Ymgynghoriad
Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 5 Hydref 2023 a Dydd Gwener, 10 Tachwedd 2023
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- EEB 01 - RNIB Cymru (Saesneg yn unig) PDF 730 KB
- EEB 02 - Yr Athro Alistair Clark (Saesneg yn unig) PDF 721 KB
- EEB 03 - Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol (Saesneg yn unig) PDF 697 KB
- EEB 04 - Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 719 KB
- EEB 05 - Ian Lucas (Saesneg yn unig) PDF 677 KB
- EEB 06 - Yr Athro Toby James (Saesneg yn unig) PDF 804 KB
- EEB 07 - Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru (Saesneg yn unig) PDF 796 KB
- EEB 08 - Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru PDF 1 MB
- EEB 09 - ERS Cymru (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- EEB 10 - Bwrdd Rheoli Etholiadol yr Alban (Saesneg yn unig) PDF 748 KB
- EEB 11 - Y Comisiwn Etholiadol PDF 781 KB
- EEB 12 - Reform Political Advertising (Saesneg yn unig) PDF 748 KB
- EEB 13 - Anabledd Cymru (Saesneg yn unig) PDF 750 KB
- EEB 14 - Comisiynydd y Gymraeg PDF 802 KB
- EEB 15 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Rhondda Cynon Taf (Saesneg yn unig) PDF 643 KB
- EEB 16 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru PDF 725 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae Bil
Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) wedi cael ei gyfeirio at y Pwyllgor
Llywodraeth Leol a Thai i graffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod
1.
Mae'r wybodaeth
ar y dudalen hon yn rhoi mwy o fanylion am yr hyn y mae’r Pwyllgor yn edrych
arno a sut y gallwch rannu’ch barn.
Cylch gorchwyl
Mae’r Pwyllgor yn
trafod:
>>>>
>>>Egwyddorion
cyffredinol Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) ac a oes angen
deddfwriaeth i gyflawni’r amcanion polisi a nodir yn y Bil (gweler isod am
ragor o wybodaeth am y Bil).
>>>Unrhyw
rwystrau posibl i weithredu darpariaethau’r Bil, ac a yw’r Bil a’r Memorandwm
Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n cyd-fynd ag ef yn rhoi ystyriaeth
ddigonol iddynt.
>>>A oes
unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil.
>>>Asesiad
Llywodraeth Cymru o effeithiau ariannol ac effeithiau eraill y Bil fel y’u
nodir yn Rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol.
>>>Priodoldeb
y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir yn
Rhan 1: Pennod 5 o’r Memorandwm Esboniadol).
>>>Materion
sy’n ymwneud â chymhwysedd y Senedd, gan gynnwys a yw Biliau’n gydnaws â’r
Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
>>>Y
cydbwysedd rhwng yr hyn sydd wedi ei gynnwys ar wyneb y Bil a'r hyn sydd i'w
gynnwys drwy is-ddeddfwriaeth.
>>>Unrhyw
fater yn ymwneud ag ansawdd deddfwriaeth.
>>>Unrhyw
fater arall yn ymwneud â goblygiadau cyfansoddiadol neu oblygiadau eraill y
Bil.
<<<<
Gwybodaeth am
y Bil
Os caiff ei basio,
bydd y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn gwneud yr hyn a ganlyn:
>>>>
>>>Rhoi
swyddogaethau Bwrdd Rheoli Etholiadol Cymru i’r Comisiwn a fydd yn golygu bod y
Comisiwn yn sefydlu’r Bwrdd i ysgwyddo cyfrifoldeb am oruchwylio’r gwaith o
gyd-drefnu a gweinyddu etholiadau datganoledig, cydweithio â Swyddogion
Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn ogystal â chynghori
Gweinidogion Cymru ar faterion sy’n ymwneud ag iechyd democrataidd y wlad.
>>>Cyflwyno
cofrestru etholiadol heb gais, a’r gallu i dreialu’r dulliau mwyaf priodol ar
gyfer cyflawni hyn.
