Ymgynghoriad
Addysg heblaw yn yr ysgol
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 27 Mehefin 2019 a Dydd Gwener, 18 Hydref 2019
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- EOTAS 01 Cyngor y Gweithlu Addysg PDF 266 KB
- EOTAS 02 Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- EOTAS 03 Estyn (Saesneg yn unig) PDF 462 KB
- EOTAS 04 Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig (Saesneg yn unig) PDF 150 KB
- EOTAS 05 Samaritans Cymru PDF 295 KB
- EOTAS 06 Nurtureuk (saesneg yn unig) PDF 1 MB
- EOTAS 07 Undeb Prifysgolion a Cholegau (Saesneg yn unig) PDF 88 KB Gweld fel HTML (7) 35 KB
- EOTAS 08 Comisiynydd Plant Cymru PDF 408 KB
- EOTAS 09 Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 74 KB Gweld fel HTML (9) 25 KB
- EOTAS 10 Cyngor Sir Penfro (Saesneg yn unig) PDF 58 KB Gweld fel HTML (10) 36 KB
- EOTAS 11 Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (Saesneg yn unig) PDF 55 KB Gweld fel HTML (11) 21 KB
- EOTAS 12 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 155 KB
- EOTAS 13 Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru PDF 51 KB Gweld fel HTML (13) 20 KB
- EOTAS 14 Mind Cymru PDF 50 KB Gweld fel HTML (14) 22 KB
- EOTAS 15 ColegauCymru (Saesneg yn unig) PDF 778 KB
- EOTAS 16 Chwarae Cymru PDF 108 KB Gweld fel HTML (16) 35 KB
- EOTAS 17 Cyngor Bwrdeistref Sirol (Saesneg yn unig) PDF 52 KB Gweld fel HTML (17) 45 KB
- EOTAS 18 Cyngor Abertawe (Saesneg yn unig) PDF 71 KB Gweld fel HTML (18) 61 KB
- EOTAS 19 Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Saesneg yn unig) PDF 143 KB
- EOTAS 20 The Princes Trust Cymru (Saesneg yn unig) PDF 51 KB Gweld fel HTML (20) 25 KB
- EOTAS 21 Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Saesneg yn unig) PDF 51 KB Gweld fel HTML (21) 22 KB
- EOTAS 22 ACT (Saesneg yn unig) PDF 77 KB Gweld fel HTML (22) 151 KB
- EOTAS 23 Bwrdd iechyd Addysgu Powys (Saesneg yn unig) PDF 72 KB Gweld fel HTML (23) 26 KB
- EOTAS 24 Snap Cymru (Saesneg yn unig) PDF 303 KB Gweld fel HTML (24) 471 KB
- EOTAS 25 Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (Saesneg yn unig) PDF 70 KB Gweld fel HTML (25) 64 KB
- EOTAS 26 Dr Gail John (Saesneg yn unig) PDF 201 KB Gweld fel HTML (26) 22 KB
- EOTAS 27 Ann Keane - EOTAS Grŵp gorchwyl a gorffen (Saesneg yn unig) PDF 307 KB Gweld fel HTML (27) 147 KB
- EOTAS 28 Yr Athro Brett Pugh (Saesneg yn unig) PDF 342 KB Gweld fel HTML (28) 71 KB
- EOTAS 29 NASUWT (Saesneg yn unig) PDF 255 KB Gweld fel HTML (29) 42 KB
- EOTAS 30 Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol (Saesneg yn unig) PDF 38 KB
- EOTAS 31 Royal College of Speech and Language Therapists PDF 349 KB Gweld fel HTML (31) 34 KB
- EOTAS 32 Llywodraeth Cymru PDF 587 KB
Diben yr ymgynghoriad
Cynhaliodd y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i'r ystod o ddarpariaeth
Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion. Roedd
yn canolbwyntio'n benodol ar:
- Y cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc sydd mewn perygl o addysg
heblaw yn yr ysgol, gan gynnwys drwy eu gwahardd o ddarpariaeth brif ffrwd,
a’r rhesymau dros y cymorth hwn
- Pa mor effeithiol y caiff rhieni gymorth a’u cynnwys drwy gydol proses
addysg heblaw yn yr ysgol
- Yr amrywiad mewn cyfraddau addysg heblaw yn yr ysgol i blant a phobl
ifanc â nodweddion penodol (megis dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig
neu sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim) a chanlyniadau hyn
- Lefelau’r cymorth ariannol sydd ar gael i gefnogi plant a phobl ifanc
sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol, a’r rhai sydd mewn perygl o’i chael,
ac a yw hyn yn cynrychioli gwerth am arian
- Cyfrifoldeb ac atebolrwydd am addysg disgyblion sy'n dod yn rhai sy’n
cael addysg heblaw yn yr ysgol
- Cyrhaeddiad plant a phobl ifanc sy’n cael addysg heblaw yn yr
ysgol
- Canlyniadau a llesiant plant a phobl ifanc sy’n cael addysg heblaw yn
yr ysgol
- Ansawdd y cymorth a roddir i blant a phobl ifanc yn yr ystod o
ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol
- Cymorth datblygiad proffesiynol i staff unedau cyfeirio disgyblion,
gan gynnwys y rhai sy'n darparu addysg yn y cartref
- Y risgiau posibl i blant a phobl ifanc sy’n cael addysg heblaw yn yr
ysgol fel rhwystrau cynyddol i gael gafael ar gymorth iechyd meddwl, mwy o
risg o ymwneud â throsedd a'r system cyfiawnder troseddol megis 'llinellau
cyffuriau'.
- Materion eraill sydd â chysylltiad agos ag addysg heblaw yn yr ysgol,
er enghraifft symudiadau wedi’u rheoli, a dadgofrestru disgyblion
Roedd ymchwiliad y
Pwyllgor yn cynnwys addysg unigol yn y cartref ond nid oedd yn canolbwyntio ar
y mater ar wahân ynghylch addysg ddewisol yn y cartref.
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 18 Hydref 2019.
Sut y gall rhieni a staff gael dweud eu dweud yn yr
ymchwiliad?
Fel rhan o'n hymchwiliad, fe ddatblygwyd arolwg i sicrhau
bod teuluoedd sy’n defnyddio EOTAS a staff sy'n gweithio mewn darpariaethau
EOTAS yn cael rhannu eu sylwadau a'u profiadau a chyfrannu i’r ymchwiliad
ehangach.
Rydym wedi llunio crynodeb
o'r canlyniadau.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddPPIA@Senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565