Ymgynghoriad

Ymchwiliad i Gyfranogiad yn y Celfyddydau

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i Gyfranogiad yn y Celfyddydau. Mae’r Pwyllgor wedi clywed pryderon gan nifer o sefydliadau y gallai toriadau mewn cyllidebau yn y sector celfyddydau gael effaith negyddol ar gyfranogiad yn y celfyddydau ymysg rhai grwpiau o bobl. Felly, mae’r Pwyllgor wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i gynnal ymchwiliad byr i’r mater hwn. Bydd y Pwyllgor yn:

 

  • asesu effaith toriadau mewn cyllidebau ar gyfranogiad yn y celfyddydau yng Nghymru, yn arbennig a yw hyn wedi effeithio mwy ar rai grwpiau o bobl nag eraill;
  • canfod bylchau yn y ddarpariaeth ar gyfer cyfranogiad yn y celfyddydau, o ran demograffeg a daearyddiaeth;
  • ystyried rôl y sector celfyddydau gwirfoddol o ran cyfranogiad yn y celfyddydau ac edrych ar ffynonellau ariannu eraill;
  • gwerthuso’r fframwaith polisi rhwng Llywodraeth Cymru a’r cyrff sy’n dosbarthu arian i’r celfyddydau; ac
  • ystyried a oes gan fudiadau celfyddydol yng Nghymru y modd o ddarparu amcanion cydraddoldeb eu harianwyr.

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Sarah Bartlett