Ymgynghoriad
Gofal sylfaenol
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 2 Rhagfyr 2016 a Dydd Gwener, 3 Chwefror 2017
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- PC 01 Meddygfa Morfa Lane (Saesneg yn unig) PDF 256 KB Gweld fel HTML (1) 14 KB
- PC 02 Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (Saesneg yn unig) PDF 115 KB Gweld fel HTML (2) 20 KB
- PC 03 Nigel Watkins (Saesneg yn unig) PDF 98 KB Gweld fel HTML (3) 4 KB
- PC 04 Clwstwr Meddyg Teulu De-orllewin Caerdydd (Saesneg yn unig) PDF 109 KB Gweld fel HTML (4) 11 KB
- PC 05 Meddygfa Emlyn (Saesneg yn unig) PDF 202 KB Gweld fel HTML (5) 6 KB
- PC 06 Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (Saesneg yn unig) PDF 121 KB Gweld fel HTML (6) 36 KB
- PC 06a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (Saesneg yn unig) PDF 3 MB
- PC 07 Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (Saesneg yn unig) PDF 898 KB Gweld fel HTML (8) 166 KB
- PC 07 Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Atodiad 2-7 (Saesneg yn unig) PDF 2 MB
- PC 07a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (Saesneg yn unig) PDF 517 KB
- PC 08 Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (Saesneg yn unig) PDF 191 KB Gweld fel HTML (11) 42 KB
- PC 09 Fferylliaeth Gymunedol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 276 KB
- PC 10 Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 480 KB
- PC 10a Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru PDF 304 KB
- PC 11 Optometreg Cymru (Saesneg yn unig) PDF 306 KB
- PC 12 Coleg Brenhinol y Meddygon (Cymru) (Saesneg yn unig) PDF 912 KB
- PC 13 Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (Saesneg yn unig) PDF 598 KB
- PC 14 Bwrdd Iechyd Addysgu Powys PDF 452 KB Gweld fel HTML (18) 65 KB
- PC 14a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (Saesneg yn unig) PDF 107 KB Gweld fel HTML (19) 11 KB
- PC 15 Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith (Saesneg yn unig) PDF 343 KB Gweld fel HTML (20) 31 KB
- PC 16 Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol (Saesneg yn unig) PDF 287 KB Gweld fel HTML (21) 48 KB
- PC 17 Pwyllgor Meddygol Lleol Bro Taf (Saesneg yn unig) PDF 259 KB Gweld fel HTML (22) 10 KB
- PC 18 Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (Saesneg yn unig) PDF 241 KB Gweld fel HTML (23) 41 KB
- PC 19 Company Chemists' Association Limited (Saesneg yn unig) PDF 420 KB Gweld fel HTML (24) 30 KB
- PC 20 Iechyd Cyhoeddus Cymru PDF 190 KB Gweld fel HTML (25) 31 KB
- PC 21 Cyfarwyddwyr Iechyd Sylfaenol, Iechyd Cymunedol a Iechyd Meddwl PDF 233 KB Gweld fel HTML (26) 49 KB
- PC 22 Coleg Brenhinol y Seicatryddion (Saesneg yn unig) PDF 295 KB
- PC 23 Cymorth Cymru (Saesneg yn unig) PDF 310 KB
- PC 24 Conffederasiwn GIG Cymru (Saesneg yn unig) PDF 304 KB Gweld fel HTML (29) 65 KB
- PC 25 Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Saesneg yn unig) PDF 223 KB Gweld fel HTML (30) 50 KB
- PC 26 Cymorth Canser Macmillan (Saesneg yn unig) PDF 320 KB Gweld fel HTML (31) 56 KB
- PC 27 Cyngor Gofal Cymru (Saesneg yn unig) PDF 209 KB Gweld fel HTML (32) 14 KB
- PC 28 Cymdeithas Fferyllol Frenhinol (Saesneg yn unig) PDF 106 KB Gweld fel HTML (33) 25 KB
- PC 29 Ymchwiliad Dderylliaeth Cymru (Saesneg yn unig) PDF 35 KB Gweld fel HTML (34) 10 KB
- PC 30 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr PDF 4 MB
- PC 30a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (Saesneg yn unig) PDF 2 MB
- PC 31 National Community Hearing Association (Saesneg yn unig) PDF 320 KB Gweld fel HTML (37) 39 KB
- PC 32 Rhwydwaith Canser Cymru (Saesneg yn unig) PDF 144 KB Gweld fel HTML (38) 16 KB
- PC 33 Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (Saesneg yn unig) PDF 207 KB Gweld fel HTML (39) 52 KB
- PC 33a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (Saeneg yn unig) PDF 468 KB
- PC 34 Grŵp Cynghori Arweiniol Deietig Cymru (Saesneg yn unig) PDF 441 KB Gweld fel HTML (41) 82 KB
