Ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi i Arbed

Ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi i Arbed

Fe wnaeth y Pwyllgor Cyllid ystyried pa mor effeithiol y mae Cronfa Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru wedi bod hyd yma. Mae'r Gronfa ar gael i sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus a gaiff eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, i gefnogi eu prosiectau gwella strategol sy'n arwain at arbedion effeithlonrwydd sylweddol, i ryddhau arian parod, ac i sicrhau bod gwasanaethau effeithiol sy'n canolbwyntio ar y dinesydd yn cael eu darparu.

Yn ystod yr ymchwiliad, fe wnaeth y Pwyllgor drafod:

  • pa effaith a gaiff y gronfa Buddsoddi i Arbed, a yw'n cyflawni ei dibenion, i "helpu sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus, trwy sicrhau bod y gwaith o newid eu ffordd o ddarparu gwasanaethau yn mynd rhagddo mewn modd effeithlon, effeithiol a chynaliadwy"?
  • i ba raddau y manteisiwyd ar y gronfa?
  • pa wersi a ddysgwyd, ac a oes modd i enghreifftiau o ymarfer da gael eu rhannu a'u hymestyn yn ehangach drwy'r sector cyhoeddus?
  • pa arbedion a wnaethpwyd o ganlyniad i ddyfarnu rhoddion o'r gronfa?
  • a oes unrhyw rwystrau i fanteisio ar y gronfa h.y. a oes unrhyw elfennau o broses y gronfa Buddsoddi i Arbed sy'n ei gwneud yn anodd i gymryd rhan yn y cynllun?

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/04/2013

Dogfennau

Ymgynghoriadau