Ymgynghoriad

Addysg heblaw yn yr ysgol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i'r ystod o ddarpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion. Roedd yn canolbwyntio'n benodol ar:

  • Y cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc sydd mewn perygl o addysg heblaw yn yr ysgol, gan gynnwys drwy eu gwahardd o ddarpariaeth brif ffrwd, a’r rhesymau dros y cymorth hwn
  • Pa mor effeithiol y caiff rhieni gymorth a’u cynnwys drwy gydol proses addysg heblaw yn yr ysgol
  • Yr amrywiad mewn cyfraddau addysg heblaw yn yr ysgol i blant a phobl ifanc â nodweddion penodol (megis dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig neu sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim) a chanlyniadau hyn
  • Lefelau’r cymorth ariannol sydd ar gael i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol, a’r rhai sydd mewn perygl o’i chael, ac a yw hyn yn cynrychioli gwerth am arian
  • Cyfrifoldeb ac atebolrwydd am addysg disgyblion sy'n dod yn rhai sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol
  • Cyrhaeddiad plant a phobl ifanc sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol 
  • Canlyniadau a llesiant plant a phobl ifanc sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol
  • Ansawdd y cymorth a roddir i blant a phobl ifanc yn yr ystod o ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol
  • Cymorth datblygiad proffesiynol i staff unedau cyfeirio disgyblion, gan gynnwys y rhai sy'n darparu addysg yn y cartref
  • Y risgiau posibl i blant a phobl ifanc sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol fel rhwystrau cynyddol i gael gafael ar gymorth iechyd meddwl, mwy o risg o ymwneud â throsedd a'r system cyfiawnder troseddol megis 'llinellau cyffuriau'.
  • Materion eraill sydd â chysylltiad agos ag addysg heblaw yn yr ysgol, er enghraifft symudiadau wedi’u rheoli, a dadgofrestru disgyblion

Roedd ymchwiliad y Pwyllgor yn cynnwys addysg unigol yn y cartref ond nid oedd yn canolbwyntio ar y mater ar wahân ynghylch addysg ddewisol yn y cartref.

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 18 Hydref 2019.

Sut y gall rhieni a staff gael dweud eu dweud yn yr ymchwiliad?

 

Fel rhan o'n hymchwiliad, fe ddatblygwyd arolwg i sicrhau bod teuluoedd sy’n defnyddio EOTAS a staff sy'n gweithio mewn darpariaethau EOTAS yn cael rhannu eu sylwadau a'u profiadau a chyfrannu i’r ymchwiliad ehangach.

Rydym wedi llunio crynodeb o'r canlyniadau.

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddPPIA@Senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565