methu â gwneud arbedion ariannol heb rywfaint o gymorth;

 

b) yn sicrhau y bydd llawer o bobl yn gallu ad-dalu costau cychwynnol gwaith inswleiddio eu cartrefi drwy gyfrwng biliau is o ganlyniad i welliannau i’w cartrefi; ac

 

c) yn sicrhau bod cwmnïau ynni’n cyfathrebu â’u cwsmeriaid i wneud yn siwr eu bod ar y tariff mwyaf addas yn unol â’u hanghenion;

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â Bargen Werdd Llywodraeth y DU i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar y gwaith y mae’n ei wneud eisoes i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni stoc tai Cymru, gan flaenoriaethu’r rheini sy’n dlawd o ran tanwydd.

 

5. Yn nodi mai’r cynnydd sylweddol ym mhris cyfanwerthu nwy sy’n bennaf cyfrifol am y codiadau diweddar mewn prisiau ynni, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i fynd ar drywydd dulliau amgen o gynhyrchu ynni adnewyddadwy er budd y cyhoedd yng Nghymru ac i ddiogelu ffynonellau ynni’r wlad.

 

6. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni i helpu’r rheini sydd fwyaf mewn angen ac ar gyfer eiddo sy’n anos eu trin, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynlluniau effeithlonrwydd ynni ei hun yn cyd-fynd â’r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni yn hytrach na’i dyblygu’n ddiangen.

 

7. Yn annog Llywodraeth Cymru i fanteisio i’r eithaf ar bolisi Bargen Werdd Llywodraeth y DU.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

10

46

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


08/11/2012 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.21

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y Cyfnod Pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5086 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod:

 

a) Llywodraeth Cymru wedi dynodi mai partneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol yw’r ateb ar gyfer mynd i’r afael â’r methiant systematig ym myd addysg;

 

b) y cynllun bandio ar gyfer ysgolion uwchradd wedi dynodi bod angen gwella ysgolion ym Mandiau 4 a 5 ar fyrder;

 

2. Yn gresynu nad oedd yr holl bartneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol ar waith erbyn mis Medi 2012 fel yr addawyd; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod:

 

a) y consortia addysg rhanbarthol ar waith yn llawn cyn gynted â phosibl; a

 

b) bod yr ysgolion a roddwyd yn y bandiau is yn cael y cymorth angenrheidiol ar unwaith i fynd i’r afael â methiant systematig.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

6

0

35

41

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi’r gwaith pwysig y mae penaethiaid, athrawon a llywodraethwyr yn ei wneud o ddydd i ddydd i sicrhau’r addysg orau bosibl i’n plant.    

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

2

41

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Yn is-bwynt 1a, ar ôlpartneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol’, ychwanegu ‘, ynghyd â’r diwygiadau addysgol eraill a gefnogir gan y cynllun gweithredu i wella ysgolion a lansiwyd yn ddiweddar a chydweithredu effeithiol ehangach rhwng gwasanaethau cyhoeddus,’

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

14

41

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ym mhwynt 1b, dileu popeth ar ôlysgolion uwchradd,’ a rhoi'r canlynol yn ei le:

 

yn ddiffygiol iawn, ac nad oes gan athrawon, rhieni na disgyblion hyder ynddo.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

27

41

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 2.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

21

0

19

40

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro pam y methwyd â rhoi partneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol ar waith cyn y dyddiad a bennwyd.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

21

41

Gwrthodwyd gwelliant 5.

 

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ym mhwynt 3a, dileu popeth ar ôlrhanbarthol,’ a rhoi'r canlynol yn ei le:

 

yn cynnwys ymgeiswyr o’r safon uchaf bosibl ac yn gwbl weithredol cyn gynted â phosibl ac, os nad yw hyn yn bosibl yn y chwe mis nesaf, bod rôl y consortia addysg rhanbarthol yn nyfodol system addysg Cymru yn cael ei hadolygu.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

5

40

Derbyniwyd gwelliant 6.

 

Gwelliant 7 -Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi sut y gallai gweithredu’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn llwyddiannus gael effaith fuddiol ar gyrhaeddiad mewn ysgolion.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

6

10

40

Derbyniwyd gwelliant 7.

 

Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag ysgolion, athrawon a phartneriaethau gwella ysgolion i sicrhau bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio yn y modd gorau posibl, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn gallu cyflawni ei botensial.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

0

40

Derbyniwyd gwelliant 8.

 

Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â gweithredu pecyn cymorth helaeth a gwahaniaethol ar gyfer ysgolion uwchradd ym Mandiau 4 a 5 y mae angen eu gwella ar frys.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

21

41

Gwrthodwyd gwelliant 9.

 

Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi nad yw 96.5% o benaethiaid ysgolion cynradd yng Nghymru yn credu y bydd cynigion ar gyfer bandio ysgolion o fudd i’w hysgol, ac yn credu y gallai diffyg cefnogaeth o’r fath gan y sector i un o bolisïau allweddol Llywodraeth Cymru gael effaith negyddol ar unrhyw agenda i wella ysgolion.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

27

41

Gwrthodwyd gwelliant 10.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5086 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi’r gwaith pwysig y mae penaethiaid, athrawon a llywodraethwyr yn ei wneud o ddydd i ddydd i sicrhau’r addysg orau bosibl i’n plant.

 

2. Yn nodi bod:

 

a) Llywodraeth Cymru wedi dynodi mai partneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol ynghyd â’r diwygiadau addysgol eraill a gefnogir gan y cynllun gweithredu i wella ysgolion a lansiwyd yn ddiweddar a chydweithredu effeithiol ehangach rhwng gwasanaethau cyhoeddus yw’r ateb ar gyfer mynd i’r afael â’r methiant systematig ym myd addysg;

 

b) y cynllun bandio ar gyfer ysgolion uwchradd wedi dynodi bod angen gwella ysgolion ym Mandiau 4 a 5 ar fyrder;

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod:

 

a) y consortia addysg rhanbarthol yn cynnwys ymgeiswyr o’r safon uchaf bosibl ac yn gwbl weithredol cyn gynted â phosibl ac, os nad yw hyn yn bosibl yn y chwe mis nesaf, bod rôl y consortia addysg rhanbarthol yn nyfodol system addysg Cymru yn cael ei hadolygu.

 

b) bod yr ysgolion a roddwyd yn y bandiau is yn cael y cymorth angenrheidiol ar unwaith i fynd i’r afael â methiant systematig.

