Ymgynghoriad

Diffyg gyrwyr cerbydau nwyddau trwm a phroblemau â’r gadwyn gyflenwi

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Casglodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig farn ar y diffyg gyrwyr cerbydau nwyddau trwm a phroblemau â’r gadwyn gyflenwi.

 

Mae busnesau ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig wedi ei chael hi’n anodd symud nwyddau oherwydd diffyg gyrwyr cerbydau nwyddau trwm a phroblemau cysylltiedig o ran logisteg. Adroddir bod yr anawsterau hyn wedi arwain at bryderon cynyddol ynghylch cludo bwyd, tanwydd ac eitemau eraill yn ystod y cyfnod cyn Nadolig 2022.

 

Cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd ymchwiliad i’r diffyg gyrwyr cerbydau nwyddau trwm. Gofynnodd y Pwyllgor am farn rhanddeiliaid ar y camau sydd wedi’u cymryd hyd yma i fynd i’r afael â’r mater hwn, yn ogystal â’r mesurau ychwanegol sy’n rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU eu cyflwyno i gefnogi’r sector a busnesau yn gyffredinol, ac i ddatrys y problemau y maent yn eu hwynebu.  

 

Yn benodol, roedd y Pwyllgor yn awyddus i glywed pa gamau y gallai gael eu cymryd mewn meysydd datganoledig i sicrhau y bydd canfyddiadau’r ymchwiliad hwn, a’r argymhellion sy’n deillio ohono, yn cael yr effaith fwyaf posibl.

 

Croesawodd y Pwyllgor farn ar unrhyw un o’r materion sy’n dod o dan gylch gorchwyl yr ymchwiliad, neu bob un ohonynt, yn enwedig y pwyntiau a ganlyn:

>>>> 

>>>Y materion sy’n wynebu eich sector/busnes/sefydliad ar hyn o bryd;

>>>Effeithiolrwydd y mesurau sydd wedi’u cyflwyno gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ymdrin â’r diffyg gyrwyr cerbydau nwyddau trwm a’r effeithiau cysylltiedig;

>>>Y mesurau ychwanegol y dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU eu cyflwyno i gefnogi’r sector;

>>>Effaith y diffyg gyrwyr cerbydau nwyddau trwm ar ddefnyddwyr a busnesau yng Nghymru.

<<< 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau oedd 22 Tachwedd 2021.

 

Nid oedd yn rhaid llenwi ffurflen benodol i gyflwyno sylwadau.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddEconomi@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565