Ymgynghoriad
Y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 25 Awst 2021 a Dydd Gwener, 8 Hydref 2021
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- HSC01 - Fairways Care Ltd (Saesneg yn unig) PDF 80 KB
- HSC02 - Coleg Brenhinol y Patholegwyr (Saesneg yn unig) PDF 286 KB
- HSC03 - Fferylliaeth Gymunedol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 721 KB
- HSC04 - Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd (Saesneg yn unig) PDF 743 KB
- HSC05 - FCIM, WCIS, WCCTN (Saesneg yn unig) PDF 633 KB
- HSC06 - Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 302 KB
- HSC07 - Coleg Brenhinol Triniaeth y Traed PDF 181 KB
- HSC08 - Cartrefi Cymunedol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 146 KB
- HSC09 - Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion (Saesneg yn unig) PDF 120 KB
- HSC10 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae PDF 308 KB
- HSC11 - Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru PDF 801 KB
- HSC12 - Coleg Brenhinol y Radiolegwyr (Saesneg yn unig) PDF 291 KB
- HSC13 - Coleg Brenhinoly Therapyddion Galwedigaethol (Saesneg yn unig) PDF 207 KB
- HSC14 - Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru PDF 396 KB
- HSC15 - BASW Cymru (Saesneg yn unig) PDF 305 KB
- HSC16 - Age Cymru (Saesneg yn unig) PDF 160 KB
- HSC17 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (Saesneg yn unig) PDF 235 KB
- HSC18 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (Saesneg yn unig) PDF 187 KB
- HSC19 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (Saesneg yn unig) PDF 655 KB
- HSC20 - Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd (Saesneg yn unig) PDF 227 KB
- HSC21 - Cymorth Canser Macmillan (Saesneg yn unig) PDF 269 KB
- HSC22 - Hospice UK (Saesneg yn unig) PDF 485 KB
- HSC23 - Coleg Brenhinol y Meddygon (Saesneg yn unig) PDF 571 KB
- HSC24 - Ymchwil Canser Cymru (Saesneg yn unig) PDF 507 KB
- HSC25 - Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (Saesneg yn unig) PDF 207 KB
- HSC26 - ADSS Cymru (Saesneg yn unig) PDF 344 KB
- HSC27 - Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Saesneg yn unig) PDF 766 KB
- HSC28 - Cancer Research UK (Saesneg yn unig) PDF 332 KB
- HSC29 - Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (Saesneg yn unig) PDF 259 KB
- HSC30 - BDA Cymru (Saesneg yn unig) PDF 268 KB
- HSC31 - Cymdeithas yr Anesthetyddion (Saesneg yn unig) PDF 368 KB
- HSC32 - Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 270 KB
- HSC33 - Canolfan Cydweithredol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 197 KB
- HSC34 - NAS Cymru (Saesneg yn unig) PDF 142 KB
- HSC35 - Y Gymdeithas Strôc (Saesneg yn unig) PDF 319 KB
- HSC36 - Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (Saesneg yn unig) PDF 217 KB
- HSC37 - Awdurdod Safonau Proffesiynol (Saesneg yn unig) PDF 220 KB
- HSC38 - Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Saesneg yn unig) PDF 509 KB
- HSC39 - HC-One (Saesneg yn unig) PDF 156 KB
- HSC40 - Y Cyngor Meddygol Cyffredinol PDF 261 KB
- HSC41 - Comisiynydd y Gymraeg PDF 377 KB
- HSC42 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda PDF 625 KB
- HSC43 - Fforwm Gofal Cymru (Saesneg yn unig) PDF 261 KB
- HSC44 - Y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys (Saesneg yn unig) PDF 189 KB
- HSC45 - BMA Cymru Wales (Saesneg yn unig) PDF 4 MB
- HSC46 - Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (Saesneg yn unig) PDF 243 KB
- HSC47 - Ymateb ar y cyd gan RCSLT, CSP, RCOT, RCP, SCR and BDA (Saesneg yn unig) PDF 264 KB
- HSC48 - Iechyd Cyhoeddus Cymru (Saesneg yn unig) PDF 359 KB
- HSC49 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru PDF 300 KB
- HSC50 - Cymdeithas Fferyllol Frenhinol (Saesneg yn unig) PDF 306 KB
- HSC51 - Unison (Saesneg yn unig) PDF 222 KB
