Datgarboneiddio'r sector cyhoeddus

Datgarboneiddio'r sector cyhoeddus

Inquiry2

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn ymgymryd â darn byr o waith ar ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus. Mae gwaith y Pwyllgor yn dilyn adroddiad Archwilio Cymru, Parodrwydd y Sector Cyhoeddus ar gyfer Carbon Sero Net erbyn 2030 (Gorffennaf 2022), a ddaeth i’r casgliad bod ansicrwydd amlwg ynghylch galllu cyrff cyhoeddus i gyrraedd sero net erbyn 2030. Mae’r adroddiad yn galw ar gyrff cyhoeddus i gymryd pum cam i fynd i’r afael â rhwystrau cyffredin sy’n atal cynnydd: 

>>>> 

>>> Cryfhau arweinyddiaeth a dangos cyfrifoldeb ar y cyd drwy gydweithio’n effeithiol

>>> Egluro’r cyfeiriad strategol a chynyddu cyflymder y gweithrediad

>>> Mynd i’r afael â’r cyllid sydd ei angen

>>> Nodi’r bylchau sgiliau a chynyddu capasiti

>>> Gwella ansawdd data a monitro i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau;

<<<< 

Casglu tystiolaeth

Gan adeiladu ar waith Archwilio Cymru, mae'r Pwyllgor yn cynnal ymgynghoriad penodol, sydd wedi'i anelu'n bennaf at gyrff cyhoeddus. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen yr ymgynghoriad.

Bydd y Pwyllgor yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar gyda rhanddeiliaid ar 16 Mawrth 2023. Ceir mwy o wybodaeth am y sesiynau tystiolaeth o dan y tab cyfarfodydd ar frig y dudalen.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/10/2022

Ymgynghoriadau