Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar effaith argyfwng Covid-19 ar y sectorau amaethyddiaeth a physgodfeydd, cyflenwi bwyd, lles anifeiliaid, yr amgylchedd a newid hinsawdd.

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mawrth 9 Mehefin 2020 a dydd Iau 18 Mawrth 2021.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad ar effaith argyfwng Covid-19 ar y sectorau amaethyddiaeth a physgodfeydd, cyflenwi bwyd, lles anifeiliaid, yr amgylchedd a newid hinsawdd.

 

Roedd y Pwyllgor yn awyddus i glywed am effaith yr argyfwng a sut yr oedd yn cael ei reoli. Fel rhan o’r gwaith hwn, bu’r Pwyllgor yn ystyried yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus perthnasol ac yn ystyried yr effaith ar sectorau a phroffesiynau perthnasol. Bu hefyd yn ystyried ymateb Cymru yng nghyd-destun ehangach y DU.

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried:

 

  • graddfa ac effeithiau’r pandemig ar eich gwaith a/neu sector

 

  • sut mae camau gweithredu Llywodraeth Cymru hyd yma wedi helpu i leihau effaith y pandemig

 

  • pa gamau ychwanegol  y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd

 

  • unrhyw feysydd eraill o fewn ein cylch gwaith yr hoffech dynnu ein sylw atynt

 

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben.

 

 

Sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth: Fel mater o drefn, rydym yn cyhoeddi'r holl safbwyntiau rydym yn eu cael. Bydd tystiolaeth a gyflwynir mewn ymateb i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei chyhoeddi’n barhaus. Am fwy o wybodaeth, gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth: Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

Iaith: Rydym yn gweithio mewn dwy iaith swyddogol, Cymraeg a Saesneg. Gallwch gyflwyno’ch sylwadau yn y naill iaith neu'r llall (neu'r ddwy iaith os yw safonau neu gynlluniau eich sefydliad yn gofyn i chi wneud hynny), yn unol â'n Cynllun Ieithoedd Swyddogol. Byddwn yn cyhoeddi sylwadau yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno’n unig.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni: SeneddNHAMG@Senedd.cymru

 

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddNHAMG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565