Ymgynghoriad
Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a chyfalaf
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 2 Chwefror 2012 a Dydd Iau, 1 Mawrth 2012
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Bydd y Pwyllgor Cyllid yn ystyried agweddau
ar gyllido ac ariannu datganoli yng Nghymru gyda golwg ar lywio Rhan 1 o
adroddiad Comisiwn Silk. Yn benodol bydd
y Pwyllgor yn ymchwilio:
- i ba raddau y gellid rhoi pwerau benthyca i
Lywodraeth Cymru, gan edrych ar wersi a ddysgwyd o brofiad awdurdodau
lleol yn sgîl eu pwerau benthyca cyfredol; ac
- ystyried dulliau arloesol y gellid eu defnyddio gan
Lywodraeth Cymru i ysgogi arian cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith, heb
effeithio’n negyddol ar floc Cymru, gan gynnwys i ba raddau y byddai modd
defnyddio pwerau benthyca cyfredol awdurdodau lleol a sefydliadau eraill.
Yn ystod yr ymchwiliad hwn bydd y Pwyllgor yn ystyried:
- y camau a gymerwyd gan awdurdodau lleol i benderfynu
ar eu terfynau benthyca darbodus ac i gadw golwg ar y terfynau hynny, a
sut y gwneir hyn;
- lefelau amrywiol benthyca darbodus a ddefnyddir gan
awdurdodau lleol yng Nghymru ac unrhyw resymau dros y gwahaniaethau hynny;
- trosolwg o natur y prosiectau lle y defnyddiwyd
benthyca heb gefnogaeth, ac a oes rhesymau penodol dros hyn;
- gwersi a ddysgwyd gan awdurdodau lleol am fenthyca
darbodus gan gynnwys effaith ad-daliadau yn y tymor hir;
- sut y gellid defnyddio benthyca awdurdodau lleol i
roi hwb i faint y cyfalaf sydd ar gael ar gyfer seilwaith Cymru;
- unrhyw gamau eraill a ystyrir gan awdurdodau lleol i
ariannu gwariant cyfalaf;
- dulliau eraill o ysgogi arian cyfalaf a ystyrir gan
Lywodraeth Cymru wrth baratoi ei Chynllun Seilwaith gan gynnwys y
posibilrwydd o roi hwb i fenthyca gan awdurdodau lleol a sefydliadau
eraill;
- ymchwilio i ddulliau cyfalaf arloesol a gynigwyd mewn
rhannau eraill o’r DU, sut y cawsant eu datblygu a’u defnyddio, a phan
fo’n bosibl, sut y maent wedi perfformio.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Naomi Stocks