 

4. Yn nodi sut y gallai gweithredu’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn llwyddiannus gael effaith fuddiol ar gyrhaeddiad mewn ysgolion.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag ysgolion, athrawon a phartneriaethau gwella ysgolion i sicrhau bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio yn y modd gorau posibl, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn gallu cyflawni ei botensial.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

6

41

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


25/10/2012 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.54

 

Gorhiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y Cyfnod Pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5074 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi dull Llywodraeth Cymru o reoli adnoddau naturiol yng Nghymru, sef ar lefel yr ecosystem.

 

2. Yn cydnabod gwerth y dull rheoli ar lefel yr ecosystem i fusnesau a chymunedau, yn ogystal â’i fanteision i fioamrywiaeth.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) sicrhau bod y dull rheoli ar lefel yr ecosystem yn cael ei ddefnyddio ar draws Llywodraeth Cymru; a

 

b) hyrwyddo gwerth y dull rheoli ar lefel yr ecosystem i'r cyhoedd ac i fusnesau yng Nghymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

16

48

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


11/10/2012 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16:33

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5059 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pwysigrwydd masnachfraint Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin i wasanaethau rheilffyrdd yng ngogledd Cymru ac yn cydnabod blerwch Llywodraeth y DU wrth ddelio â masnachfraint Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin yn ddiweddar.

2. Yn nodi bod gan Lywodraeth y DU swyddogaeth gydlofnodi o hyd ym masnachfraint Cymru a’r Gororau.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ceisio cyfrifoldeb llawn dros adnewyddu masnachfraint Cymru a’r Gororau;

b) ceisio datganoli’r gyllideb a’r pwerau dros y seilwaith rheilffyrdd; a

c) sicrhau bod model di-elw yn cael ei greu ar gyfer masnachfraint Cymru a’r Gororau.

 O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

8

0

43

51

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôlCymru’.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

34

51

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd Gwelliant 2 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.

 

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

39

51

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu 3c) a rhoi yn ei le “archwilio’r holl ddewisiadau ar gyfer masnachfraint Cymru a’r Gororau gan gynnwys model busnes di-elw posibl

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

8

51

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gan fod gwelliant 4 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 5 ei ddad-ddethol.

 

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3):

 

Yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod prif reilffordd gogledd Cymru yn cael ei thrydaneiddio erbyn diwedd Cyfnod Rheoli 6.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 6.

 

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu ymroddiad Llywodraeth y DU i Gymru drwy ei hymrwymiad i drydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Abertawe a thrydaneiddio rheilffyrdd Cymoedd y De.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

34

51

Gwrthodwyd gwelliant 7.

 

Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi pa mor bwysig yw bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r dulliau sydd ar gael iddi i wneud y mwyaf o fanteision trydaneiddio’r rheilffyrdd.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 8.

 

Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch y posibilrwydd o drydaneiddio’r rheilffyrdd yng ngogledd Cymru yn y dyfodol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 9.

 

Gwelliant 10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio’r broses dendro i sicrhau buddsoddiad yn ansawdd cerbydau a’r seilwaith.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 10.

 

Gwelliant 11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin a’r Rheilffordd HS2 newydd yn hanfodol ar gyfer gwella gwasanaethau i ranbarth gogledd Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gwasanaethau i ogledd Cymru yn cael eu hatgyfnerthu yn y dyfodol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 11.

 

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5059 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pwysigrwydd masnachfraint Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin i wasanaethau rheilffyrdd yng ngogledd Cymru ac yn cydnabod blerwch Llywodraeth y DU wrth ddelio â masnachfraint Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin yn ddiweddar.

2. Yn nodi bod gan Lywodraeth y DU swyddogaeth gydlofnodi o hyd ym masnachfraint Cymru a’r Gororau.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ceisio cyfrifoldeb llawn dros adnewyddu masnachfraint Cymru a’r Gororau;

b) ceisio datganoli’r gyllideb a’r pwerau dros y seilwaith rheilffyrdd; ac

c) archwilio’r holl ddewisiadau ar gyfer masnachfraint Cymru a’r Gororau gan gynnwys model busnes di-elw posibl

d) yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod prif reilffordd gogledd Cymru yn cael ei thrydaneiddio erbyn diwedd Cyfnod Rheoli 6

4. Yn nodi pa mor bwysig yw bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r dulliau sydd ar gael iddi i wneud y mwyaf o fanteision trydaneiddio’r rheilffyrdd.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch y posibilrwydd o drydaneiddio’r rheilffyrdd yng ngogledd Cymru yn y dyfodol.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio’r broses dendro i sicrhau buddsoddiad yn ansawdd cerbydau a’r seilwaith.

7. Yn credu bod Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin a’r Rheilffordd HS2 newydd yn hanfodol ar gyfer gwella gwasanaethau i ranbarth gogledd Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gwasanaethau i ogledd Cymru yn cael eu hatgyfnerthu yn y dyfodol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

5

51

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


27/09/2012 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 15:17

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5050 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu adroddiad McClelland ‘Gwneud y Gorau o Bolisi Caffael Cymru’;

2. Yn cydnabod gwerth caffael cyhoeddus i economi Cymru;

3. Yn nodi bod diweithdra hirdymor ymhlith pobl ifanc wedi cynyddu bedair gwaith bron dros y flwyddyn ddiwethaf; a

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol er mwyn rhoi hwb i’r economi:

a) gwneud polisi caffael yn fwy agored i gwmnïau yng Nghymru; a

b) cynyddu gwariant ar brosiectau seilwaith.

 

 O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

16

52

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 


12/07/2012 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.19

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5035 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio modelau eraill dielw o berchnogaeth dros y rhwydwaith rheilffyrdd sy’n esgor ar y manteision mwyaf posibl i’r cyhoedd ac i deithwyr.

 

 O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

4

12

49

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


05/07/2012 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.12

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5027 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru):

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gwrthwynebu lleoli Trident, neu unrhyw arfau niwclear eraill, yn Aberdaugleddau neu yn unrhyw le arall yng Nghymru; a 

 

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i beidio â bwrw ymlaen i gael olynydd i Trident ac i ddefnyddio’r adnoddau a arbedwyd i greu swyddi.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

39

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau i benderfynu ble y lleolir arfau niwclear ac yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hyn.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

13

52

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5027 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru):

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau i benderfynu ble y lleolir arfau niwclear ac yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hyn.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

8

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


14/06/2012 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16:26.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5003 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn croesawu’r syniadau ar gyfer dod ag adnoddau ynghyd a chydweithio i gryfhau economïau lleol fel y nodir ynCynllun Gwyrdd i’r Cymoedd.’

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd o ddatblygu rhaglen benodol i adfywio cymunedau a thrwy hynny sicrhau bod ganddynt ddyfodol economaidd ffyniannus a chynaliadwy.

