Ymgynghoriad
Statws Cymhwyster Bagloriaeth Cymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mawrth, 3 Gorffennaf 2018 a Dydd Iau, 20 Medi 2018
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- Additional Information Received
- WB FI 01 Cymwysterau Cymru (Seasneg yn unig) PDF 265 KB Gweld fel HTML (2) 22 KB
- WB 01 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 39 KB Gweld fel HTML (4) 5 KB
- WB 02 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 41 KB Gweld fel HTML (5) 6 KB
- WB 03 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 41 KB Gweld fel HTML (6) 6 KB
- WB 04 Cyngor Ieuenctid Conwy (Saesneg yn unig) PDF 67 KB Gweld fel HTML (7) 16 KB
- WB 05 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 60 KB Gweld fel HTML (8) 12 KB
- WB 06 Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru PDF 261 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- WB 07 Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil (Saesneg yn unig) PDF 276 KB
- WB 08 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 63 KB Gweld fel HTML (12) 14 KB
- WB 09 Undeb Prifysgolion a Cholegau (Saesneg yn unig) PDF 2 MB
- WB 10 Comisiynydd Plant Cymru (Saesneg yn unig) PDF 362 KB
- WB 11 NASUWT (Saesneg yn unig) PDF 230 KB Gweld fel HTML (15) 83 KB
- WB 12 Coleg Sir Benfro (Saesneg yn unig) PDF 70 KB Gweld fel HTML (16) 23 KB
- WB 13 ColegauCymru (Saesneg yn unig) PDF 78 KB Gweld fel HTML (17) 26 KB
- WB 14 Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (Saesneg yn unig) PDF 61 KB Gweld fel HTML (18) 30 KB
- WB 15 Cynghrair Dysgu Byd-Eang Cymru (Saesneg yn unig) PDF 225 KB Gweld fel HTML (19) 27 KB
- WB 16 Coleg Gŵyr Abertawe (Saesneg yn unig) PDF 141 KB Gweld fel HTML (20) 25 KB
- WB 17 Comisiynydd y Gymraeg PDF 100 KB Gweld fel HTML (21) 19 KB
- WB 18 Consortia Rhanbarthol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 163 KB
- WB 19 Estyn (Saesneg yn unig) PDF 260 KB
- WB 20 UCAS (Saesneg yn unig) PDF 190 KB
- WB 21 CITB cymru (Saesneg yn unig) PDF 224 KB
- WB 22 National Education Union Cymru (Saesneg un unig) PDF 203 KB Gweld fel HTML (26) 40 KB
- WB 23 Llywodraeth Cymru PDF 441 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i’r cymhwyster diwygiedig Bagloriaeth Cymru a
gyflwynwyd i’w addysgu ym mis Medi 2015.
Bydd y Pwyllgor yn edrych ar y cymhwyster yng Nghyfnod Allweddol 4 ac
ôl-16.
Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio’n
benodol ar y canlynol:
- I ba raddau y mae
dysgwyr, rhieni, gweithwyr addysg mewn ysgolion a cholegau, cyflogwyr a sefydliadau addysg
uwch yn deall ac yn gwerthfawrogi’r cymhwyster Bagloriaeth Cymru;
- I ba raddau y mae dysgwyr, gweithwyr addysg mewn
ysgolion a cholegau, cyflogwyr a sefydliadau addysg uwch yn ystyried bod
Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster trylwyr sy'n cyfateb i gymwysterau eraill;
- Statws y cymhwyster Bagloriaeth Cymru mewn ysgolion a
cholegau, gan gynnwys targed Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod y
cymhwyster yn cael ei fabwysiadu'n gyffredinol, ac effaith bosibl y dull
gweithredu hwn;
- Yr effaith ehangach y mae astudio Bagloriaeth Cymru
yn ei chael ar bynciau cwricwlwm eraill ac ar ddarpariaeth addysg;
- Manteision ac
anfanteision y cymhwyster Bagloriaeth Cymru i ddysgwyr, ysgolion a
cholegau, cyflogwyr a sefydliadau addysg uwch.
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw dydd Iau 20 Medi 2018. Anfonwch eich sylwadau at: SeneddPPIA@cynulliad.cymru.
Fel rhan o’r ymchwiliad hwn rydym hefyd yn defnyddio dulliau amgen o gasglu tystiolaeth er mwyn targedu cynulleidfaoedd penodol.
Croeso i chi ymateb i’r rhain, os ydyn nhw’n berthnasol i chi:
- ‘Dialogue’ ar lein i gyflogwyr:
https://senedd.dialogue-app.com/welsh-baccalaureate-qualification - Arolwg i bobl ifanc a rhieni: https://www.surveymonkey.co.uk/r/BagloriaethCymru
- Arolwg i Sefydliadau Addysg Uwch: https://www.surveymonkey.co.uk/r/BagloriaethCymruAddysgUwch
Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy
iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i
ymgyngoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad
Cenedlaethol gael eu cyflwyno’n ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno’n ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill
weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u
rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
i’r rhai sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgorau.
Datgelu gwybodaeth
Gofynnwn i chi sicrhau eich bod wedi
ystyried polisi’r Cynulliad
o ran datgelu gwybodaeth cyn
cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
- Consultation Responses
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddPPIA@Senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565