Ymgynghoriad
Capasiti’r Senedd
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 14 Chwefror 2020 a Dydd Llun, 20 Ebrill 2020
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- CAP 01 Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 323 KB Gweld fel HTML (1) 25 KB
- CAP 02 Rhwydwaith Cydraddoldeb Menwyod Cymru (Saesneg yn unig) PDF 716 KB Gweld fel HTML (2) 59 KB
- CAP 03 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 287 KB Gweld fel HTML (3) 43 KB
- CAP 04 Archwilydd Cyffredinol Cymru PDF 885 KB
Diben yr ymgynghoriad
Sefydlwyd y
Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd ym mis Medi 2019 i ymchwilio i
argymhellion y
Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad ynglŷn â maint y
Senedd a sut mae Aelodau'n cael eu hethol.
I lywio ei waith ar gapasiti’r Senedd, cynhaliodd y
Pwyllgor ddigwyddiad trafod preifat ar 6 Ionawr 2020 gyda phobl a sefydliadau
sy’n gweithio'n agos gyda'r Senedd a'i Aelodau.
Trafodwyd tri chwestiwn yn y digwyddiad:
- A oes gan y Senedd y capasiti sydd ei angen arni i gyflawni ei
swyddogaethau cynrychioliadol, craffu a deddfwriaethol ar hyn o bryd ac yn
y dyfodol?
- A fyddai pethau'n wahanol pe bai gan y Senedd ragor o Aelodau? Os
felly, sut?
- Os yw’n parhau i fod â 60 Aelod, beth y gallai’r Senedd, ei
phwyllgorau, ei Aelodau, ei phleidiau gwleidyddol neu eraill ei wneud yn
wahanol er mwyn cynyddu’r capasiti?
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad ar gofnod
o'r materion a drafodwyd [PDF, 258KB] rhwng 14 Chwefror 2020 a 20 Ebrill
2020.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Committee on Assembly Electoral Reform
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddDiwygio@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565