 

Mae‘rCynllun Gwyrdd i’r Cymoeddar gael drwy fynd i: http://www.plaidcymru.org/cynllun-gwyrdd-ir-cymoedd/?force=2

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

8

0

35

43

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 1.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

17

43

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

 

Yn cydnabod bod ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoeddyn cydnabod sefyllfa economaidd wael Cymoedd De Cymru.

 

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cefnogi datblygumetro’r Cymoeddar gyfer rheilffyrdd y Cymoedd a fydd yn helpu i adfywio cymunedau yng nghymoedd de Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

0

43

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu nad ywCynllun Gwyrdd i’r Cymoeddyn mynd ati’n gynhwysfawr i archwilio sut y mae datblygu’r sector preifat yng Nghymoedd De Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

8

43

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5003 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd o ddatblygu rhaglen benodol i adfywio cymunedau a thrwy hynny sicrhau bod ganddynt ddyfodol economaidd ffyniannus a chynaliadwy.

 

Mae‘rCynllun Gwyrdd i’r Cymoeddar gael drwy fynd i: http://www.plaidcymru.org/cynllun-gwyrdd-ir-cymoedd/?force=2

 

2. Yn cefnogi datblygumetro’r Cymoeddar gyfer rheilffyrdd y Cymoedd a fydd yn helpu i adfywio cymunedau yng nghymoedd de Cymru.

 

3. Yn gresynu nad ywCynllun Gwyrdd i’r Cymoeddyn mynd ati’n gynhwysfawr i archwilio sut y mae datblygu’r sector preifat yng Nghymoedd De Cymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

0

42

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


31/05/2012 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16:05.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5000 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cefnogi’r cais gan Nominet i Gorfforaeth y Rhyngrwyd ar gyfer Enwau a Rhifau a Neilltuir (ICANN) am ddau Barth Lefel Uchaf i Gymru, sef .cymru a .wales

 

2. Yn credu y bydd presenoldeb o’r fath ar y rhyngrwyd yn helpu i hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol ac mewn twf e-fasnach; a

 

3. Yn galw ar Gomisiwn y Cynulliad i fabwysiadu’r ddau Barth Lefel Uchaf hyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

18

57

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

 

 

 


10/05/2012 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16:25.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4978 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi â phryder y cynnydd mewn ffigurau diweithdra, yn enwedig ymysg menywod, pobl ifanc a phobl ag anableddau.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

8

0

38

46

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig ‘ac effaith y polisïau y mae Llywodraeth y DU yn eu dilyn ar ddiweithdra’.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

0

15

46

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno’r Contract Ieuenctid sy’n cynnwys lleoliadau profiad gwaith gwirfoddol i bobl ifanc yng Nghymru, ac yn croesawu cymorth ariannol ychwanegol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Rhaglen Recriwtiaid Newydd.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

11

30

46

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi bod diweithdra yng Nghymru yn dal yn uwch na holl wledydd eraill y DU.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

8

46

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi bod diweithdra ieuenctid yng Nghymru wedi bod yn uwch na chyfradd y DU ym mhob blwyddyn er 2001 a bod 11.5 y cant o bobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed a 23.2 y cant o bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed yn cael eu dosbarthu ar hyn o bryd fel pobl nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

0

46

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi'r datganiad gan y Ffederasiwn Busnesau Bach sy’n honni y gellid cyflogi pawb sy’n chwilio am swydd petai bob busnes bach a chanolig yn recriwtio un unigolyn arall.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

8

46

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU a’r gymuned fusnes i greu rhagor o gyfleoedd swyddi.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

0

46

Derbyniwyd gwelliant 6.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4978 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi â phryder y cynnydd mewn ffigurau diweithdra, yn enwedig ymysg menywod, pobl ifanc a phobl ag anableddau ac effaith y polisïau y mae Llywodraeth y DU yn eu dilyn ar ddiweithdra’.

 

2. Yn nodi bod diweithdra yng Nghymru yn dal yn uwch na holl wledydd eraill y DU.

 

3. Yn nodi bod diweithdra ieuenctid yng Nghymru wedi bod yn uwch na chyfradd y DU ym mhob blwyddyn er 2001 a bod 11.5 y cant o bobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed a 23.2 y cant o bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed yn cael eu dosbarthu ar hyn o bryd fel pobl nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant.

 

4. Yn nodi'r datganiad gan y Ffederasiwn Busnesau Bach sy’n honni y gellid cyflogi pawb sy’n chwilio am swydd petai bob busnes bach a chanolig yn recriwtio un unigolyn arall.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU a’r gymuned fusnes i greu rhagor o gyfleoedd swyddi.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

4

10

45

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


26/04/2012 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.19.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4964 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod:

 

a) gwerth y gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol;

 

b) bod awdurdodau lleol yn hanfodol i gynaliadwyedd economïau lleol;

 

c) ei bod yn bwysig bod awdurdodau lleol yn gyflogwyr da, cyfrifol; a

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo arfer da ymysg awdurdodau lleol, gan gynnwys creu partneriaethau, sy’n diwallu anghenion lleol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

17

51

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


29/03/2012 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.59.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4953 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn credu bod cynnig Llywodraeth y DU i gyflwyno cyflogau rhanbarthol i’r sector cyhoeddus yn anghyfiawn i weithwyr, yn andwyol i economi Cymru ac yn niweidiol i fusnesau.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

17

53

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


22/03/2012 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.42.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4945 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn credu y byddai datganoli rhagor o bwerau yn helpu i sicrhau economi gynaliadwy a ffyniannus.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

17

50

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


15/03/2012 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 15.54.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4938 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud o ran sicrhau pwerau datganoledig ychwanegol yn dilyn y refferendwm llwyddiannus yn 2011;

 

2. Yn cydnabod y gefnogaeth eang ar gyfer rhagor o ddatganoli; a

 

3. Yn edrych ymlaen at ragor o ddatblygiadau o ran datganoli pwerau, gan gynnwys cyfrifoldeb ariannol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

16

56

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


08/03/2012 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17:05.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4931 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyflwyno ysgogiad ariannol cynhwysfawr ar gyfer yr economi, sy’n cynnwys buddsoddiad cyfalaf a ddaw o ffrydiau ariannu’r tu allan i’r grant bloc; a

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn o brosiectau cyfalaf a mesurau pellach i gefnogi busnesau ac i ddiogelu swyddi.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

44

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i gyflwyno pecyn ariannol cynhwysfawr er mwyn helpu i ysgogi’r economi, gan gynnwys darparu buddsoddiad cyfalaf, o ffynonellau traddodiadol a rhai nad ydynt yn draddodiadol; a

