Ymgynghoriad
Cysylltedd digidol yng Nghymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 25 Ebrill 2022 a Dydd Mercher, 11 Mai 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- DC01 Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched-Cymru (Saesneg yn unig)
- DC02 Ogi (Saesneg yn unig)
- DC03 Pwyllgor Cynghori Cymru, Ofcom
- DC04 Openreach (Saesneg yn unig)
- DC05 BT (Saesneg yn unig)
- DC06 Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau
- DC07 Which? (Saesneg yn unig)
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a
Seilwaith (“y Pwyllgor”) wedi cytuno i gynnal darn byr o waith ar
gysylltedd digidol yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar bolisïau
band eang a mynediad at fand eang.
Er mwyn helpu i
lywio ei waith, cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth lafar gyda
rhanddeiliaid ddydd Mercher 11 Mai 2022. Cafwyd cyflwyniadau ysgrifenedig gan
randdeiliaid a wahoddwyd i roi tystiolaeth lafar.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddHinsawdd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565