Ymchwiliad i Gyfranogiad yn y Celfyddydau

Ymchwiliad i Gyfranogiad yn y Celfyddydau

Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal ymchwiliad i Gyfranogiad yn y Celfyddydau. Mae’r Pwyllgor wedi clywed pryderon gan nifer o sefydliadau y gallai toriadau mewn cyllidebau yn y sector celfyddydau gael effaith negyddol ar gyfranogiad yn y celfyddydau ymysg rhai grwpiau o bobl. Felly, sefydliodd y Pwyllgor Grŵp Gorchwyl a Gorffen i gynnal ymchwiliad byr i’r mater hwn.

 

Y cylch gorchwyl oedd:

 

  • asesu effaith toriadau mewn cyllidebau ar gyfranogiad yn y celfyddydau yng Nghymru, yn arbennig a yw hyn wedi effeithio mwy ar rai grwpiau o bobl nag eraill;
  • canfod bylchau yn y ddarpariaeth ar gyfer cyfranogiad yn y celfyddydau, o ran demograffeg a daearyddiaeth;
  • ystyried rôl y sector celfyddydau gwirfoddol o ran cyfranogiad yn y celfyddydau ac edrych ar ffynonellau ariannu eraill;
  • gwerthuso’r fframwaith polisi rhwng Llywodraeth Cymru a’r cyrff sy’n dosbarthu arian i’r celfyddydau; ac
  • ystyried a oes gan fudiadau celfyddydol yng Nghymru y modd o ddarparu amcanion cydraddoldeb eu harianwyr.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/04/2013

Y Broses Ymgynghori

Daeth yr ymgynghoriad cyhoeddus i ben ar Ddydd Gwener 9 Mawrth.

 

Dogfennau

Ymgynghoriadau