- HSC52 - Leonard Cheshire (Saesneg yn unig) PDF 231 KB
- HSC53 - Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru PDF 199 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
Diben yr ymgynghoriad
Diben yr
ymgynghoriad
Bydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn
cynnal sesiwn dystiolaeth lafar gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a
Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC) yn ystod tymor yr hydref i ystyried eu
strategaeth ar y cyd, Cymru
Iachach: ein strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Er mwyn llywio'r
sesiwn dystiolaeth lafar gydag AaGIC a GCC, ac unrhyw waith pellach y gallai'r
Pwyllgor ddymuno ei wneud mewn perthynas â'r gweithlu iechyd a gofal
cymdeithasol, byddem yn ddiolchgar pe gallech rannu eich barn ynghylch y
canlynol:
1. Y cynlluniau ar gyfer gweithredu Cymru
iachach: ein strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol (a
gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020), gan gynnwys y cynnydd a wnaed hyd yma ac a yw'r
gwaith o gyflawni ar y trywydd iawn ar gyfer 2030.
2. Aliniad y strategaeth a’r modd y caiff ei
gweithredu â blaenoriaethau a chamau gweithredu eraill, gan gynnwys y rhai a
nodwyd yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2026, a Cymru
Iachach: ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2018).
3. Y graddau y bydd strategaeth gweithlu
AaGIC/GCC a gwaith ehangach ar gynllunio'r gweithlu a chomisiynu/darparu addysg
a hyfforddiant yn sicrhau bod gennym weithlu iechyd a gofal cymdeithasol sy'n
gallu diwallu anghenion iechyd a gofal y boblogaeth, a chefnogi modelau gofal a
ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys gwneud y defnydd gorau posibl o dechnoleg
ddigidol a datblygu gwasanaethau Cymraeg.
4. Y mecanweithiau, y dangosyddion a'r data a
ddefnyddir i fesur cynnydd o ran gweithredu strategaeth y gweithlu a gwerthuso
ei heffeithiolrwydd.
5. A yw'r adnoddau ariannol ac adnoddau
eraill a ddyrennir i weithredu'r strategaeth yn ddigonol.
6. I ba raddau y mae'r strategaeth a'r modd y
caiff ei gweithredu yn gynhwysol, yn adlewyrchu anghenion/cyfraniad y gweithlu
cyfan—er enghraifft, ar sail proffesiwn, cam gyrfa neu nodweddion gwarchodedig—a
hefyd a yw’n ystyried rôl gofalwyr a
gwirfoddolwyr di-dâl.
7. A oes unrhyw feysydd penodol o fewn y
strategaeth a fyddai'n elwa o waith dilynol â ffocws gan y Pwyllgor.
Y dyddiad cau ar
gyfer cyflwyniadau yw dydd Gwener 8 Hydref.
Ynghyd â'ch
cyflwyniad, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:
- Eich enw a’ch manylion cyswllt fel y person
neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth.
- A yw eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno
gan unigolyn neu ar ran sefydliad.
- Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel
unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 oed.
- Os ydych o dan 13 oed, cytundeb eich rhiant
neu warcheidwad y gallwch gymryd rhan (gellir darparu hyn drwy e-bost).
- Cadarnhad a fyddai'n well gennych i’ch enw beidio
â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion
o dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).
- A hoffech i’r pwyllgor drin eich holl
dystiolaeth ysgrifenedig, neu unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gyda
rhesymau dros y cais.
- Os ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn
eich tystiolaeth, fel rhiant, priod neu berthynas, cadarnhad eu bod wedi
cytuno y gallwch rannu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u
bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.
Sut i rannu
eich barn
I rannu eich barn
yn electronig, anfonwch neges e-bost at SeneddIechyd@senedd.cymru,
neu drwy'r post at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Senedd Cymru,
Caerdydd, CF99 1SN.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565