Ymgynghoriad
Bil deddfwriaeth (Cymru)
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 6 Rhagfyr 2018 a Dydd Llun, 21 Ionawr 2019
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- LW 01 Yr Arglwydd Hope (Saesneg yn unig) PDF 46 KB Gweld fel HTML (1) 14 KB
- LW 02 Clinig y Gyfraith Abertawe PDF 146 KB Gweld fel HTML (2) 41 KB
- LW 03 Yr Athro Thomas Glyn Watkins (Saesneg yn unig) PDF 185 KB Gweld fel HTML (3) 41 KB
- LW 04 Cymdeithas y Cyfreithwyr (Cyflwyniad Saesneg yn unig ond gydag atodiad Cymraeg) PDF 301 KB Gweld fel HTML (4) 54 KB
- LW 05 Keith Bush CF PDF 172 KB Gweld fel HTML (5) 56 KB
- LW 06 Capital Law (Saesneg yn unig) PDF 222 KB Gweld fel HTML (6) 49 KB
- LW 07 Dr Catrin Fflûr Huws PDF 95 KB Gweld fel HTML (7) 19 KB
- LW 08 Comisiynydd y Gymraeg PDF 482 KB
- LW 09 Comisiynydd Pobl Hŷn PDF 994 KB
- LW 10 Huw Williams - Geldards (Saesneg yn unig) PDF 254 KB Gweld fel HTML (10) 41 KB
- LW 11 Y Comisiwn Penodiadau Barnwrol (Saesneg yn unig) PDF 108 KB Gweld fel HTML (11) 16 KB
- LW 12 Cyfraith Gyhoeddus Cymru (Saesneg yn unig) PDF 221 KB Gweld fel HTML (12) 52 KB
- Ymatebion i’r Ymgynghoriad PDF 1 MB
Diben yr ymgynghoriad
Mae'r Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn cynnal ymchwiliad i
egwyddorion cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Cymru). Ceir rhagor o fanylion am y
Bil a'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd ag ef ar dudalen y Bil.
Cylch
gorchwyl
Wrth graffu ar
egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1, bydd y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn trafod y canlynol:
- egwyddorion cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Cymru) ac a oes angen deddfwriaeth er mwyn
cyflawni’r amcanion polisi a nodwyd ar gyfer y Bil;
- unrhyw rwystrau posibl i weithredu’r darpariaethau ac
a yw’r Bil yn eu hystyried;
- a oes canlyniadau anfwriadol yn codi o’r Bil;
- goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 4 o’r
Memorandwm Esboniadol);
- priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y
nodir yn Rhan 3 o’r Memorandwm Esboniadol).
Gwahoddiad
i gyfrannu at yr ymchwiliad
Mae'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth ar y cylch
gorchwyl a'r graddau y bydd y Bil yn cyfrannu at wneud cyfraith Cymru yn fwy
clir a hygyrch.
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig
ohoni at: SeneddMCD@cynulliad.cymru
Dylai unrhyw dystiolaeth a gyflwynir ein cyrraedd erbyn
21 Ionawr 2019.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith
swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na
chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn
yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr
iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu
safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau
statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r
Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r
Pwyllgor..
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddDCC@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565