Ymgynghoriad
Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd: Paratoadau yng Nghymru ar gyfer diwedd y cyfnod pontio
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 29 Mehefin 2020 a Dydd Sadwrn, 31 Hydref 2020
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Casglu
tystiolaeth:
Yn unol â’i gylch
gwaith i ystyried sut y bydd penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb
Ewropeaidd yn effeithio ar Gymru, cynhaliodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol ymchwiliad i’r paratoadau yng Nghymru ar gyfer diwedd y cyfnod
pontio (31 Rhagfyr 2020).
Nod y Pwyllgor
wrth ymgymryd â'r gwaith hwn oedd cryfhau’r paratoadau yng Nghymru ar gyfer
diwedd y cyfnod pontio drwy graffu ar waith Llywodraeth Cymru, ymgysylltu â
rhanddeiliaid, a thynnu sylw at faterion sy'n ymwneud yn benodol â Chymru.
Roedd y gwaith
hwn yn ymwneud â’r canlynol:
- yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i baratoi
Cymru ar gyfer diwedd y cyfnod pontio.
- paratoadau’r prif sectorau economaidd yng Nghymru;
- effaith y trafodaethau ynghylch cytundebau
rhyngwladol y DU ar y paratoadau, gan gynnwys y cytundeb (neu’r
cytundebau) ar y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol, cytundebau
masnach rydd arwyddocaol eraill (ee y DU-UDA, y DU-Japan, y DU-Awstralia,
y DU-Seland Newydd etc.), a'r rhaglen Trafod a Chydgysylltu Parhad Masnach
Masnach (y cyfeiriwyd ati gynt fel y Rhaglen Parhad Cytundebau Masnach); a
- chytundebau rhynglywodraethol o fewn y DU yn ymwneud
â diwedd y cyfnod pontio, gan gynnwys y rhaglen fframweithiau cyffredin.
Nid oedd y
rhestr hon yn gynhwysfawr, a gwnaethom ofyn am safbwyntiau ar unrhyw agwedd ar
ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd a oedd yn effeithio ar sefydliad neu
sector.
Datgelu
gwybodaeth
Gofynnwyd i’r ymatebwyr sicrhau eu
bod wedi ystyried polisi'r
Senedd ar ddatgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i'r
Pwyllgor.
Dogfennau ategol
- Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd: Paratoadauyng Nghymru ar gyfer diwedd y cyfnod pontio - Hydref 2020 PDF 2 MB
- EUP01 Cruelty Free International [Saesneg yn unig] PDF 68 KB
- EUP02 Cyngor Celfyddydau Cymru - Celfyddydau Rhyngwladol Cymru PDF 148 KB
- EUP03 ColegauCymru [Saesneg yn unig] PDF 298 KB
- EUP04 Cymorth i Ferched Cymru [Saesneg yn unig] PDF 104 KB
- EUP05 Cymdeithas Milfeddygon Prydain [Saesneg yn unig] PDF 162 KB
- EUP06 FSB Cymru [Saesneg yn unig] PDF 118 KB
- EUP07 Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain [Saesneg yn unig] PDF 140 KB
- EUP08 Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru PDF 89 KB
- EUP09 Rail Freight Group [Saesneg yn unig] PDF 27 KB
- EUP10 Conffederasiwn GIG Cymru [Saesneg yn unig] PDF 598 KB
- EUP11 Hybu Cig Cymru [Saesneg yn unig] PDF 45 KB
- EUP12 CLlLC PDF 176 KB
- EUP13 Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru [Saesneg yn unig] PDF 77 KB
- EUP14 Cyfoeth Naturiol Cymru PDF 204 KB
- EUP15 Undeb Amaethwyr Cymru [Saesneg yn unig] PDF 175 KB
- EUP16 NFU Cymru [Saesneg yn unig] PDF 173 KB
- EUP17 Prifysgolion Cymru [Saesneg yn unig] PDF 313 KB
- EUP18 CGGC a Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit PDF 278 KB
- EUP19 Siambr Fasnach De Cymru [Saesneg yn unig] PDF 193 KB
- EUP20 Cyngor Celfyddau Cymru - Celfyddydau Rhyngwladol Cymru PDF 81 KB