Adolygiad o'r cymorth staffio i’r Aelodau
Gwnaeth y Bwrdd
Taliadau, yn ei strategaeth
ar gyfer 2016 – 2021, ymrwymo i adolygu strwythur gyrfa a chyflogau staff
cymorth Aelodau’r Cynulliad a thrafod y ffordd orau o roi’r lefel addas o
gymorth i Aelodau’r Cynulliad er mwyn galluogi iddynt weithio’n effeithiol mewn
sefydliad gwleidyddol sy’n aeddfedu.
Cylch
gorchwyl
Bydd y Bwrdd yn adolygu tystiolaeth
bresennol a thystiolaeth newydd sy'n ymwneud â'r lwfans staffio a ddarperir i
Aelodau, i sicrhau bod y gefnogaeth ariannol sydd ar gael yn cefnogi pwrpas
strategol y Cynulliad ac yn hwyluso gwaith yr Aelodau ynghyd â sicrhau bod y
system cefnogaeth ariannol i Aelodau yn gadarn, clir, tryloyw, cynaliadwy ac yn
cynrychioli gwerth am arian i'r trethdalwr.
Bydd
yr adolygiad yn ystyried:
- digonolrwydd
lefel y gefnogaeth a roddir i Aelodau;
- pa mor
hyblyg yw'r system gymorth gyfredol ar gyfer Aelodau, ac i ba raddau y'i
gweithredir; a
- addasrwydd telerau ac amodau cyfredol y Staff Cymorth.
Gweithgareddau ymgysylltu
Mae’r Bwrdd wedi cynnal
nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu ar gyfer Aelodau a’u staff cymorth i lywio’r
gwaith o drafod y materion perthnasol.
Ymgynghoriadau cyhoeddus
Ymgynghoriad cyntaf
Ar 27 Mawrth, lansiodd y
Bwrdd ymgynghoriad
cyhoeddus ar ei gynigion i ganiatáu rhagor o hyblygrwydd yn y Penderfyniad o
ran y ffordd y caiff lwfansau presennol eu defnyddio, heb gynyddu lefel y
lwfansau hyn.
Trafododd y Bwrdd yr
ymatebion a ddaeth i law yn ei cyfarfod ar 24 Mai, a chytunodd i weithredu’r
cynigion. Mae’r manylion llawn wedi’u nodi yn llythyr
diweddaru’r Bwrdd.
Ail
ymgynghoriad
Ar 6 Mehefin, lansiodd y
Bwrdd ymgynghoriad
cyhoeddus ar ei gynigion i gynyddu hyblygrwydd y lwfans mewn cysylltiad â’r
Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol er mwyn cynnig rhywfaint o gydraddoldeb
yn y ddarpariaeth i Aelodau a Phleidiau Gwleidyddol.
Trafododd y Bwrdd yr
ymatebion a ddaeth i law yn ei cyfarfod ar 11 Hydref, a chytunodd i weithredu’r
cynigion. Mae’r manylion llawn wedi’u nodi yn llythyr
diweddaru’r Bwrdd.
Trydydd ymgynghoriad
Ar 24 Hydref, lansiodd y Bwrdd ymgynghoriad
ar ei gynigion i:
- ddiwygio
sut y caiff cyflogaeth aelodau o deulu’r Aelod a phartneriaid ei hariannu;
- gyflwyno
diwrnodau braint i staff cymorth;
- gyflwyno
polisi ffurfiol ynghylch absenoldeb tosturiol i staff cymorth;
- addasu cyflog staff cymorth ym mis Ebrill bob blwyddyn yn ôl y newid
yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion.
Trafododd y Bwrdd yr
ymatebion a ddaeth i law yn ei gyfarfod ar 17 Ionawr, a chytunodd i ddiwygio ei
gynigion gwreiddiol. Nodir y manylion llawn am benderfyniadau’r Bwrdd yn y llythyr
diweddaru.
Mae'r Bwrdd wedi cyhoeddi ei adroddiad
ar yr Adolygiad o’r Cymorth Staffio
Rheswm dros ei ystyried: Bwrdd Taliadau;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/03/2018
Dogfennau
Ymgynghoriadau
- Adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau: Hyblygrwydd y lwfansau (Wedi ei gyflawni)
- Adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau: Hyblygrwydd y lwfansau yn ymwneud â Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol (Wedi ei gyflawni)
- Adolygiad o gymorth staffio i'r Aelodau a’r adolygiad o’r Weithdrefn Ddisgyblu a’r Weithdrefn Gwyno (Wedi ei gyflawni)