Ymgynghoriad
Adolygiad o gymorth staffio i'r Aelodau a’r adolygiad o’r Weithdrefn Ddisgyblu a’r Weithdrefn Gwyno
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 24 Hydref 2018 a Dydd Iau, 13 Rhagfyr 2018
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cynnwys cynigion ar
ddwy o ffrydiau gwaith y Bwrdd Taliadau:
Adolygiad o'r cymorth staffio i'r Aelodau
Diben yr
ymgynghoriad
Yn ei gyfarfod
ar 11 Hydref ystyriodd y
Bwrdd y dystiolaeth a gafwyd yn ystod ei adolygiad o'r cymorth staffio i'r
Aelodau ar y materion nad yw eto wedi gwneud penderfyniad yn eu cylch. Cytunodd
y Bwrdd:
- nad oedd wedi cael digon o dystiolaeth ar rai o'r meysydd yn y cylch
gorchwyl ac nad oedd felly yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau i'r
darpariaethau hynny;
- i ohirio'i ystyriaeth o rai o'r meysydd yn y cylch gorchwyl i'w
adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad;
- i ymgynghori ar unrhyw feysydd sy'n weddill yn y cylch gorchwyl.
Ystyriodd y Bwrdd addasrwydd telerau ac amodau presennol
y staff cymorth a chytunodd i ymgynghori ar ddiwygio neu addasu nifer o
ddarpariaethau. Mae crynodeb o'r cynigion hyn isod:
- addasu cyflogau'r staff cymorth ym mis Ebrill bob blwyddyn yn ôl y
newid yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion;
- cyflwyno diwrnodau braint ar gyfer staff cymorth;
- cyflwyno polisi absenoldeb tosturiol newydd ar gyfer y staff cymorth.
Hefyd, ystyriodd y
Bwrdd y trefniadau ariannu ar gyfer Aelodau'r Cynulliad sy'n cyflogi aelodau
o'r teulu a chytunodd i ymgynghori
ar gael gwared ar allu'r Aelodau i ariannu cyflogaeth aelodau o'r teulu a
phartneriaid drwy'r Penderfyniad.
Cylch gorchwyl
Bydd y Bwrdd yn adolygu tystiolaeth bresennol
a thystiolaeth newydd sy’n ymwneud â’r lwfansau staffio a ddarperir i’r Aelodau
er mwyn sicrhau bod y cymorth ariannol sydd ar gael yn cefnogi diben strategol
y Cynulliad ac yn hwyluso gwaith ei Aelodau, yn ogystal â sicrhau bod y system
cymorth ariannol i’r Aelodau yn gadarn, yn glir, yn dryloyw, yn gynaliadwy ac
yn rhoi gwerth i’r trethdalwr.
Bydd yr adolygiad yn ystyried:
- pa mor ddigonol yw lefel y cymorth a roddir i'r Aelodau;
- pa mor hyblyg a rhagnodol yw’r system cymorth bresennol i’r Aelodau;
- pa mor addas yw telerau ac amodau presennol staff cymorth.
Gweithredu'r Polisi Urddas a Pharch
Diben yr
ymgynghoriad
Ymdrinnir â materion aflonyddu, bwlio ac ymddygiad
amhriodol mewn perthynas â staff cymorth yn ôl y prosesau a amlinellir yn y
Gweithdrefnau Cwyno a Disgyblu. O'r herwydd, mae'r Bwrdd wedi cytuno bod angen
adolygu'r dogfennau hyn ar unwaith i sicrhau eu bod yn cynnwys y wybodaeth
ddiweddaraf ac yn cyd-fynd â'r polisi
Urddas a Pharch. Yn ei gyfarfod
ar 11 Hydref ystyriodd y Bwrdd yr adborth cychwynnol a gafodd ar
y Weithdrefn Ddisgyblu a'r Weithdrefn Gwyno a chytunodd i ymgynghori
ar nifer o newidiadau i sicrhau bod y ddwy weithdrefn yn cynnwys y wybodaeth
ddiweddaraf ac yn cyd-fynd â pholisi Urddas a Pharch y Cynulliad.
Cylch gorchwyl
Yn sgil mabwysiadu
polisi Urddas a Pharch Comisiwn y Cynulliad, ymrwymodd y Bwrdd i adolygu'r holl
ddogfennau a pholisïau priodol o fewn ei gylch gorchwyl i gefnogi newid
diwylliannol ac i sicrhau nad yw ymddygiad amhriodol yn cael ei oddef ac yr eir
i'r afael ag ef yn briodol. Mae'r dogfennau a'r polisïau a ganlyn yn dod o fewn
ei gylch gorchwyl:
- Cod Ymddygiad staff cymorth;
- Gweithdrefn Ddisgyblu staff cymorth;
- Gweithdrefn Gwyno staff cymorth.
Darparu tystiolaeth ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy
iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn
unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad mae'r Bwrdd yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion
ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio gan y
Bwrdd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion
ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddant yn cael eu cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Mae'r Bwrdd yn disgwyl i sefydliadau eraill
weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u
rhwymedigaethau statudol.
Datgelu gwybodaeth
Sicrhewch eich bod wedi ystyried y ffordd y
bydd y Bwrdd yn defnyddio'ch gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Bwrdd.
Nodir hyn yn yr atodiad
i’r ddogfen ymgynghori.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn cyflwyniadau yw
dydd Iau 13 Rhagfyr 2018. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw
ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Dogfennau ategol
- Llythyr ymgynghori PDF 197 KB Gweld fel HTML (1) 65 KB
- Dogfen ymgynghori PDF 505 KB
- Polisi Preifatrwydd PDF 134 KB Gweld fel HTML (3) 9 KB
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Bwrdd Taliadau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: Taliadau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565