Ymgynghoriad
Costau byw
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 6 Ebrill 2022 a Dydd Llun, 16 Mai 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- CoL01 - The Chartered Institute of Building (Saesneg yn unig)
PDF 2 MB
- CoL02 - Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 760 KB Gweld fel HTML (2) 41 KB
- CoL03 - National Energy Action Cymru
PDF 269 KB
- CoL04 - Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (Saesneg yn unig)
PDF 258 KB Gweld fel HTML (4) 36 KB
- CoL05 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 197 KB Gweld fel HTML (5) 33 KB
- CoL06 - Iechyd Cyhoeddus Cymru
PDF 417 KB
- CoL07 - Chwarae Teg (Saesneg yn unig)
PDF 737 KB Gweld fel HTML (7) 50 KB
- CoL08 - Sefydliad Bevan (Saesneg yn unig)
PDF 423 KB Gweld fel HTML (8) 39 KB
- CoL09 - Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 339 KB
- CoL10 - Barnardo’s Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 245 KB
- CoL11 - GCT (Gweithredu Caerau Trelái (Saesneg yn unig)
PDF 422 KB Gweld fel HTML (11) 33 KB
- CoL12 - Home-Start Cymru
PDF 291 KB
- CoL13 - Cymorth i Ferched Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 744 KB Gweld fel HTML (13) 29 KB
- CoL14 - Royal Institution of Chartered Surveyors (RICS) (Saesneg yn unig)
PDF 535 KB
- CoL15 - Age Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 224 KB
- CoL16 - Chwaraeon Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 254 KB
- CoL17 - Diabetes UK (Saesneg yn unig)
PDF 670 KB Gweld fel HTML (17) 27 KB
- CoL18 - Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 477 KB
- Gwybodaeth ychwanegol gan Citizens Cymru Wales (Saesneg yn unig)
PDF 92 KB
- Erthygl gan Citizens Cymru Wales (Saesneg yn unig)
PDF 134 KB
- Gwybodaeth ychwanegol gan Cyngor ar Bopeth Ynys Môn (Saesneg yn unig)
PDF 312 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
yn casglu barn ar effaith economaidd a gwledig pwysau costau byw. Mae’r
ymchwiliad hwn yn ceisio adeiladu ar y gwaith sy’n cael ei wneud neu ei
gynllunio gan bwyllgorau eraill y Senedd ar gostau byw, gan gynnwys tlodi
tanwydd, datgarboneiddio tai, dyled ac anghydraddoldebau iechyd meddwl.
Diben yr
ymgynghoriad
Mae prisiau
cynyddol ynni, y cynnydd mewn trethi a gostyngiad yn y cyflog gwirioneddol wedi
achosi i Sefydliad Resolution nodi 2022 fel ‘blwyddyn
y wasgfa’. Disgwylir y gostyngiad mwyaf mewn incwm gwario aelwydydd ers i’r
Swyddfa Ystadegau Gwladol ddechrau cadw cofnodion.
Cynyddodd y cap
ar brisiau ynni i aelwydydd o 54 y cant ar 1 Ebrill, a disgwylir cynnydd
pellach yn ddiweddarach eleni. Ardaloedd gwledig sydd â’r prisiau ynni domestig
uchaf yng Nghymru, a eglurir yn rhannol gan y costau uwch sy’n wynebu aelwydydd
nad ydynt ar y grid.
Mae amcangyfrifon
gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yn dangos
mai’r aelwydydd tlotaf yng Nghymru sy’n debygol o gael eu taro waethaf gan
bwysau costau byw, gan neu bod yn gwario llawer mwy o’u hincwm ar ynni a bwyd.
Sut i rannu
eich barn
Byddai'r Pwyllgor
yn croesawu cael eich barn am unrhyw un, os nad pob un, o'r materion yr
ymdrinnir â nhw yn y cylch gorchwyl, ac am y cwestiynau isod yn benodol:
>>>>
>>> Beth yw effeithiau economaidd tebygol y
wasgfa costau byw?
>>> Sut mae pwysau costau byw yn effeithio ar y
gweithlu, a sut yr effeithir ar wahanol grwpiau o fewn y gweithlu?
>>> Sut mae heriau costau byw yn effeithio ar
fusnesau a’r sectorau economaidd, a sut mae busnesau’n ymateb i’r rhain?
>>> Sut mae’r wasgfa costau byw yn effeithio ar
gymunedau gwledig ac i ba raddau y mae’r pwysau y maent yn eu hwynebu yn
wahanol i ardaloedd trefol?
>>> Pa mor effeithiol yw’r mesurau cymorth y mae
Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi’u rhoi ar waith, a pha gymorth
pellach a allai fod ei angen yn ystod y misoedd nesaf?
<<<
Y dyddiad cau ar
gyfer cyflwyniadau i'r ymchwiliad hwn yw Dydd Llun16 Mai 2022
Er eglurder, nid
oes ffurflen benodol ar gyfer cyflwyniadau. Gallwch rannu eich barn yn
electronig drwy anfon neges e-bost at SeneddEconomi@senedd.cymru,
neu ei anfon drwy'r post at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig,
Senedd Cymru, Caerdydd, CF99 1SN.
Os oes gennych
unrhyw gwestiynau, neu os hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu
â ni.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddEconomy@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565