Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
16.13
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5741 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd sefydliadau addysg bellach i
ddarparu addysg ôl-16;
2. Yn nodi pwysigrwydd darparu cyfleoedd dysgu i
oedolion ar gyfer oedolion sydd am ddatblygu sgiliau newydd;
3. Yn gresynu at effaith y toriadau i addysg ôl-16
ar y sector addysg bellach; a
4. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i
fonitro tâl uwch reolwyr mewn addysg uwch yn flynyddol ac yn annog hynny i gael
ei ymestyn i addysg bellach.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
9 |
46 |
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 23/04/2015
Dyddiad y penderfyniad: 22/04/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/04/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad