Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Chyfalaf

Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Chyfalaf

Ystyriodd y Pwyllgor Cyllid agweddau ar gyllido ac ariannu datganoli yng Nghymru gyda golwg ar lywio Rhan 1 o adroddiad Comisiwn Silk.  Yn benodol ymchwiliodd y Pwyllgor:

 

  • i ba raddau y gellid rhoi pwerau benthyca i Lywodraeth Cymru, gan edrych ar wersi a ddysgwyd o brofiad awdurdodau lleol yn sgîl eu pwerau benthyca cyfredol; ac
  • ystyried dulliau arloesol y gellid eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru i ysgogi arian cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith, heb effeithio’n negyddol ar floc Cymru, gan gynnwys i ba raddau y byddai modd defnyddio pwerau benthyca cyfredol awdurdodau lleol a sefydliadau eraill.

 

Yn ystod yr ymchwiliad hwn ystyriodd y Pwyllgor:

  • y camau a gymerwyd gan awdurdodau lleol i benderfynu ar eu terfynau benthyca darbodus ac i gadw golwg ar y terfynau hynny, a sut y gwneir hyn;
  • lefelau amrywiol benthyca darbodus a ddefnyddir gan awdurdodau lleol yng Nghymru ac unrhyw resymau dros y gwahaniaethau hynny;
  • trosolwg o natur y prosiectau lle y defnyddiwyd benthyca heb gefnogaeth, ac a oes rhesymau penodol dros hyn;
  • gwersi a ddysgwyd gan awdurdodau lleol am fenthyca darbodus gan gynnwys effaith ad-daliadau yn y tymor hir;
  • sut y gellid defnyddio benthyca awdurdodau lleol i roi hwb i faint y cyfalaf sydd ar gael ar gyfer seilwaith Cymru;
  • unrhyw gamau eraill a ystyrir gan awdurdodau lleol i ariannu gwariant cyfalaf;
  • dulliau eraill o ysgogi arian cyfalaf a ystyrir gan Lywodraeth Cymru wrth baratoi ei Chynllun Seilwaith gan gynnwys y posibilrwydd o roi hwb i fenthyca gan awdurdodau lleol a sefydliadau eraill;
  • ymchwilio i ddulliau cyfalaf arloesol a gynigwyd mewn rhannau eraill o’r DU, sut y cawsant eu datblygu a’u defnyddio, a phan fo’n bosibl, sut y maent wedi perfformio.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/02/2014

Y Broses Ymgynghori

Daeth yr ymgynghoriad cyhoeddus i ben ar Ddydd Iau 1 Mawrth.

 

Dogfennau

Ymgynghoriadau