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

20

53

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ym mhwynt 2, ar ôlpellach’, rhoi ‘, fel gwell seilwaith a lefelau sgiliau uwch,’.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:

 

'yn cynnwys diddymu ardrethi busnes ar gyfer cwmnïau hyd at werth ardrethol o £12,000’.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

41

53

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos â Llywodraeth y DU i wella economi Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu y gellid darparu ysgogiad economaidd cynhwysfawr petai gan y Cynulliad bwerau benthyca a rhagor o gyfrifoldeb ariannol, ac yn croesawu sefydlu Comisiwn Silk sy’n ymchwilio i’r posibilrwydd hwn.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

12

0

53

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4931 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i gyflwyno pecyn ariannol cynhwysfawr er mwyn helpu i ysgogi’r economi, gan gynnwys darparu buddsoddiad cyfalaf, o ffynonellau traddodiadol a rhai nad ydynt yn draddodiadol.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn o brosiectau cyfalaf a mesurau pellach, fel gwell seilwaith a lefelau sgiliau uwch, i gefnogi busnesau ac i ddiogelu swyddi.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos â Llywodraeth y DU i wella economi Cymru.

 

4. Yn credu y gellid darparu ysgogiad economaidd cynhwysfawr petai gan y Cynulliad bwerau benthyca a rhagor o gyfrifoldeb ariannol, ac yn croesawu sefydlu Comisiwn Silk sy’n ymchwilio i’r posibilrwydd hwn.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

21

53

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


29/02/2012 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 17.02.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4926 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wneir i iechyd y wlad gan rwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth y GIG yn gweithio gyda Chanolfannau Arbenigol rhanbarthol;

 

2. Yn nodi bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi methu â chynnal ffydd y cyhoedd a chlinigwyr; a

 

3. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i:

 

a) cynnal rhwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth i sicrhau bod dinasyddion Cymru o fewn pellter diogel i’w gwasanaethau achub bywydau; a

 

b) cyfarwyddo Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Powys i weithio ar draws ffiniau gweinyddol i sicrhau bod anghenion meddygol a llawfeddygol pobl canolbarth Cymru yn cael eu diwallu’n ddiogel ac yn ddigonol gan Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

27

51

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl "Dda" a rhoi yn ei le:

 

"yn gweithio’n arloesol ac yn eang, er bod ganddo waith i’w wneud eto, i ymgysylltu ac egluro dyfodol gwasanaethau’r GIG i’r cyhoedd a chlinigwyr yn ei ardal leol; a"

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

24

51

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu fel pwynt 3 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

 

3. Yn nodi ac yn llongyfarch y gwaith gwerthfawr a wneir gan ‘The aBer Group’ o ran cryfhau cyfranogiad y cyhoedd yn nyfodol Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais; a

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4926 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wneir i iechyd y wlad gan rwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth y GIG yn gweithio gyda Chanolfannau Arbenigol rhanbarthol;

 

2. Yn nodi bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gweithio’n arloesol ac yn eang, er bod ganddo waith i’w wneud eto, i ymgysylltu ac egluro dyfodol gwasanaethau’r GIG i’r cyhoedd a chlinigwyr yn ei ardal leol;

 

3. Yn nodi ac yn llongyfarch y gwaith gwerthfawr a wneir gan ‘The aBer Group’ o ran cryfhau cyfranogiad y cyhoedd yn nyfodol Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais; a

 

4. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i:

 

a) cynnal rhwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth i sicrhau bod dinasyddion Cymru o fewn pellter diogel i’w gwasanaethau achub bywydau; a

 

b) cyfarwyddo Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Powys i weithio ar draws ffiniau gweinyddol i sicrhau bod anghenion meddygol a llawfeddygol pobl canolbarth Cymru yn cael eu diwallu’n ddiogel ac yn ddigonol gan Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

24

51

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


02/02/2012 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.31.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4906 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r stigma sydd ynghlwm wrth y rheini sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

45

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Dileu ‘y rheini sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau’ a rhoi yn ei le ‘y bobl hynny sy’n cael cymorth lles’.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

13

37

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd y Cynnig:

 

ac yn credu mai un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau’r stigma hwn yw drwy helpu pobl yn ôl i waith’.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

37

54

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cydnabod bod bod heb waith a dibyniaeth ar fudd-daliadau yn creu rhwystrau mwy byth i’r rheini sy’n dymuno dianc o fywyd ar fudd-daliadau a chael gwaith.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

37

54

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cytuno y bydd agenda diwygio lles Llywodraeth y DU yn cynyddu’r stigma i’r rhai sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau, a chan mai mater sydd heb ei ddatganoli yw hwn, na ddylai Llywodraeth Cymru ysgwyddo’r baich ariannol fydd ynghlwm wrth leddfu’r sefyllfa.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

17

54

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4906 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r stigma sydd ynghlwm wrth y rheini sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau.

 

Yn cytuno y bydd agenda diwygio lles Llywodraeth y DU yn cynyddu’r stigma i’r rhai sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau, a chan mai mater sydd heb ei ddatganoli yw hwn, na ddylai Llywodraeth Cymru ysgwyddo’r baich ariannol fydd ynghlwm wrth leddfu’r sefyllfa.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

17

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


26/01/2012 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.48

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4900 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn

 

1. Croesawu penderfyniadau adeiladol Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd yn Durban, De Affrica, 28 Tachwedd - 9 Rhagfyr 2011;

 

2. Croesawu cyfraniad Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy at ganlyniad y gynhadledd ac yn llongyfarch Llywodraeth Cymru gan fod Cynllun Prosiect Partneriaeth Plannu Coed Mbale-Cymru wedi cael ei ddewis yn un o naw prosiect enghreifftiol y Cynllun Momentwm i Newid; a

 

3. Galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi achrediad Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy ar gyfer cyfrannu at Gynhadledd Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yn Rio de Janeiro, 20-22 Mehefin 2012.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

18

52

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


18/01/2012 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.03

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4893 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru dros GIG Cymru a’r ddarpariaeth o dros £5 biliwn i Fyrddau Iechyd Lleol i gyflenwi gwasanaethau iechyd;

 

2. Yn gresynu wrth ddiffyg tryloywder ac atebolrwydd y Byrddau Iechyd Lleol wrth wneud penderfyniadau ac ym maes rheoli ariannol hyd yma.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

45

55

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Mewnosod ar ddiwedd pwynt 1 ‘ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos mwy o gyfrifoldeb dros berfformiad Byrddau Iechyd Lleol’.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Llywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 2.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

27

56

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu a diweddaru ei harweiniad i Fyrddau Iechyd Lleol ar gynnwys y cyhoedd yn y gwaith o gynllunio a chyflenwi gwasanaethau’r GIG.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

29

56

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu y bydd cyllideb ddiweddar Llywodraeth Cymru yn arwain at dorri 6.6 y cant ar gyllideb y GIG mewn termau real.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

39

56

Gwrthodwyd gwelliant 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4893 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru dros GIG Cymru a’r ddarpariaeth o dros £5 biliwn i Fyrddau Iechyd Lleol i gyflenwi gwasanaethau iechyd;

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

27

56

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


12/01/2012 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.55

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4887 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno system fandio ar gyfer ysgolion uwchradd a chynradd yng Nghymru;

 

2. Yn credu nad yw bandio’n rhoi darlun cyflawn o berfformiad ysgol a dylid cyfyngu ei ddefnydd i sicrhau bod unrhyw ysgol yn cael y cymorth angenrheidiol sydd ei angen arni i wella’r meysydd hynny a gaiff eu mesur gan y system fandio;

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno proses werthuso adeiladol sy’n arwain at gymorth wedi’i dargedu i ddatrys perfformiad gwael mewn ysgolion.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

44

56

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro dealltwriaeth rhieni, athrawon a Llywodraethwyr o'r system fandio ac ystyried y pryderon a fynegwyd gan staff addysgu a chymryd camau eraill i egluro os bydd angen.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cydnabod y camau y mae Awdurdodau Lleol wedi’u cymryd, drwy gonsortia, i ad-drefnu’r gwasanaethau gwella ysgolion ac yn credu y dylai cefnogaeth sy’n manteisio ar arbenigedd yr ymarferwyr blaenllaw ddod yn fodel ledled Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

12

56

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu mai safon yr addysgu ac arweinyddiaeth ysgolion yw’r ffactorau allweddol ar gyfer gwella ysgolion ac yn talu teyrnged i waith y proffesiwn addysgu yng Nghymru am sicrhau bod safonau wedi codi dros y degawd diwethaf.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu y bydd y system fandio hon, drwy ganolbwyntio ar berfformiad cyffredinol ysgolion, yn methu cydnabod perfformiadau unigol disgyblion ac adrannau yn yr ysgolion hynny.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

39

56

Gwrthodwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn bryderus nad yw Llywodraeth Cymru wedi llunio canllawiau penodol ar gyfer sut gall awdurdodau lleol a chanddynt nifer o ysgolion ym Mandiau 3, 4 a 5 wneud gwelliannau ymarferol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

29

56

Gwrthodwyd gwelliant 5.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4887 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno system fandio ar gyfer ysgolion uwchradd a chynradd yng Nghymru;

 

2. Yn credu nad yw bandio’n rhoi darlun cyflawn o berfformiad ysgol a dylid cyfyngu ei ddefnydd i sicrhau bod unrhyw ysgol yn cael y cymorth angenrheidiol sydd ei angen arni i wella’r meysydd hynny a gaiff eu mesur gan y system fandio;

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno proses werthuso adeiladol sy’n arwain at gymorth wedi’i dargedu i ddatrys perfformiad gwael mewn ysgolion.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro dealltwriaeth rhieni, athrawon a Llywodraethwyr o'r system fandio ac ystyried y pryderon a fynegwyd gan staff addysgu a chymryd camau eraill i egluro os bydd angen.

 

5. Yn cydnabod y camau y mae Awdurdodau Lleol wedi’u cymryd, drwy gonsortia, i ad-drefnu’r gwasanaethau gwella ysgolion ac yn credu y dylai cefnogaeth sy’n manteisio ar arbenigedd yr ymarferwyr blaenllaw ddod yn fodel ledled Cymru.

 

6. Yn credu mai safon yr addysgu ac arweinyddiaeth ysgolion yw’r ffactorau allweddol ar gyfer gwella ysgolion ac yn talu teyrnged i waith y proffesiwn addysgu yng Nghymru am sicrhau bod safonau wedi codi dros y degawd diwethaf.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

12

56

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


08/12/2011 - Dadl Plaid Cymru

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4874 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cyflwyno sylwadau brys i Lywodraeth y DU, yn dilyn cyhoeddi Datganiad yr Hydref, ynglyn â’i methiant i ddarparu ysgogiad economaidd digonol i Gymru wrth ymateb i’r sefyllfa economaidd bresennol, ac ynglyn â’i chynigion i gyflwyno tâl sector cyhoeddus rhanbarthol; a

 

b) mynd ati ar frys i osod ei chynlluniau ei hun ar gyfer ysgogiad economaidd, a ddylai gynnwys prosiectau seilwaith, cymorth i fusnesau a chymorth i bobl ifanc sy’n ddi-waith.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

15

53

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


07/12/2011 - Dadl Plaid Cymru

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4872 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu wrth y nifer uwch o farwolaethau yn y gaeaf oherwydd y cynnydd yn nifer y bobl sy’n dioddef o dlodi tanwydd.

 

2. Yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r holl bwerau sydd ganddi y gaeaf hwn i leihau nifer y marwolaethau yn y gaeaf.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei strategaeth tlodi tanwydd yn sgil cynnydd diweddar mewn prisiau tanwydd, gan ganolbwyntio ar:

 

a. Ôl-ffitio stoc tai Cymru; a

 

b. Mynd i’r afael â diffyg sicrwydd mewn perthynas ag ynni drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, a buddsoddi mewn datblygusgiliau gwyrdd’ y sector adeiladu yng Nghymru, fel y cofnodwyd mewn papur diweddar ‘Skills for Eco-Refurbishment’.

 

Gellir gweld Strategaeth Tlodi Tanwydd Llywodraeth Cymru drwy ddilyn y linc a ganlyn:

 

http://wales.gov.uk/docs/desh/publications/100723fuelpovertystrategycy.pdf

 

Gellir gweld y papur ‘Skills for Eco-Refurbishment’ drwy ddilyn y linc a ganlyn:

 

http://calvjones.com/pages/greenskills-74987 - Saesneg yn unig

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

6

56

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 


24/11/2011 - Dadl Plaid Cymru

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4860 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod y rhan hanfodol y mae nyrsys, gan gynnwys nyrsys arbenigol, yn ei chwarae yn y GIG.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) gynnal y cynllun bwrsariaeth nyrsio fel y mae’n cael ei weithredu ar hyn o bryd;

 

b) sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus yn y proffesiwn nyrsio; ac

 

c) datblygu rhwydwaith digonol o nyrsys arbenigol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

12

33

55

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu is-bwynt 2a) a rhoi yn ei le:

 

sicrhau bod egwyddorion cydraddoldeb a thegwch wedi’u dilyn wrth newid y cynllun bwrsariaeth ar gyfer nyrsys.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

21

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys is-bwynt 2a) newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: ‘diffinio a datblygu swyddogaeth Nyrsys Presgripsiynu yng Nghymru’. 

