Adolygiad o’r broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Adolygiad o’r broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Busnes yn adolygu prosesau’r Senedd ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod i nodi beth sy’n gweithio’n dda a beth y gellid ei wella.

 

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon yn rhoi rhagor o fanylion am yr hyn y mae'r Pwyllgor yn edrych arno a sut y gallwch rannu eich barn. Mae’r holl wybodaeth hefyd ar gael i’w lawrlwytho fel dogfen Microsoft Word. Mae gwybodaeth am sut i ddefnyddio’r opsiynau hygyrchedd yn y ddogfen Microsoft Word ar gael mewn dogfen esboniadol.

 

Cylch gorchwyl

Cylch gorchwyl yr adolygiad yw:

>>>> 

>>>Archwilio opsiynau ar gyfer gwella gweithrediad ac effeithiolrwydd gwaith y Senedd wrth graffu ar Filiau Cyhoeddus, a gyflwynir yn unol â Rheol Sefydlog 26, drwy adolygu profiadau yn y Chweched Senedd (a Seneddau blaenorol lle y bo’n berthnasol), gan gynnwys y canlynol:

>*>*>*

***Gweithdrefnau, arferion, confensiynau, diwylliant a ffyrdd o weithio perthnasol.

***Y profiad o ddeddfu mewn amgylchedd hybrid.

<*<*<*

>>>Archwilio opsiynau ar gyfer gwella gweithrediad ac effeithiolrwydd proses y Senedd ar gyfer Biliau Aelod, drwy gymryd y camau a ganlyn:

>*>*>*

***Adolygu profiadau yn y Chweched Senedd (a Seneddau blaenorol lle y bo’n berthnasol), gan gynnwys gweithdrefnau, arferion, confensiynau, diwylliant a ffyrdd o weithio perthnasol cyn cyflwyno Bil Aelod (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r ffordd y caiff Aelodau eu dewis ar gyfer y cyfle i gynnig Bil, y broses ar gyfer cael ‘caniatâd i gyflwyno’, a lefel y wybodaeth y mae'n ofynnol i Aelodau ei darparu ar y camau hyn).

***Nodi unrhyw oblygiadau posibl i’r broses ar gyfer Bil Aelod sy’n deillio o’r cynnydd yn nifer Aelodau’r Senedd.

***Nodi materion sy’n ymwneud â’r adnoddau a’r cymorth sydd ar gael i Aelodau yn ystod y broses ar gyfer Bil Aelod a’u codi gyda’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau perthnasol, gan gynnwys Comisiwn y Senedd a Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd.

<*<*<*

<<<
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth i'r ymgynghoriad oedd dydd Gwener 28 Mawrth 2025.

 

Gwybodaeth am y broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus a’r broses ar gyfer Biliau Aelod

 

Un o brif gyfrifoldebau’r Senedd yw deddfu ar gyfer Cymru. Mae’n gwneud hyn drwy ystyried a phasio cyfreithiau arfaethedig. Yr enw ar y cyfreithiau arfaethedig yw Biliau.

 

Mae rheolau ar gyfer y ffordd y mae’r Senedd yn ystyried ac yn pasio Biliau. Mae rhai o'r rheolau wedi’u cynnwys yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 ac eraill wedi eu cytuno gan y Senedd yn ei Rheolau Sefydlog. Mae canllawiau ffurfiol ac anffurfiol hefyd ar gyfer Aelodau, staff a'r cyhoedd, a sefydlwyd ffyrdd o weithio a chonfensiynau y cytunwyd arnynt.

 

Mae’r rhan fwyaf o Filiau’n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru, ond mae’r rheolau hefyd yn caniatáu i Gomisiwn y Senedd, pwyllgorau’r Senedd ac Aelodau unigol gyflwyno Biliau.

 

Cyn cael cyflwyno Biliau, rhaid i Aelodau unigol gael eu dewis mewn un o'r balotau ar gyfer Biliau Aelod y mae’n rhaid i'r Llywydd eu cynnal o bryd i'w gilydd. Bydd gan Aelod sydd wedi’i ddewis mewn balot 25 diwrnod gwaith i gael cytundeb y Senedd i gyflwyno ei Fil arfaethedig. Os bydd y Senedd yn cytuno, yna bydd gan yr Aelod 13 mis i gyflwyno ei Fil.

 

Mae rhagor o wybodaeth am y broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus, y broses ar gyfer Biliau Aelod, a’r meysydd y mae adolygiad y Pwyllgor Busnes yn debygol o ganolbwyntio arnynt ar gael yn y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad. Mae'r wybodaeth hefyd ar gael yn y ddogfen Word hygyrch hon.

 

Sut i roi eich barn

Rydym am sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n adlewyrchu amrywiaeth y bobl a’r cymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio arnynt.

 

Rydym yn annog unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i rannu eich safbwyntiau, gan wybod yn iawn y bydd eich barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.

 

Mae dwy ffordd wahanol o rannu eich barn:

>>>> 

>>>Gallwch chi gwblhau ffurflen ar-lein.

>>>Gallwch e-bostio eich ymateb i SeneddBusnes@senedd.cymru.

<<< 

 

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben 16.00, dydd Gwener 28 Mawrth 2025.

 

Byddem yn eich annog i gadw eich ymateb yn gryno ac i ganolbwyntio ar y pwyntiau allweddol yr hoffech dynnu sylw'r Pwyllgor atynt.

 

Os byddwch yn dewis anfon eich ymateb dros e-bost, rhowch y wybodaeth ganlynol hefyd:

>>>> 

>>>Eich enw a’ch manylion cyswllt fel yr unigolyn neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth.

>>>A yw eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.

>>>Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 oed.

>>>Os ydych o dan 13 oed, cytundeb gan eich rhiant neu eich gwarcheidwad y cewch gymryd rhan (gellir darparu hyn dros e-bost).

>>>Cadarnhad a fyddai'n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).

>>>Cadarnhad o ran a hoffech i’r Pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gyda rhesymau dros y cais.

>>>Os ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, megis rhiant, priod neu berthynas, cadarnhad ei fod wedi cytuno y cewch rannu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i'w adnabod a'i fod yn deall y caiff ei chyhoeddi.

<<< 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pywllgor Busnes
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddBusnes@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565