- PC 34 Grŵp Cynghori Arweiniol Deietig Cymru Atodiad 1,5,6 a 7 (Saesneg yn unig) PDF 2 MB
- PC 35 Cymdeithas Ddeieteg Prydain (Saesneg yn unig) PDF 188 KB Gweld fel HTML (43) 4 KB
- PC 36 Mind Cymru (Saesneg yn unig) PDF 208 KB Gweld fel HTML (44) 17 KB
- PC 37 Sefydliad Bevan (Saesneg yn unig) PDF 297 KB Gweld fel HTML (45) 15 KB
- PC 38 Pwyllgor Deintyddol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 181 KB Gweld fel HTML (46) 15 KB
- PC 39 Coleg Brenhinol Pediatreg a Iechyd Plant (Saesneg yn unig) PDF 243 KB Gweld fel HTML (47) 30 KB
- PC 40 Dr Karen Pardy (Saesneg yn unig) PDF 119 KB Gweld fel HTML (48) 17 KB
- PC 41 BMA Cymru Wales (Saesneg yn unig) PDF 682 KB
- PC 42 Arweinydd Clwstwr Gogledd Caerdydd (Saesneg yn unig) PDF 136 KB Gweld fel HTML (50) 22 KB
- PC 43 Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (Saesneg yn unig) PDF 180 KB Gweld fel HTML (51) 50 KB
- PC 43a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (Saesneg yn unig) PDF 2 MB
- PC 44 Dr Kay Saunders (Saesneg yn unig) PDF 218 KB Gweld fel HTML (53) 27 KB
- PC 44 Dr Kay Saunders Atodiad (Saesneg yn unig) PDF 155 KB
- PC 45 Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf (Saesneg yn unig) PDF 415 KB Gweld fel HTML (55) 34 KB
- PC 45a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf (Saesneg yn unig) PDF 808 KB
- PC 46 Coleg Brenhinol Meddygon Teulu (Saesneg yn unig) PDF 329 KB
- PC 47 Pen Y Bont Health PDF 348 KB Gweld fel HTML (58) 25 KB
Diben yr ymgynghoriad
Croesawodd y Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon eich barn ar unrhyw un o'r
pwyntiau canlynol neu bob un ohonynt:
- Sut y gall rhwydweithiau clwstwr meddygon
teulu yng Nghymru helpu i leihau'r galw ar feddygon teulu ac i ba raddau y
gall clystyrau ddarparu llwybr mwy hygyrch at ofal (gan gynnwys cymorth iechyd meddwl ym maes gofal
sylfaenol).
- Y tîm amlddisgyblaethol sy'n dod i'r amlwg (sut y mae’r
gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal yn perthyn i'r model
clystyrau newydd a sut y gellir mesur eu cyfraniad).
- Yr heriau sy’n wynebu’r gweithlu presennol a’r
gweithlu yn y dyfodol.
- Y cyllid sy’n cael ei ddyrannu’n uniongyrchol i
glystyrau er mwyn galluogi practisau meddygon teulu i roi cynnig ar ffyrdd
newydd o weithio; sut y mae arian yn cael ei ddefnyddio i leihau'r pwysau
ar bractisau meddygon teulu, gwella gwasanaethau a’r mynediad sydd ar gael
i gleifion.
- Heriau o ran llwyth gwaith a’r newid i atal sylfaenol
yn y gwasanaethau a ddarperir gan feddygon teulu i wella canlyniadau
iechyd y boblogaeth a thargedu anghydraddoldebau o ran iechyd.
- Aeddfedrwydd clystyrau a’r cynnydd gyda gwaith
clystyrau mewn gwahanol Fyrddau Iechyd Lleol, gan nodi enghreifftiau o
arfer gorau.
- Arweiniad lleol a chenedlaethol yn cefnogi datblygiad
y rhwydwaith clwstwr; sut y mae'r camau a gymerir yn ategu’r rheini yng
ngweledigaeth 2010 a chynllun gofal sylfaenol Llywodraeth Cymru, Gosod
y Cyfeiriad .
- Mwy o fanylion am yr agweddau sy’n cael eu gwerthuso,
y cymorth sy’n cael ei ddarparu’n ganolog a'r meini prawf sydd ar waith i
bennu llwyddiant neu fethiant y clystyrau, gan gynnwys sut mae mewnbwn gan
gymunedau lleol yn cael ei ymgorffori yn y gwaith datblygu a phrofi sy'n
cael ei wneud.
Canllawiau
Ni ddylai’r
dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a
dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion uchod. Gweler y canllawiau
ar gyfer y rhai sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau.
Y dyddiad cau ar
gyfer ymatebion yw 3 Chwefror 2017.
Anfonwch eich sylwadau at: SeneddIechyd@cynulliad.cymru
Polisi dwyieithog
Mae’r Pwyllgor yn
croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â
pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, pan fydd
hynny’n berthnasol, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.
Datgelu gwybodaeth
Mae rhagor o
fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliad.cymru/PrifatrwyddYmchwiliadau.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus
cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565