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Gorgannwg)

 

Dileu is-bwynt 2c) a rhoi yn ei le:

 

sicrhau bod y BILlau yn cynllunio ac yn cynnal rhwydwaith digonol o nyrsys arbenigol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

26

55

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

gwella diogelwch a gwella’r amgylchedd gweithio diogel i nyrsys.’

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

sicrhau bod pob nyrs yn gallu cael gafael ar yr hyfforddiant angenrheidiol er mwyn gallu bod yn gwbl effeithiol yn eu swyddogaeth.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4860 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod y rhan hanfodol y mae nyrsys, gan gynnwys nyrsys arbenigol, yn ei chwarae yn y GIG.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) diffinio a datblygu swyddogaeth Nyrsys Presgripsiynu yng Nghymru

 

b) sicrhau bod egwyddorion cydraddoldeb a thegwch wedi’u dilyn wrth newid y cynllun bwrsariaeth ar gyfer nyrsys;

 

c) sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus yn y proffesiwn nyrsio;

 

d) sicrhau bod y BILlau yn cynllunio ac yn cynnal rhwydwaith digonol o nyrsys arbenigol;

 

e) gwella diogelwch a gwella’r amgylchedd gweithio diogel i nyrsys; ac

 

f) sicrhau bod pob nyrs yn gallu cael gafael ar yr hyfforddiant angenrheidiol er mwyn gallu bod yn gwbl effeithiol yn eu swyddogaeth

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

10

55

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


17/11/2011 - Plaid Cymru Debate

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4850 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cadarnhau targedau ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’ a ‘Strategaeth Cymru ar Newid yn yr Hinsawdd’ ac yn croesawu’r cyfraniad nodedig at gyrraedd y targedau hyn gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen yn ei strategaeth ar gyfer ‘Prydain Di-garbon 2030’; ac

 

2. Yn galw ar Weinidogion Cymru i lansio ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus ar newid yn yr hinsawdd hyd at Gynhadledd Rio+20.

 

Gellir gweld ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’ drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

 

http://wales.gov.uk/topics/sustainabledevelopment/publications/onewalesoneplanet/?skip=1&lang=cy

 

Gellir gweld ‘Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd’ drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

 

http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/climatechange/tacklingchange/strategy/walesstrategy/?skip=1&lang=cy

 

Gellir gweld y strategaeth ar gyfer ‘Prydain Di-garbon 2030’ drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

 

http://www.zcb2030.org/

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

12

5

53

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


09/11/2011 - Dadl Plaid Cymru

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4846 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i:

 

a) ymateb yn weithredol i’r argyfwng economaidd presennol;

 

b) ymdrin â’r problemau a wynebir gan y sector gweithgynhyrchu; ac

 

c) mynd i’r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc; a

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn cynhwysfawr o fesurau i fynd i’r afael â’r argyfwng economaidd presennol, yn cynnwys cyflwyno prosiectau cyfalaf er mwyn rhoi hwb i’r sector adeiladu a chreu swyddi.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

35

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ym mhwynt 1, ar ôl ‘fethiant’, rhoi ‘presennol, a blaenorol,’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

38

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl ‘presennol,’ a rhoi yn ei le

chwilio am fwy o gyllid arloesol i roi hwb i’r sector adeiladu ac i greu swyddi yn y sector preifat.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

10

53

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

“Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r mathau o gyllid preifat y mae wedi bod yn eu hystyried, a sut mae modd defnyddio'r rhain i ymateb i wella economi Cymru."

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

“Yn croesawu’r ffaith efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried galluogi ariannu drwy gynyddrannau treth i helpu adfywio economaidd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion pendant cyn gynted ag sy’n ymarferol.”

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

11

38

53

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pwysigrwydd Ardaloedd Menter i economi Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen ar gyfer eu cyflwyno.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

28

53

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4846 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i:

 

a) ymateb yn weithredol i’r argyfwng economaidd presennol;

 

b) ymdrino â’r problemau a wynebir gan y sector gweithgynhyrchu; ac

 

c) mynd i’r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc; a

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn cynhwysfawr o fesurau i fynd i’r afael â’r argyfwng economaidd presennol, chwilio am fwy o gyllid arloesol i roi hwb i’r sector adeiladu a chreu swyddi yn y sector preifat.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r mathau o gyllid preifat y mae wedi bod yn eu hystyried, a sut mae modd defnyddio'r rhain i ymateb i wella economi Cymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

28

53

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


02/11/2011 - Dadl Plaid Cymru

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4839 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun gweithredu ar gyfer y diwydiant llaeth, sy’n mynd i’r afael â’r arferion masnachol annheg sy’n bodoli yn y gadwyn gyflenwi, ac sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer y canlynol:

 

a) contract gwaelodlin llaeth amrwd safonol;

 

b) cod ymarfer y gellir ei orfodi i sicrhau trafodion teg rhwng ffermwyr a chwmnïau llaeth; ac

 

c) cyhoeddi gwybodaeth dryloyw am ddosbarthiad elw a phrisiau cyfanwerthu.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 


19/10/2011 - Dadl Plaid Cymru

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4833 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu wrth:

 

a) dirywiad sydyn darpariaeth cyfryngau lleol ac effaith hynny ar yr adroddiadau ar fywyd cyhoeddus ac ar wleidyddiaeth yng Nghymru; a

 

b) yr argyfwng cyllido yn y diwydiant darlledu.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) chwilio am atebion i roi sylw i’r bwlch democrataidd a achosir gan hyn; a

 

b) ymdrechu’n frwd i ddylanwadu ar y Bil Cyrff Cyhoeddus fel bo dyfodol S4C yn cael ei ddiogelu.

