Ymgynghoriad
Ymchwiliad Microblastigau
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 23 Gorffennaf 2018 a Dydd Gwener, 21 Medi 2018
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- PL 01 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 119 KB Gweld fel HTML (1) 7 KB
- PL 02 Cymdeithas Cadwraeth Forol (Saesneg yn unig) PDF 852 KB
- PL 03 Cosmetic Toiletry and Perfumery Association (CTPA) (Saesneg yn unig) PDF 2 MB
- PL 04 Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched (Saesneg yn unig) PDF 336 KB Gweld fel HTML (4) 51 KB
- PL 05 Cyfoeth Naturiol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 467 KB
- PL 06 Cyswllt Amgylchedd Cymru (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- PL 07 Dŵr Cymru PDF 339 KB Gweld fel HTML (7) 35 KB
- PL 08 Just One Ocean (Saesneg yn unig) PDF 229 KB Gweld fel HTML (8) 18 KB
- PL 09 Prifysgol Caerdydd (Saesneg yn unig) PDF 2 MB
- PL 10 Prifysgol Caerdydd (Saesneg yn unig) PDF 248 KB Gweld fel HTML (10) 24 KB
- PL 11 Cyfeillion y Ddaear (Saesneg yn unig) PDF 689 KB
- PL 12 Eunomia (Saesneg yn unig) PDF 426 KB Gweld fel HTML (12) 69 KB
- PL 13 Just One Ocean (Saesneg yn unig) PDF 228 KB Gweld fel HTML (13) 18 KB
- PL 14 Prifsgol Plymouth (Saesneg yn unig) PDF 2 MB
Diben yr ymgynghoriad
Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a
Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i llygredd microblastigau. Dywedwch wrthym beth ydych chi'n ei feddwl
mewn ymateb i'r cwestiynau canlynol. Mae
croeso i chi gyfeirio at unrhyw faterion eraill yn eich ymateb:
- I ba raddau y mae microblastigau, gan gynnwys
microffibrau synthetig, yn broblem o fewn amgylchedd dyfrol Cymru? Sut mae hyn yn effeithio ar iechyd
amgylcheddol ac iechyd dynol
- Beth yw prif ffynonellau llygredd
microblastigau, gan gynnwys microffibrau?
- Pa mor gynhwysfawr yw ein gwybodaeth am
raddfa llygredd microblastigau a'i effeithiau? Beth ddylai'r blaenoriaethau ymchwil
fod?
- Beth sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd i atal
microblastigau rhag cael eu rhyddhau i'r amgylchedd? Pa gamau eraill y gellid eu cymryd, a
chan bwy, i fynd i'r afael â'r mater hwn yng Nghymru?
Anfonwch eich
sylwadau atom drwy gyfrwng e-bost at SeneddNHAMG@cynulliad.cymru.
Gofynnwn am yr holl gyfraniadau cyn 21 Medi 2018. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd y Pwyllgor yn
ystyried yr ymatebion ac yn penderfynu sut i symud ymlaen â'r ymchwiliad.
Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad
Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn bod dogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol yn cael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion
ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a
gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu gwybodaeth
Gwnewch yn siwr
eich bod wedi ystyried polisi’r
Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddNHAMG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565