>>>Creu dyletswydd
a roddir ar Weinidogion Cymru i roi trefniadau ar waith a fydd â’r nod o wella
amrywiaeth o fewn strwythurau democrataidd y Senedd a llywodraeth leol yn
ogystal â chreu a theilwra cynlluniau unigol i ddarparu cymorth ar gyfer
nodweddion gwarchodedig.
>>>Diddymu’r
gofyniad i nodi geiriad a fformat penodol yr arolwg i ymgeiswyr llywodraeth
leol mewn rheoliadau.
>>>Creu gofyniad
am lwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr all gynnal gwybodaeth ymgeiswyr a
phleidleisio ar gyfer etholiadau’r Senedd a phrif gynghorau.
>>>Sicrhau
bod ymgeiswyr ac asiantau yn atebol am wariant tybiannol dim ond pan fyddant
wedi cyfarwyddo ei ddefnydd, caniatáu i bersonau awdurdodedig wneud taliadau
heb fynd drwy asiant etholiadol, a chyfyngu ar bwy all weithredu fel ymgyrchydd
trydydd parti mewn etholiadau datganoledig. Er mwyn cefnogi’r newidiadau hyn i
gyllid ymgyrchoedd, mae’r Bil hefyd yn cynnig galluogi’r Comisiwn Etholiadol i
gynnwys y rhain yn ei godau ymarfer.
>>>Addasu
rôl a chylch gwaith Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y Comisiwn),
gan gynnwys newidiadau i enw a swyddogaethau ei bwyllgor archwilio, cryfhau
trefniadau adolygiadau etholiadol yn sylweddol yn ogystal â 5 rhoi
swyddogaethau i’r Comisiwn i ymgymryd â’r mwyafrif o’r swyddogaethau a
gyflawnir gan y Panel ar hyn o bryd. Bydd y Comisiwn hefyd yn gyfrifol am bennu
swm unrhyw daliad ymaddasu sy’n daladwy gan brif gyngor i gynghorwyr nad ydynt
yn llwyddo i gael eu hailethol i’r cyngor mewn etholiad cyngor lleol.
>>>Anghymhwyso
cynghorwyr tref a chymuned yng Nghymru rhag gwasanaethu yn Aelodau o’r Senedd a
diddymu’r “cyfnod gras” presennol i brif gynghorwyr a etholir i’r Senedd ac i
Aelodau o’r Senedd a etholir yn Aelodau Seneddol y Deyrnas Unedig.
<<<<
Sut i rannu’ch
barn
Rydym am sicrhau bod
ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n
adlewyrchu amrywiaeth y bobl a’r cymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio
arnynt.
Rydym yn annog
unrhyw un sydd ag arbenigedd yn y materion hyn neu brofiad ohonynt i rannu eich
barn, gan wybod y bydd eich barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.
Gallwch anfon
eich sylwadau’n electronig drwy anfon neges e-bost at SeneddTai@senedd.cymru, neu eu hanfon
drwy'r post at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, Senedd Cymru, Caerdydd, CF99
1SN.
Y dyddiad cau
ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 16.00 ddydd Gwener 10 Tachwedd 2023.
Byddem yn eich
annog i gadw’ch ymateb yn gryno a chanolbwyntio ar y pwyntiau allweddol yr
hoffech eu dwyn i sylw'r Pwyllgor.
Ynghyd â'ch
cyflwyniad, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:
>>>>
>>>Eich
enw a’ch manylion cyswllt fel y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r
dystiolaeth.
>>>A
yw’ch tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.
>>>Os
ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd
oed.
>>>Os
ydych o dan 13 mlwydd oed, cadarnhad bod eich rhiant neu’ch gwarcheidwad yn
caniatáu i chi gymryd rhan (gellir gwneud hyn drwy e-bost).
>>>Cadarnhad
a fyddai’n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch
tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).
>>>Cadarnhad
o ran a hoffech i’r Pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu
unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gan roi rhesymau dros hynny.
>>>Os
ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, er enghraifft rhiant,
priod neu berthynas, cadarnhad eu bod wedi cytuno y gallwch rannu gwybodaeth y
gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.
<<<<
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall
o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n
ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol
â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno
ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.