Gwella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl
Gwella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 23 Gorffennaf 2025 a Dydd Gwener, 19 Medi 2025
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- UC01 - Ceri Higgins (Saesneg yn unig)
PDF 102 KB Gweld fel HTML (1) 18 KB - UC03 - Parkinsons's UK Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 233 KB Gweld fel HTML (2) 36 KB - UC04 - Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)
PDF 688 KB Gweld fel HTML (3) 27 KB - UC05 - Cyngor Caerdydd (Saesneg yn unig)
PDF 513 KB Gweld fel HTML (4) 118 KB - UC06 - Dr Rhian G Lloyd ac Dr Myfanwy Davies : Prifysgol Bangor
PDF 271 KB - UC07 - Diane Seddon;Darllenydd mewn Gofal Cymdeithasol / Cyfarwyddwr Ysgol Ymchwil y Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor (Saesneg yn unig)
PDF 110 KB Gweld fel HTML (6) 11 KB - UC08 - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
PDF 326 KB - UC09 - Ty Hafan (Saesneg yn unig)
PDF 318 KB - UC10 - Coleg Brenhinol Seiciatryddion Cymru (RCPsych Cymru) (Saesneg yn unig)
PDF 1 MB - UC11 - Rhaglen Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd (Saesneg yn unig)
PDF 115 KB - UC12 - Marie Curie (Saesneg yn unig)
PDF 572 KB - UC13 - Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil (CDGD Cymru) (Saesneg yn unig)
PDF 404 KB Gweld fel HTML (12) 34 KB - UC14 - Cronfa Teulu - helpu plant anabl (Saesneg yn unig)
PDF 199 KB - UC15 - Cymdeithas Alzheimer (Saesneg yn unig)
PDF 1 MB - UC16 - Fforwm Rhieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu Cymru Gyfan (Saesneg yn unig)
PDF 207 KB Gweld fel HTML (15) 24 KB - UC17 - Unigolyn
PDF 103 KB - UC18 - Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 418 KB - UC19 - Ombwdsmon
PDF 199 KB - UC20 - Barnardo's Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 190 KB - UC21 - Motor Neurone Disease (MND) Association (Saesneg yn unig)
PDF 328 KB Gweld fel HTML (20) 38 KB - UC22 - Age Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 294 KB - UC23 - Ruth Cann: Consultant Nurse for Older Vulnerable Adults (Saesneg yn unig)
PDF 195 KB - UC24 - Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro (Saesneg yn unig)
PDF 366 KB Gweld fel HTML (23) 28 KB - UC25 - National Autistic Society Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 196 KB - UC26 - Adferiad (Saesneg yn unig)
PDF 274 KB - UC27 - Gyngor Bwrdeisdref Sirol Torfaen (Saesneg yn unig)
PDF 461 KB Gweld fel HTML (26) 39 KB - UC28 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLLC)
PDF 238 KB - UC29 - Plant Yng Nghymru (Saesneg yn unig)
PDF 215 KB - UC30 - Young Lives vs Cancer (Saesneg yn unig)
PDF 490 KB Gweld fel HTML (29) 37 KB - UC31 - Carers Wales (Saesneg yn unig)
PDF 369 KB - UC32 - Conffederasiwn GIG Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 263 KB - UC33 - Centre for Care, University of Sheffield (Saesneg yn unig)
PDF 810 KB - UC34 - Cyngor Dinas Casnewydd (Saesneg yn unig)
PDF 703 KB Gweld fel HTML (33) 41 KB - UC35 - Llais
PDF 333 KB - UC36 - Dr Josie Henley and Dr Edith England: Researchers & Lecturers in Social Policy (Saesneg yn unig)
PDF 446 KB Gweld fel HTML (35) 27 KB - UC37 - Susan M Rendell (Saesneg yn unig)
PDF 110 KB Gweld fel HTML (36) 24 KB - UC38 - Action for Children in Wales (Saesneg yn unig)
PDF 331 KB - UC39 - Health and Wellbeing Alliance subgroup on Social Care (Saesneg yn unig)
PDF 409 KB Gweld fel HTML (38) 66 KB - UC40 - ADSS Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 161 KB - UC41 - Mencap Cymru ( Saesneg yn unig)
PDF 313 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
yn cynnal ymchwiliad i wella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl.
Nod yr ymchwiliad
fydd archwilio’r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau gofal seibiant i ofalwyr
di-dâl ledled Cymru, a’r mynediad atynt, a nodi newidiadau i wella’r gefnogaeth
statudol, a galluogi gofalwyr di-dâl i allu byw yn ogystal â gofalu. Mae hyn yn
cynnwys:
>>>>
>>> y
prif rwystrau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu wrth gael gafael ar y
gefnogaeth sydd ei hangen arnynt; gan gynnwys unrhyw heriau penodol i ofalwyr
yn seiliedig ar ffactorau fel oedran, ethnigrwydd neu ble maen nhw'n byw;
>>> y
graddau y mae gofal seibiant ar gael ledled Cymru ar hyn o bryd, gan gynnwys
faint o amrywiad sydd ar draws y rhanbarthau;
>>> i ba
raddau y mae'r galw am wasanaethau cymorth i ofalwyr yn cael ei asesu ac yn
cael sylw, a, beth yw lefel yr anghenion sydd heb eu diwallu ar hyn o bryd;
>>> rôl
Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol wrth ddarparu cefnogaeth i ofalwyr di-dâl, ac
effeithiolrwydd arferion comisiynu gwasanaethau ar hyn o bryd;
>>> y
camau gweithredu sydd eu hangen i wella gweithrediad darpariaethau Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar gyfer gofalwyr di-dâl (gan
gynnwys Asesiadau Gofalwyr a chynlluniau cymorth).
<<<
Casglu
tystiolaeth
Rydym am sicrhau
bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n
adlewyrchu teimladau’r amrywiaeth o bobl a chymunedau y mae'r materion hyn yn
effeithio arnynt.
Rydym yn annog
unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i roi eu safbwyntiau,
gan wybod yn iawn y bydd eu barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.
Sylwer: nid
yw'r Pwyllgor yn ymchwilio i achosion unigol ac ni fydd yn mynd ar drywydd
materion ar ran unigolion.
Y dyddiad cau yw
diwedd dydd 19 Medi 2025.
Ynghyd â'ch
cyflwyniad, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:
>>>>
>>> Eich
enw a’ch manylion cyswllt fel y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r
dystiolaeth.
>>> A yw
eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.
>>> Os
ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd
oed.
>>> Os
ydych o dan 13 mlwydd oed, cytundeb eich rhiant neu warcheidwad y gallwch
gymryd rhan (gellir darparu hyn drwy e-bost).
>>> Cadarnhad
o ran a fyddai'n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr
â'ch tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion o dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).
>>> Cadarnhad
o ran a hoffech i’r pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu
unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gyda rhesymau dros y cais.
>>> Os
ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, er enghraifft rhiant,
priod neu berthynas, cadarnhad eu bod wedi cytuno y gallwch rannu gwybodaeth y
gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.
<<<
Sut i roi eich
barn
I roi eich barn
yn electronig, anfonwch neges e-bost at SeneddIechyd@senedd.cymru, neu drwy'r
post at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Senedd Cymru, Caerdydd, CF99
1SN.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall
o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n
ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol
â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno
ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565