Ymgynghoriad
Y newid yng nghyfansoddiad Cymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 29 Gorffennaf 2019 a Dydd Llun, 30 Medi 2019
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- WCC(5)01 Grŵp Cynrychiolaeth Llafur Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 39 KB Gweld fel HTML (1) 22 KB
- WCC(5)02 Dr Andrew Blick (Saesneg yn unig)
PDF 38 KB Gweld fel HTML (2) 24 KB
- WCC(5)03 Yr Athro Jo Hunt a Hedydd Phylip (Saesneg yn unig)
PDF 35 KB Gweld fel HTML (3) 27 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad* yn cynnal
ymchwiliad sydd â’r cylch gorchwyl a ganlyn:
- Ystyried cwmpas confensiwn Sewel, a’r ffordd y caiff ei gymhwyso, yng
nghyd-destun y broses o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys:
- mewn perthynas â deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth,
- a yw’r canllawiau presennol ar ddatganoli sy’n ymwneud â chydsyniad
yn addas i’r diben,
- dyfarniadau diweddar y Goruchaf Lys,
- sut y dylid dehongli “fel arfer” (“normally”) yn adran 107(6) o
Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, pwy ddylai ei dehongli a sut y dylid
datrys anghydfodau,
- a ddylid sefydlu gweithdrefnau seneddol i gydnabod y confensiwn yn y
broses ddeddfwriaethol,
- profiad deddfwrfeydd datganoledig eraill yn y DU a’r ffordd y mae
gwledydd eraill yn ymdrin â chydsyniad deddfwriaethol;
- Ystyried y goblygiadau i setliad datganoli Cymru yn sgil lefelau
newydd o lywodraethiant yn y DU o ganlyniad i Brexit, gan gynnwys:
- datblygu fframweithiau cyffredin deddfwriaethol ac anneddfwriaethol,
- datblygu a defnyddio cytundebau rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth y
Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru o ganlyniad i ddeddfwriaeth sy’n
gysylltiedig â Brexit,
- pŵer Gweinidogion y DU o dan adran 109A o Ddeddf Llywodraeth
Cymru 2006 (fel y’i cyflwynwyd gan adran 12 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd
(Ymadael) 2018) i ‘rewi’ meysydd o gymhwysedd datganoledig dros dro;
- Adolygu, yn ôl y gofyn, argymhellion adroddiadau’r Pwyllgor sy’n
gysylltiedig â Brexit; ac
- Ystyried unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â threfniadau
cyfansoddiadol y DU ar ôl Brexit, gan gynnwys diwygio cyfansoddiadol.
Bwriad natur eang yr ymchwiliad yw caniatáu i’r Pwyllgor fod
yn hyblyg o ran ei ffordd o weithio ac ystyried materion cyfansoddiadol sy’n
dod i’r amlwg wrth i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. O
ganlyniad, mae’n debygol o gyhoeddi adroddiadau thematig wrth i’w waith fynd
rhagddo.
Yn ystod yr ymchwiliad, mae’r Pwyllgor hefyd yn debygol o
adolygu rhai o’i adroddiadau sy’n gysylltiedig â Brexit fel:
- Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd
- Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb
Ewropeaidd (Ymadael) 2018: materion gweithredol
- Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb
Ewropeaidd (Ymadael) 2018: adroddiad cynnydd
Byddai'r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau am yr
ymchwiliad.
Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a
Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd,
mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i
ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd
gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion
ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd,
gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu
safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau
statudol.
Gweler y canllawiau ar gyfer y
sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran
datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
* Yn dilyn penderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ionawr
2020, daeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddDCC@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565