Ymgynghoriad
Adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau: Hyblygrwydd y lwfansau yn ymwneud â Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 6 Mehefin 2018 a Dydd Gwener, 20 Gorffennaf 2018
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Yn ei gyfarfod ar 24 Mai, trafododd y Bwrdd Taliadau yr
ymatebion i’r ymgynghoriad a ddaeth i law mewn cysylltiad â’i gynigion i
gynyddu defnydd hyblyg y lwfansau presennol o fewn y Penderfyniad ar gyfer
lwfansau Aelodau unigol. Trafododd y Bwrdd hefyd sut y gallai gynyddu
hyblygrwydd y lwfans mewn cysylltiad â’r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol
er mwyn cynnig rhywfaint o gydraddoldeb yn y ddarpariaeth i Aelodau a Phleidiau
Gwleidyddol. Penderfynodd y Bwrdd ymgynghori ar y cynigion canlynol:
- cyllidebu Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol ar bwyntiau cyflog
gwirioneddol;
- cyhoeddi’r gwariant y mae pob Plaid Wleidyddol yn ei wneud ar ei
Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol;
- cael gwared ar y ddarpariaeth yn y Penderfyniad sy’n caniatáu i
drosglwyddo arian o Lwfans Staffio Aelodau i Lwfans Cymorth i Bleidiau
Gwleidyddol.
Cylch
gorchwyl
Bydd y Bwrdd yn adolygu tystiolaeth bresennol a
thystiolaeth newydd sy'n ymwneud â'r lwfans staffio a ddarperir i Aelodau, i
sicrhau bod y gefnogaeth ariannol sydd ar gael yn cefnogi pwrpas strategol y
Cynulliad ac yn hwyluso gwaith yr Aelodau ynghyd â sicrhau bod y system
cefnogaeth ariannol i Aelodau yn gadarn, clir, tryloyw, cynaliadwy ac yn
cynrychioli gwerth am arian i'r trethdalwr.
Bydd yr adolygiad yn ystyried:
- digonolrwydd lefel y gefnogaeth a roddir i Aelodau;
- pa mor hyblyg yw'r system gymorth gyfredol ar gyfer Aelodau, ac i ba
raddau y'i gweithredir; ac
- addasrwydd telerau ac amodau cyfredol y Staff Cymorth.
Darparu
tystiolaeth ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith
swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Bwrdd yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
gan y Bwrdd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddant yn cael eu cyhoeddi
yn yr iaith a gyflwynwyd, a byddwn yn nodi eu bod wedi dod i law yn yr iaith
honno'n unig.
Mae'r Bwrdd yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu
safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau
statudol.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried sut y bydd y Bwrdd
yn defnyddio eich gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Bwrdd. Mae'r wybodaeth hon wedi'i nodi yn yr atodiad
i'r llythyr ymgynghori.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwybodaeth yw dydd Gwener
20 Gorffennaf 2018. Mae'n bosibl na fydd modd inni ystyried unrhyw ymateb sy'n
dod i law ar ôl y dyddiad hwn.
Dogfennau ategol
- Llythyr ymgynghori PDF 318 KB Gweld fel HTML (1) 77 KB
- Atodiad i'r Ymgynghoriad PDF 145 KB Gweld fel HTML (2) 64 KB
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Bwrdd Taliadau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: Taliadau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565