Ymgynghoriad

Ymchwiliad i Botensial yr Economi Forol yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i ddatblygu potensial yr economi forwrol.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am farn ynghylch:

 

  • Dull Llywodraeth Cymru o weithredu ynghylch datblygu potensial yr economi forol;
  • Sut y mae ffynonellau cyllid yr UE yn cael eu defnyddio i gefnogi datblygiad yr economi forol;
  • Sut y mae Cymru'n ymgysylltu â mentrau ar lefel yr UE, fel Ocean Energy Europe a Fforwm Ynni'r Cefnforoedd;
  • Effeithiolrwydd porthladdoedd Cymru a chysylltiadau trafnidiaeth â’r gefnwlad o ran hyrwyddo cysylltedd ag Iwerddon a gweddill Cymru;
  • Y modd y mae'r Ardaloedd Menter yn hyrwyddo'r porthladdoedd a busnesau cysylltiedig;
  • Sut y mae porthladdoedd Cymru, gweithredwyr fferi a busnesau cysylltiedig yn gallu elwa ar y broses o ddatblygu'r economi forol, gan gynnwys ynni'r môr, a chefnogi'r broses honno;
  • Pa gefnogaeth, os o gwbl, y dylid eu darparu er mwyn sicrhau bod y manteision yn cael eu gwireddu yn y modd mwyaf effeithiol;
  • Goblygiadau'r cyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi, sy'n cynnig datganoli cyfrifoldeb dros bolisi porthladdoedd i Gymru, a sut y gall hyn gefnogi cysylltedd a'r broses o ddatblygu'r economi forol;
  • Sut y gall Cymru fanteisio ar bwysigrwydd strategol mentrau arfaethedig fel y prosiectau môr-lyn llanw yng ngorllewin Cymru a'r Rhaglen Ynys Ynni Môn.
  • Byddem yn ddiolchgar pe gallech gysylltu â ni, gan roi eich barn ar y prif rwystrau a'r risgiau sy'n bodoli o ran datblygu ynni'r môr a sut y gall Gymru oresgyn y rhain.

 

Datgelu gwybodaeth

 

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliad.cymru/cy/help/privacy/Pages/help-inquiry-privacy.aspx. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.