Ymgynghoriad

Datgarboneiddio'r sector cyhoeddus

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn ymgymryd â darn byr o waith ar ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus. Mae gwaith y Pwyllgor yn dilyn adroddiad Archwilio Cymru, Parodrwydd y Sector Cyhoeddus ar gyfer Carbon Sero Net erbyn 2030 (Gorffennaf 2022), a ddaeth i’r casgliad bod ansicrwydd amlwg ynghylch galllu cyrff cyhoeddus i gyrraedd sero net erbyn 2030.

Gan adeiladu ar waith Archwilio Cymru, hoffai’r Pwyllgor gael barn am y canlynol:

>>>> 

>>>    rôl Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo cyrff cyhoeddus i gwblhau’r pum cam a nodwyd yn adroddiad Archwilio Cymru;

>>>    defnyddio Statws carbon sero-net erbyn 2030: Trywydd ar gyfer datgarboneiddio ar draws sector cyhoeddus Cymru fel ffordd o roi cyfeiriad strategol i gyrff cyhoeddus;

>>>    y cynnydd a wnaed gan gyrff cyhoeddus yn y meysydd gweithredu â blaenoriaeth a nodir yn y ddogfen: caffael cynaliadwy, adeiladau sero net, symudedd a thrafnidiaeth, a defnydd tir;

>>>    y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i sicrhrau cynnydd yn y meysydd blaenoriaeth gan gynnwys unrhyw fylchau.

<<<< 

Cyfeiriwch at dudalen yr ymchwiliad i gael rhagor o wybodaeth a’r diweddaraf am yr ymchwiliad.

 

Cyflwyno eich barn

Hoffem i chi gyflwyno eich barn drwy lenwi'r ffurflen ar-lein.

 

Mae templed y gellir ei lawrlwytho ar gael i chi ddrafftio eich ymateb cyn i chi ei anfon. Fodd bynnag, peidiwch ag anfon eich ymateb i’r ymgynghoriad ar y templed hwnnw drwy e-bost. Dylai pob ymateb gael eu hanfon drwy'r ffurflen ar-lein.

 

Er ein bod yn croesawu unrhyw ymatebion a phob ymateb, mae'r ymgynghoriad wedi'i anelu at gyrff cyhoeddus.

 

Y dyddiad cau i gyflwyno barn ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw 9 Tachwedd 2022.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddHinsawdd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565