Ymgynghoriad
Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 31 Mai 2012 a Dydd Gwener, 29 Mehefin 2012
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Sefydlwyd grŵp gorchwyl gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
er mwyn gynnal ymchwiliad i’r diwygiadau arfaethedig i’r Polisi Amaethyddol
Cyffredin. Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd:
- asesu effaith bosibl cynigion Comisiwn Ewrop ar gyfer
diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yng Nghymru, yn cynnwys
goblygiadau’r Polisi ar gyfer polisïau perthnasol Llywodraeth Cymru;
- ystyried pa ganlyniadau fyddai fwyaf buddiol i Gymru;
- gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar yr hyn y
dylai eu blaenoriaethu yn ei thrafodaethau ar y broses ddiwygio;
- gweithredu fel fforwm i randdeiliaid yng Nghymru i
ymgysylltu â’r drafodaeth ar ddyfodol y polisi;
- er mwyn dylanwadu ar y drafodaeth ehangach ar
Ddiwygio’r PAC, bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ceisio
rhannu ei gasgliadau â chyrff seneddol y DU, y Comisiwn Ewropeaidd a
Senedd Ewrop ynghyd â chyrff Ewropeaidd perthnasol eraill fel Pwyllgor y
Rhanbarthau.
Ystyriodd y Grŵp:
- yr hyn y gallai cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ei
olygu i Gymru?
- yr hyn ddylai fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru
wrth gynnal trafodaethau ar Ddiwygio’r PAC er mwyn sicrhau’r canlyniad
gorau i Gymru?
- sut y gall Cymru sicrhau bod ei barn yn llywio’r
broses drafod?
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Marc Wyn Jones