Ymgynghoriad
Ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi i Arbed
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 10 Hydref 2012 a Dydd Mawrth, 6 Tachwedd 2012
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Fe wnaeth y Pwyllgor Cyllid ystyried pa mor
effeithiol y mae Cronfa Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru wedi bod hyd yma.
Mae'r Gronfa ar gael i sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus a gaiff eu hariannu
gan Lywodraeth Cymru, i gefnogi eu prosiectau gwella strategol sy'n arwain at
arbedion effeithlonrwydd sylweddol, i ryddhau arian parod, ac i sicrhau bod
gwasanaethau effeithiol sy'n canolbwyntio ar y dinesydd yn cael eu darparu.
Yn ystod yr ymchwiliad, fe wnaeth y
Pwyllgor drafod:
- pa effaith a gaiff y
gronfa Buddsoddi i Arbed, a yw'n cyflawni ei dibenion, i "helpu
sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus, trwy sicrhau bod y gwaith
o newid eu ffordd o ddarparu gwasanaethau yn mynd rhagddo mewn modd
effeithlon, effeithiol a chynaliadwy"?
- i ba raddau y
manteisiwyd ar y gronfa?
- pa wersi a ddysgwyd,
ac a oes modd i enghreifftiau o ymarfer da gael eu rhannu a'u hymestyn yn
ehangach drwy'r sector cyhoeddus?
- pa arbedion a
wnaethpwyd o ganlyniad i ddyfarnu rhoddion o'r gronfa?
a oes unrhyw rwystrau i fanteisio ar y
gronfa h.y. a oes unrhyw elfennau o broses y gronfa Buddsoddi i Arbed sy'n ei
gwneud yn anodd i gymryd rhan yn y cynllun?
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Gareth Price