 

Gellir gweld y Bil Cyrff Cyhoeddus drwy ddilyn y linc a ganlyn:

 

http://services.parliament.uk/bills/2010-11/publicbodieshl.html - (Saesneg yn unig)

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

12

52

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


13/10/2011 - Dadl Plaid Cymru

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4822 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu wrth y toriad o 41y cant yng nghyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru ac effaith niweidiol hynny ar y sector adeiladu; a

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ysgogi’r economi drwy:

 

a) Creu cronfa buddsoddiad seilwaith;

 

b) Defnyddio pwerau benthyg Awdurdodau Lleol;

 

c) Gweithredu i helpu i gynyddu canran y cwmnïau yng Nghymru sy’n ennill tendrau caffael cyhoeddus; a

 

d) Chwilio am ffyrdd arloesol o godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith ar wahân i Fenter Cyllid Preifat.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

12

55

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 


06/10/2011 - Dadl Plaid Cymru

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4818 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu at ddiffyg manylion a thargedau ystyrlon yn y Rhaglen Lywodraethu: a

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Rhaglen yn canolbwyntio ar y sialensiau y bydd yr economi yn eu hwynebu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

 

Gellir gweld y Rhaglen Lywodraethu drwy ddilyn y linc a ganlyn:

 

http://wales.gov.uk/about/programmeforgovernment/?skip=1&lang=cy

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

27

54

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 1) a rhoi yn ei le:

 

"Yn nodi’r Rhaglen Lywodraethu a’r angen i allu mesur sut y gweithredir polisi’r Llywodraeth”; a

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

27

54

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu fel pwynt 1 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio ei Rhaglen Lywodraethu i fynd i’r afael â’r sialensiau economaidd a chymdeithasol sy’n wynebu pobl Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

27

54

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflawni addewid y Prif Weinidog ar gyfer rhaglen lywodraethu sydd â thargedau mesuradwy.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

27

54

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen lywodraethu ddiwygiedig sydd â thargedau pendant a mesuradwy ac amserlen ar gyfer eu cyflawni.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

27

54

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailgyhoeddi ei Rhaglen Lywodraethu er mwyn cynnwys targedau a chanlyniadau mesuradwy.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

27

54

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i bennu, yn y Rhaglen Lywodraethu, fesurau i godi perfformiad Gwerth Ychwanegol Crynswth Cymru erbyn 2015.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

38

54

Gwrthodwyd gwelliant 6.

 

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu y dylai’r Rhaglen Lywodraethu gynnwys rhaglen gynhwysfawr o ryddhad ardrethi busnes sef yr ymyriad polisi gorau i hybu cyflogaeth a buddsoddiad yn y sector preifat ac y gellid cyflwyno ymyriad o’r fath ar unwaith heb yr angen am adolygiad pellach.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

5

38

54

Gwrthodwyd gwelliant 7.

 

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthhod y gwelliannau i’r cynnig, nid yw’r cynnig wedi ei gymeradwyo.

 


29/09/2011 - Dadl Plaid Cymru

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4812 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1) Yn credu bod Cymru’n cael ei gwasanaethu’n dda gan ei rhwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth; ac

 

2) Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud datganiad clir na fydd yn caniatáu i Fyrddau Iechyd Lleol ganoli gwasanaethau oddi wrth Ysbytai Cyffredinol Dosbarth.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

45

57

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 2, dileu “wneud datganiad clir na fydd yn caniatáu i Fyrddau Iechyd Lleol ganoli gwasanaethau oddi wrth Ysbytai Cyffredinol Dosbarth” ac yn ei le rhoi “gefnogi Byrddau Iechyd Lleol wrth iddynt gyflawni eu cyfrifoldebau i gynllunio a darparu gwasanaethau mewn modd priodol.”

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

23

56

 

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

 

 

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu bod cleifion yn cael eu gwasanaethu orau gan wasanaethau a ddarperir mor agos â phosibl at gartrefi’r cleifion, ac sy’n ddiogel yn glinigol, gan ddefnyddio rhwydwaith o ysbytai cyffredinol dosbarth, ysbytai cymunedol a chanolfannau rhagoriaeth.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

2

0

57

 

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu y dylai’r Fforwm Clinigol Cenedlaethol, pan gaiff ei sefydlu, ystyried anghenion Ysbytai Cyffredinol Dosbarth wrth aildrefnu’r GIG yn y dyfodol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

6

57

 

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1) Yn credu bod Cymru’n cael ei gwasanaethu’n dda gan ei rhwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth; ac

 

2) Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Byrddau Iechyd Lleol wrth iddynt gyflawni eu cyfrifoldebau i gynllunio a darparu gwasanaethau mewn modd priodol.

 

3) Yn credu bod cleifion yn cael eu gwasanaethu orau gan wasanaethau a ddarperir mor agos â phosibl at gartrefi’r cleifion, ac sy’n ddiogel yn glinigol, gan ddefnyddio rhwydwaith o ysbytai cyffredinol dosbarth, ysbytai cymunedol a chanolfannau rhagoriaeth.

 

4) Yn credu y dylai’r Fforwm Clinigol Cenedlaethol, pan gaiff ei sefydlu, ystyried anghenion Ysbytai Cyffredinol Dosbarth wrth aildrefnu’r GIG yn y dyfodol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

23

57

 

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


22/09/2011 - Dadl Plaid Cymru

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4800 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a) Y toriadau difrifol yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru;

 

b) Y diffyg gweithredu a fu gan Lywodraeth gyfredol Cymru i ganfod a denu ffynonellau newydd o gyllid i Gymru; ac

 

c) Effeithiau’r hinsawdd economaidd bresennol, gan gynnwys yr anawsterau sy’n wynebu busnesau Cymru oherwydd yr amodau byd-eang sy’n arafu a’r bygythiadau i swyddi yn sgil hynny; a

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) Mynd ati’n rhagweithiol i chwilio am ffrydiau ariannu ychwanegol i Gymru yn yr un modd ag y mae llywodraethau gwledydd datganoledig eraill wedi'i wneud;

 

b) Gweithio gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gyflwyno newidiadau i arferion caffael ar frys er mwyn ysgogi diwydiant a chreu swyddi yng Nghymru; a

 

c) Chyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i gyflwyno toriad dros dro mewn TAW er mwyn ysgogi twf economaidd ymhellach.

 

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

45

56

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:


Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 1a) a rhoi yn ei le:

 

'Yr angen i Lywodraeth Cymru wneud y defnydd gorau o’r arian cyfalaf sydd ar gael yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

43

56

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ym mhwynt 1a), ar ôlLlywodraeth Cymru” rhoi, “ac o dan gynlluniau a gyhoeddwyd gan Alastair Darling yn ei gyllideb yn 2009, byddai toriadau o 45% dros 3 blynedd yng nghyllideb cyfalaf Cymru.


Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

39

56

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileudiffyg ym mhwynt 1b).


Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

27

56

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 2c) a rhoi yn ei le:

 

Sefydlu cynllun partneriaeth cyhoeddus-preifatGwnaed yng Nghymrufel rhan o gynllun Seilwaith Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

43

56

Gwrthodwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Dileu pwynt 2c).

