Ymgynghoriad
Ymchwiliad i Horizon 2020
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 22 Mawrth 2012 a Dydd Llun, 23 Ebrill 2012
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor Menter a Busnes wedi yn
cynnal ymchwiliad byr i gynigion Horizon 2020, a gyhoeddwyd gan y Comisiwn
Ewropeaidd ym mis Tachwedd 2011.
Roedd y Pwyllgor wedi
ystyried y cysylltiadau posibl rhwng Horizon 2020 a’r cynigion a wnaed ar gyfer
Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd, yn benodol o ran creu synergeddau
gyda’r nod o wella perfformiad cyffredinol prifysgolion a busnesau Cymru mewn
perthynas â rhaglenni ymchwil yr UE.
Roedd cylch gorchwyl yr
ymchwiliad fel a ganlyn:
- asesu effeithiau posibl cynigion deddfwriaethol drafft y Comisiwn
Ewropeaidd ar gyfer Horizon 2020 yn y dyfodol ar Gymru, boed yn rhai
cadarnhaol neu’n rhai negyddol;
- gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch yr hyn y dylai
Llywodraeth Cymru ei flaenoriaethu wrth geisio dylanwadu ar safbwynt
Llywodraeth y DU yng Nghyngor y Gweinidogion, a bwydo’r argymhellion hyn i
mewn i’r trafodaethau sy’n cael eu cynnal ym Mrwsel (gan gynnwys y
trafodaethau yn Senedd Ewrop);
- asesu’r cyfleoedd sydd ar gael i greu synergeddau rhwng Horizon 2020
a Chronfeydd Strwythurol yr UE yng Nghymru yn y dyfodol, gyda’r nod o
wella cyfranogiad Cymru yn Horizon 2020.
- ystyried sut y mae strategaeth gwyddoniaeth Cymru, a pholisïau
eraill Llywodraeth Cymru sy’n berthnasol i’r mater dan sylw, yn ceisio
cynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i sefydliadau yng Nghymru i elwa ar
gyllid ymchwil ac arloesi’r UE yn y dyfodol.
Linc i’r cynigion:
http://ec.europa.eu/research/horizon2020/index_en.cfm
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Siân Phipps - Committees
Y Pwyllgor Menter a Busnes
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA