Ymgynghoriad
Ymgynghoriad ar y Bil Diddymu Mawr a'i oblygiadau i Gymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mawrth, 11 Ebrill 2017 a Dydd Llun, 15 Mai 2017
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- EAAL(5) GRB 01 Finance Wales PDF 39 KB Gweld fel HTML (1) 4 KB
- EAAL(5) GRB 02 Chartered Institute for Archaeologists PDF 142 KB Gweld fel HTML (2) 27 KB
- EAAL(5) GRB 03 The Learned Society of Wales PDF 33 KB Gweld fel HTML (3) 11 KB
- EAAL(5) GRB 04 Cytûn PDF 90 KB Gweld fel HTML (4) 31 KB
- EAAL(5) GRB 05 Geldards PDF 210 KB Gweld fel HTML (5) 45 KB
- EAAL(5) GRB 06 Involve PDF 60 KB Gweld fel HTML (6) 18 KB
- EAAL(5) GRB 07 Royal Town Planning Institute PDF 124 KB Gweld fel HTML (7) 44 KB
- EAAL(5) GRB 08 Wales Council for Voluntary Action PDF 52 KB Gweld fel HTML (8) 14 KB
- EAAL(5) GRB 09 Wales Environment Link PDF 243 KB Gweld fel HTML (9) 55 KB
- EAAL(5) GRB 10 Welsh Local Government Association PDF 69 KB Gweld fel HTML (10) 17 KB
- EAAL(5) GRB 11 The Law Society PDF 194 KB Gweld fel HTML (11) 20 KB
- EAAL(5) GRB 12 The Equality and Human Rights Commission PDF 27 KB Gweld fel HTML (12) 5 KB
- EAAL(5) GRB 13 Wales Governance Centre, Cardiff University PDF 90 KB Gweld fel HTML (13) 31 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd
yr ymgynghoriad rhwng 11 Ebrill 2017 a 15 Mai 2017.
Ymgynghoriad ar y Bil
Diddymu Mawr a'i oblygiadau i Gymru – cwestiynau
1. Y Bil Diddymu Mawr a'r
dull deddfwriaethol ehangach o ran Brexit
1.1 Beth yw eich barn chi ar
agwedd Llywodraeth y DU at ddeddfu ar gyfer Brexit a'r goblygiadau y gallai hyn
ei gael ar Gymru, datganoli a'r cydbwysedd o ran pwerau rhwng y Cynulliad a
Gweinidogion Cymru?
2. Caniatau pwerau
dirprwyedig
Mae paragraff
4.6 y Papur Gwyn yn nodi:
“Legislation that is within the competence of the
devolved legislatures or ministers giving effect to EU law will also need to be
amended as we leave the EU. We therefore propose that the Bill also gives the
devolved ministers a power to amend devolved legislation to correct law that
will no longer operate appropriately, in line with the power we propose should
be held by UK ministers.”
Mae'r pŵer i roi pwerau dirprwyedig i
Weinidogion y DU yn gorwedd gyda'r Senedd. Mewn meysydd sydd wedi'u datganoli,
y Cynulliad sy'n dal y pŵer i roi pwerau dirprwyedig i Weinidogion Cymru,
er gall y Senedd hefyd roi'r pwerau hyn i Weinidogion Cymru.
2.1 Sut y gellid sicrhau wrth
ddrafftio'r Bil Diddymu Mawr bod gan y Cynulliad ddigon o oruchwyliaeth dros
bwerau sydd wedi eu dirprwyo i Weinidogion Cymru?
3. Craffu a rheoli pwerau
dirprwyedig
Mae'r Papur Gwyn yn nodi amrywiaeth o gyfyngiadau
sydd i'w gosod ar y pwerau dirprwyedig a roddir i Weinidogion y DU a, thrwy
estyniad, Gweinidogion Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys cyfyngu ar y pwerau fel
nad ydynt ar gael i'r Llywodraeth ar gyfer gwneud newidiadau polisi a chyfyngu
amser y pwerau (gweler
paragraffau 3.16 i 3.25).
3.1 A yw'r cyfyngiadau
arfaethedig yn y Papur Gwyn yn ddigonol?
Mae'r Papur Gwyn yn cydnabod y bydd angen i'r
Senedd fod yn fodlon bod y gweithdrefnau yn y Bil ar gyfer gwneud a chymeradwyo
deddfwriaeth eilaidd yn briodol.
3.2 A ddylai'r Cynulliad fod
yn rhydd i benderfynu ar y gweithdrefnau ar gyfer gwneud a chymeradwyo
deddfwriaeth eilaidd lle mae pwerau wedi'u dirprwyo i Weinidogion Cymru?
3.3 Os felly, sut y gall hyn
gael ei adlewyrchu wrth ddrafftio'r Bil Diddymu Mawr?
3.4 Os ydy'r Cynulliad yn
rhydd i benderfynu ar y gweithdrefnau ar gyfer gwneud a chymeradwyo
deddfwriaeth eilaidd lle mae pwerau wedi'u dirprwyo i Weinidogion Cymru, pa
weithdrefnau y dylid eu hystyried?
Mae Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi wedi
awgrymu y gallai'r Senedd sefydlu mecanwaith didoli o fewn y Senedd sy'n
ystyried a yw darn penodol o ddeddfwriaeth ddirprwyedig yn cynnwys
penderfyniadau polisi a ddylai sbarduno ffordd well o graffu seneddol (gweler Pennod
3).
3.4 A ddylai'r Cynulliad
ystyried mecanwaith didoli tebyg ar gyfer ystyried deddfwriaeth ddirprwyedig a
gyflwynwyd o dan y Bil Diddymu Mawr?
3.5 Sut y gallai system o'r
fath weithio yn ymarferol?
3.6 Pa ddarpariaeth, os
unrhyw, y dylid ei wneud ar gyfer hyn yn y Bil Diddymu Mawr?
Mae Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi wedi
awgrymu y dylai Gweinidogion roi gwybodaeth benodol yn y Memoranda Esboniadol
sy'n cyd-fynd ag offerynnau statudol i gynorthwyo â'r broses craffu (gweler Pennod
3).
3.7 Pa wybodaeth ddylai fod yn
ofynnol i Weinidogion Cymru gynnwys yn y memoranda esboniadol sy'n cyd-fynd ag
offerynnau statudol a gyflwynwyd o dan y Bil Diddymu Mawr i ddangos bod y
ddeddfwriaeth yn bodloni unrhyw gyfyngiadau ar bwerau?
3.8 A ddylai'r Cynulliad osod
y gofynion hyn yn ei Reolau Sefydlog ei hun?
3.9 Os felly, sut y
gallai/dylai hyn gael ei adlewyrchu wrth ddrafftio'r Bil Diddymu Mawr?
4. Ymgysylltu â
rhanddeiliaid
4.1 Sut y gall y Cynulliad
sicrhau bod gan bobl Cymru, rhanddeiliaid a sefydliadau ddigon o gyfle i
gyfrannu at y prosesau deddfwriaethol y mae'r Bil yn eu sefydlu?
Rydym yn falch o dderbyn unrhyw sylwadau eraill
sydd gennych ar y dull deddfu o ran Brexit, rôl y Cynulliad a rôl Gweinidogion
Cymru yn y broses.