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

39

56

Gwrthodwyd gwelliant 5.

 

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar yr holl bleidiau a gynrychiolir yn y Cynulliad i weithio’n adeiladol ar y broses debyg i Calman sy’n cael ei chynnal gan Lywodraeth y DU.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4800 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a) Y toriadau difrifol yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru;

 

b) Y gweithredu a fu gan Lywodraeth gyfredol Cymru i ganfod a denu ffynonellau newydd o gyllid i Gymru; ac

 

c) Effeithiau’r hinsawdd economaidd bresennol, gan gynnwys yr anawsterau sy’n wynebu busnesau Cymru oherwydd yr amodau byd-eang sy’n arafu a’r bygythiadau i swyddi yn sgil hynny; a

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) Mynd ati’n rhagweithiol i chwilio am ffrydiau ariannu ychwanegol i Gymru yn yr un modd ag y mae llywodraethau gwledydd datganoledig eraill wedi'i wneud;

 

b) Gweithio gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gyflwyno newidiadau i arferion caffael ar frys er mwyn ysgogi diwydiant a chreu swyddi yng Nghymru; a

 

c) Sefydlu cynllun partneriaeth cyhoeddus-preifatGwnaed yng Nghymrufel rhan o gynllun Seilwaith Cymru.

 

3. Yn galw ar yr holl bleidiau a gynrychiolir yn y Cynulliad i weithio’n adeiladol ar y broses debyg i Calman sy’n cael ei chynnal gan Lywodraeth y DU.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

0

26

56

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

 


14/07/2011 - Dadl Plaid Cymru

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4789 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd cyflogaeth yn y sector cyhoeddus i gymunedau ledled y wlad; ac

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) Gyhoeddi ei chynllun ynghylch staffio swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn y dyfodol;

 

b) Gwrthod unrhyw gynnig i gau swyddfeydd Llywodraeth Cymru;

 

c) Sicrhau dosbarthiad teg o swyddi Llywodraeth Cymru ledled Cymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

1

37

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau â’r Strategaeth Leoli, sy’n ei gwneud yn bosibl i Lywodraeth Cymru ddarparu swyddi a gwasanaethau o fewn adeiladau effeithlon a hygyrch ar draws Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

14

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

 

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei hystâd yn cael ei defnyddio i’r eithaf i gefnogi cymunedau ledled Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Nick Ramsay (Mynwy)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cydnabod pwysigrwydd swyddi Llywodraeth Cymru yn Llandrindod, y Drenewydd, Caerfyrddin a Chaernarfon i’r economïau lleol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Nick Ramsay (Mynwy)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati’n ddi-oed i egluro sefyllfa ei swyddfeydd rhanbarthol mewn datganiad ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Nick Ramsay (Mynwy)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â’r undebau yn ei hadolygiad o anghenion staffio mewn swyddfeydd rhanbarthol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4789 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd cyflogaeth yn y sector cyhoeddus i gymunedau ledled y wlad; ac

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau â’r Strategaeth Leoli, sy’n ei gwneud yn bosibl i Lywodraeth Cymru ddarparu swyddi a gwasanaethau o fewn adeiladau effeithlon a hygyrch ar draws Cymru.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei hystâd yn cael ei defnyddio i’r eithaf i gefnogi cymunedau ledled Cymru.

 

4. Yn cydnabod pwysigrwydd swyddi Llywodraeth Cymru yn Llandrindod, y Drenewydd, Caerfyrddin a Chaernarfon i’r economïau lleol.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati’n ddi-oed i egluro sefyllfa ei swyddfeydd rhanbarthol mewn datganiad ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â’r undebau yn ei hadolygiad o anghenion staffio mewn swyddfeydd rhanbarthol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

15

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


07/07/2011 - Dadl Plaid Cymru

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4777 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau bod y cyfrifoldeb dros benderfynu ar brosiectau ynni yng Nghymru sydd dros 50 megawatt ac unrhyw seilwaith cysylltiedig yn cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

12

55

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 


29/06/2011 - Dadl Plaid Cymru

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

NDM4771 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi ymgynghoriad yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ‘A Communications Review for the Digital Age’, gan gynnwys ei bwyslais ar ddadreoleiddio a’r goblygiadau o ran comisiynu rhanbarthol a’r cyfryngau ehangach yng Nghymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei hymateb.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

11

51

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 


23/06/2011 - Dadl Plaid Cymru

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

                                

NDM4741 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hwyluso sefydlu cwmni nid-am-elw-dosbarthiadwy i godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

43

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Nick Ramsay (Mynwy)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) Ystyried yr holl gyfleoedd i godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith; a

b) Sicrhau bod mwy o ddadansoddi costau mewn prosiectau adeiladwaith mawr er mwyn cael mwy o gyfrifoldeb dros gyllidebau a bod gwaith yn cael ei gyflawni ar amser.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

14

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Oherwydd y cafodd gwelliant 1 ei dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.

 

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Dileuyn galw ar Lywodraeth Cymru i hwyluso sefydlu’ a rhoi yn ei le ‘yn pryderu am y diffyg manylion sydd ar gael ar gyfer’.

Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth ar ôlLywodraeth Cymru i’ a rhoi yn ei le:

archwilio dulliau arloesol, cydweithredol y gall Llywodraeth Cymru ac eraill, megis awdurdodau lleol a’r sector preifat, reoli asedau a chodi cyfalaf ar gyfer ei fuddsoddi mewn seilwaith ar gyfer y gwasanaeth cyhoeddus, a pharhau i archwilio ffyrdd cynaliadwy a hyblyg eraill o fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ar ôlseilwaithrhoi 'ond yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio dichonoldeb cynllun o’r fath o fewn y setliad datganoli ariannol presennol.’

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod, er mwyn bod mewn safle cryfach i godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith, bod angen mwy o hunanreolaeth ariannol ar Gymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

11

0

54

Derbyniwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4741

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) Ystyried yr holl gyfleoedd i godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith; a

b) Sicrhau bod mwy o ddadansoddi costau mewn prosiectau adeiladwaith mawr er mwyn cael mwy o gyfrifoldeb dros gyllidebau a bod gwaith yn cael ei gyflawni ar amser.

2.Yn cydnabod, er mwyn bod mewn safle cryfach i godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith, bod angen mwy o hunanreolaeth ariannol ar Gymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

1

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

 


16/06/2011 - Dadl Plaid Cymru

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NDM4734 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhaglen lywodraethu lawn a manwl ar gyfer tymor 5 mlynedd nesaf y Cynulliad.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

1

5

52

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.