Llwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16

Llwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymgynghoriad ysgrifenedig ar gyfer ei ymchwiliad i Lwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16.

 

Ewch i dudalen yr ymchwiliad i gael rhagor o wybodaeth a’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad.

 

Cylch Gorchwyl

Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar:

>>>Ansawdd y wybodaeth a roddir i ddysgwyr am yr ystod lawn o opsiynau ôl-16 (llwybrau galwedigaethol ac academaidd ôl-16; hynny yw, addysg bellach, chweched dosbarth, prentisiaethau a hyfforddiant, ac ymlaen at addysg uwch)

>*>*>*

***Ansawdd a natur y wybodaeth a ddarperir i ddysgwyr o fewn ysgolion a'r unigolion sy'n cael eu haddysg heblaw yn yr ysgol.

***Ansawdd a natur y wybodaeth a ddarperir yn uniongyrchol i ddysgwyr gan Gyrfa Cymru.

***I ba raddau y gall colegau addysg bellach ymgysylltu'n uniongyrchol â dysgwyr mewn ysgolion.

***I ba raddau y mae dysgwyr mewn ysgolion yn cael gwybod am yr opsiynau sydd ar gael iddynt yn y chweched dosbarth mewn ysgolion a cholegau addysg bellach lleol, a sut mae ysgolion yn ymgysylltu â cholegau lleol. A oes unrhyw wrthdaro buddiannau rhwng y chweched dosbarth a cholegau addysg bellach ac a yw hyn yn fwy cyffredin mewn rhai ardaloedd o Gymru nag eraill?

***I ba raddau y gall cyflogwyr ymgysylltu'n uniongyrchol â dysgwyr mewn ysgolion, er enghraifft mewn digwyddiadau gyrfaoedd.

***Pwy arall sy'n dylanwadu ar ddewisiadau gyrfa dysgwyr yn y dyfodol (er enghraifft, rhieni, athrawon, cyfoedion), ac i ba raddau y caiff y bobl hynny eu cefnogi i wneud hyn.

<*<*<*

>>>Pa mor effeithiol yw’r cymorth gyrfaoedd a roddir i bobl ifanc oedran ysgol gorfodol

>*>*>*

***I ba raddau y mae cymorth gyrfaoedd cyn-16 yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol neu negyddol ar ôl 16; er enghraifft, pobl ifanc yn canfod nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).

***A yw’r cyfleoedd i ddysgwyr oedran ysgol gorfodol gael profiad gwaith yn weithredol, yn effeithiol ac yn ystyrlon, ac a oes unrhyw rwystrau yn hynny o beth.

<*<*<*

>>>Newidiadau i lwybrau ôl-18

>*>*>*

***A oes tystiolaeth bod dysgwyr yn newid eu dewisiadau ôl-18, gan gynnwys gostyngiad mewn cofrestriadau ar gyfer addysg uwch, ac os felly, pam?

<*<*<*

>>>Darpariaeth cyfrwng Cymraeg

>*>*>*

***Argaeledd opsiynau ôl-16 (academaidd a galwedigaethol) drwy gyfrwng y Gymraeg, a sut mae hyn yn effeithio ar ddewisiadau pobl ifanc.

<*<*<*

>>>Mynediad teg

>*>*>*

***A yw rhai grwpiau o ddysgwyr dan anfantais oherwydd y system bresennol; er enghraifft, disgyblion o aelwydydd incwm isel a disgyblion sydd ag anghenion o ran trafnidiaeth?

***Pa gymorth sydd ar gael i ddysgwyr i wella mynediad (ariannol neu fel arall)?

***A oes unrhyw amrywiad rhanbarthol yn y wybodaeth a’r cymorth a ddarperir am opsiynau ôl-16 ledled Cymru? A oes unrhyw heriau penodol yn wynebu dysgwyr mewn ardaloedd gwledig?

***A oes unrhyw faterion eraill yn codi o ran cydraddoldeb?

<*<*<*

>>>Data cyrchfannau ôl-16

>*>*>*

***A oes digon o ddata am gyrchfannau ôl-16 yn cael eu casglu i ddeall tueddiadau a helpu i lywio darpariaeth sefydliadau addysgol? Os na, pa ddata sydd eu hangen arnom i ddeall y dirwedd ôl-16 yn llawn?

<*<*<*

>>>Rôl Llywodraeth Cymru

>*>*>*

***Pa mor effeithiol yw dull gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi cyfranogiad yn yr ystod lawn o opsiynau addysg a hyfforddiant ôl-16?

***A yw dysgwyr, eu teuluoedd ac ysgolion yn ymwybodol o'r cymorth a'r rhaglenni sydd ar gael ledled Cymru, fel y Warant i Bobl Ifanc?

***Canlyniadau’r adroddiad gan Dr Hefin David AS, Pontio i fyd gwaith.

<*<*<*

<<< 

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddPlant@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565