Ymgynghoriad
Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 27 Gorffennaf 2012 a Dydd Sul, 30 Medi 2012
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Sefydlwyd grŵp gorchwyl gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
er mwyn gynnal ymchwiliad i’r diwygiadau arfaethedig i’r Polisi Amaethyddol
Cyffredin. Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd:
- asesu effaith bosibl
cynigion Comisiwn Ewrop ar gyfer diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin
yng Nghymru, yn cynnwys goblygiadau’r Polisi ar gyfer polisïau perthnasol
Llywodraeth Cymru;
- ystyried pa ganlyniadau
fyddai fwyaf buddiol i Gymru;
- gwneud argymhellion i
Lywodraeth Cymru ar yr hyn y dylai eu blaenoriaethu yn ei thrafodaethau ar
y broses ddiwygio;
- gweithredu fel fforwm i
randdeiliaid yng Nghymru i ymgysylltu â’r drafodaeth ar ddyfodol y polisi;
- er mwyn dylanwadu ar y
drafodaeth ehangach ar Ddiwygio’r PAC, bydd y Grŵp
Gorchwyl a Gorffen yn ceisio rhannu ei gasgliadau â chyrff seneddol y DU,
y Comisiwn Ewropeaidd a Senedd Ewrop ynghyd â chyrff Ewropeaidd perthnasol
eraill fel Pwyllgor y Rhanbarthau.
Ystyriodd y Grŵp:
- yr hyn y gallai cynigion
y Comisiwn Ewropeaidd ei olygu i Gymru?
- yr hyn ddylai fod yn
flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru wrth gynnal trafodaethau ar Ddiwygio’r PAC
er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau i Gymru?
- sut y gall Cymru sicrhau
bod ei barn yn llywio’r broses drafod?
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Alun Davidson