Ymgynghoriad
Effaith pandemig COVID-19, a'i reolaeth, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 4 Hydref 2021 a Dydd Gwener, 15 Gorffennaf 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
yn gwneud gwaith parhaus ar effaith pandemig COVID-19, a’i reolaeth, ar y
materion sydd o fewn ei gylch gwaith. Mae manylion y gwaith y mae'r Pwyllgor
wedi'i wneud hyd yn hyn ar gael ar y dudalen
yr ymholiad.
Rhwng hydref 2021
a gwanwyn 2022, cynhaliodd y Pwyllgor alwad agored am dystiolaeth ar effaith
pandemig COVID-19, a’i reolaeth, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae'r
ymgynghoriad bellach wedi cau. Os oes unrhyw faterion yn ymwneud â’r pandemig
yr hoffech eu dwyn i sylw’r Pwyllgor, gallwch ysgrifennu at y Pwyllgor gan
ddefnyddio’r manylion isod.
Er y bydd yr hol
sylwadau sy’n dod i law yn helpu i lywio ein gwaith craffu thematig ar COVID-19
a’i effaith, nid ydym yn gallu rhoi cyngor ar achosion unigol na dwyn achosion
o’r fath yn eu blaenau ar eich rhan. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd eich
cynrychiolwyr lleol yn gallu eich cynorthwyo; gallwch ddod o hyd i’w manylion
cyswllt ar ein gwefan.
Os oes gennych
unrhyw gwestiynau am COVID-19 - er enghraifft, cwestiynau am iechyd a gofal
cymdeithasol, budd-daliadau, cymorth i fusnesau, teithio, bwyd, manwerthu,
canslo trefniadau neu addysg - gall y blog
gan wasanaeth Ymchwil y Senedd eich cyfeirio at y wybodaeth a’r canllawiau
diweddaraf, sy’n dod o ffynonellau swyddogol a dibynadwy.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
- COV 01 - Unigolyn (Saesneg yn unig)
PDF 99 KB
- COV 02 - Dr Angharad Shaw (Saesneg yn unig)
PDF 186 KB
- COV 03 - Dr Simon Williams (Saesneg yn unig)
PDF 193 KB
- COV 04 - Yr Athro Gwyneth Davies (Saesneg yn unig)
PDF 200 KB
- COV 05 - Dr Matt Morgan (Saesneg yn unig)
PDF 159 KB
- COV 06 - Yr Athro Nicola Gray (Saesneg yn unig)
PDF 256 KB
- COV 07 - Yr Athro Mark Llewellyn (Saesneg yn unig)
PDF 220 KB
- COV 08 - Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru
PDF 261 KB
- COV 09 - Dr Karri Gillespie-Smith (Saesneg yn unig)
PDF 448 KB
- COV 10 - Unigolyn (saesneg yn unig)
PDF 381 KB
- COV 11 - The Association of the British Pharmaceutical Industry (ABPI) Cymru Wales
PDF 456 KB
- COV 12 - Wynne Jones (Saesneg yn unig)
PDF 746 KB
- COV 13 - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
PDF 847 KB
- COV 14 - Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
PDF 494 KB
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddHealth@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565