Ymgynghoriad
Ymgynghoriad ar Fil yr Undebau Llafur (Cymru)
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mawrth, 17 Ionawr 2017 a Dydd Gwener, 17 Chwefror 2017
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- TUB 01 - Y Coleg Nyrsio Brenhinol (Saesneg yn unig) PDF 991 KB
- TUB 01a -Y Coleg Nyrsio Brenhinol (Gwybodaeth ychwanegol) (Saesneg yn unig) PDF 192 KB
- TUB 02 - Undeb y Gweithwyr Cymdeithasol (Saesneg yn unig) PDF 294 KB Gweld fel HTML (4) 13 KB
- TUB 03 - TUC Cymru (Saesneg yn unig) PDF 2 MB
- TUB 04 - Cymdeithas Feddygol Prydain (Saesneg yn unig) PDF 306 KB Gweld fel HTML (6) 21 KB
- TUB 05 - Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru (Saesneg yn unig) PDF 239 KB Gweld fel HTML (7) 128 KB
- TUB 06 - GMB (Saesneg yn unig) PDF 228 KB Gweld fel HTML (8) 31 KB
- TUB 07 - Cyngor Sir y Fflint (Saesneg yn unig) PDF 231 KB
- TUB 07a - Cyngor Sir y Fflint (Gwybodaeth ychwanegol) (Saesneg yn unig) PDF 775 KB
- TUB 08 - Conffederasiwn GIG Cymru a chyflogwyr GIG Cymru (Saesneg yn unig) PDF 318 KB Gweld fel HTML (11) 32 KB
- TUB 08a - Conffederasiwn GIG Cymru a Chyflogwyr GIG Cymru (Gwybodaeth ychwanegol) (Saesneg yn unig) PDF 184 KB Gweld fel HTML (12) 18 KB
- TUB 09 - ATL Cymru (Saesneg yn unig) PDF 219 KB Gweld fel HTML (13) 14 KB
- TUB 10 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 245 KB Gweld fel HTML (14) 32 KB
- TUB 11 - Cymdeithas y Radiograffwyr (Saesneg yn unig) PDF 237 KB Gweld fel HTML (15) 32 KB
- TUB 12 - Cyngor Tref Trefynwy (Saesneg yn unig) PDF 191 KB Gweld fel HTML (16) 13 KB
- TUB 13 - Cymdeithas Cyflogwyr Prifysgolion a Cholegau (UCEA) (Saesneg yn unig) PDF 167 KB Gweld fel HTML (17) 15 KB
- TUB 14 - Unison (Saesneg yn unig) PDF 115 KB Gweld fel HTML (18) 24 KB
- TUB 15 - Cymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch Reolwyr Awdurdodau Lleol (Saesneg yn unig) PDF 478 KB
- TUB 16 - Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (Saesneg yn unig) PDF 123 KB Gweld fel HTML (20) 13 KB
- TUB 17 - Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (Cymru) (Saesneg yn unig) PDF 140 KB Gweld fel HTML (21) 18 KB
- TUB 18 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (Saesneg yn unig) PDF 3 MB
- TUB 19 - Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT) (Saesneg yn unig) PDF 97 KB Gweld fel HTML (23) 3 KB
Diben yr ymgynghoriad
Fe gynhaliodd y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ymchwiliad i egwyddorion
cyffredinol Bil
yr Undebau Llafur (Cymru). Mae rhagor o fanylion am y Bil a’r Memorandwm
Esboniadol cysylltiedig ar gael ar dudalen y Bil ar y wefan.
Cylch
gorchwyl
Dyma gylch gorchwyl y Pwyllgor ar gyfer ei ymchwiliad:
Ystyried -
- egwyddorion cyffredinol Bil yr Undebau Llafur (Cymru)
a'r angen am ddeddfwriaeth i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu
darparu'n barhaus ac yn effeithiol trwy ddatgymhwyso rhai o ddarpariaethau
Deddf Llywodraeth y DU, Deddf Undebau Llafur 2016, fel y maent yn gymwys i
awdurdodau datganoledig Cymru. Dyma'r darpariaethau sydd i gael eu
datgymhwyso:
- y trothwy pleidleisio o 40 y cant ar gyfer
gweithredu diwydiannol sy'n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus pwysig.
- pwerau i'w gwneud yn ofynnol cyhoeddi
gwybodaeth am amser cyfleuster ynghyd â gosod gofynion ar gyflogwyr yn y
sector cyhoeddus mewn cysylltiad â thalu am amser cyfleuster, a
- chyfyngiadau ar gyflogwyr mewn cysylltiad â
didynnu taliad tanysgrifiadau undeb o gyflogau;
- unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi darpariaethau'r Bil
ar waith, ac a yw’r Bil yn eu hystyried;
- a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r
Bil; a
- goblygiadau ariannol y Bil (fel y'u nodir yn Rhan 2
o’r Memorandwm Esboniadol).
Canllawiau
Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen
A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y cylch
gorchwyl. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl
eich sefydliad. Gweler y canllawiau i rai sy’n darparu tystiolaeth ar gyfer
pwyllgorau.
Polisi
dwyieithrwydd
Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu'r
llall o'n hieithoedd swyddogol, Cymraeg a Saesneg, neu'r ddwy. Os na chyflwynir
gwybodaeth yn ddwyieithog, ni fydd yn cael ei chyfieithu, a chaiff ei chyhoeddi
yn yr iaith y cafodd ei chyflwyno ynddi yn unig. Disgwyliwn i sefydliadau
weithredu eu safonau a'u cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u
rhwymedigaethau statudol.
Datgelu
gwybodaeth
Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich
gwybodaeth yn www.cynulliad.cymru/PrifatrwyddYmchwiliadau.
Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn
cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCymunedau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565