Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru)

Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) wedi’i gyfeirio at y Pwyllgor Cyllid ar gyfer craffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1.

 

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon yn rhoi rhagor o fanylion am yr hyn y mae'r Pwyllgor yn edrych arno a sut y gallwch rannu’ch barn.

 

Cylch gorchwyl

Mae’r Pwyllgor yn trafod:

>>>> 

>>>Egwyddorion cyffredinol y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) ac a oes angen deddfwriaeth i gyflawni amcan polisi datganedig y Bil, sef:

>*>*>*

***sicrhau cyfran fwy cyfartal o gostau i gyllido gwasanaethau lleol a seilwaith sydd o fudd i ymwelwyr rhwng trigolion ac ymwelwyr;

***galluogi awdurdodau lleol i gynhyrchu refeniw ychwanegol y gellir ei fuddsoddi yn ô li wasanaethau lleol a seilwaith i gefnogi twristiaeth;

***cefnogi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer twristiaeth gynaliadwy.

<*<*<*

>>>Unrhyw rwystrau posibl i weithredu darpariaethau’r Bil, ac a yw’r Bil a’r Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n cyd-fynd ag ef yn rhoi ystyriaeth ddigonol iddynt.

>>>A oes canlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil.

>>>Asesiad Llywodraeth Cymru o effeithiau ariannol ac effeithiau eraill y Bil fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol.

>>>Pa mor briodol yw’r pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir yn Rhan 1: Pennod 5 o’r Memorandwm Esboniadol).

>>>Y cydbwysedd rhwng yr wybodaeth sydd wedi’i chynnwys ar wyneb y Bil a’r hyn sydd i’w gynnwys drwy is-ddeddfwriaeth.

>>>Unrhyw fater yn ymwneud ag ansawdd deddfwriaeth.

>>>Y darpariaethau cofrestru a gorfodi ychwanegol dangosol y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cyflwyno yng Nghyfnod 2.

<<< 

 

Gwybodaeth am y Bil

Os caiff ei basio, bydd y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yn:

>>>> 

>>>Ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru fod yn gofrestredig ar gofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr.

>>>Rhoi pŵer disgresiwn i awdurdodau lleol i godi ardoll ymwelwyr ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr (yr ardoll).

>>>Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ymgynghori cyn cyflwyno, newid neu ddiddymu’r ardoll.

>>>Gwneud darparwyr llety ymwelwyr yn atebol am dalu’r ardoll i Awdurdod Cyllid Cymru.

>>>Rhoi sail ar gyfer cyfrifo swm yr ardoll sy’n daladwy a sut y caiff ei gasglu.

>>>Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddefnyddio’r enillion net at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn eu hardaloedd a chyhoeddi adroddiad ar ddefnyddio enillion yr ardoll.

>>>Rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i estyn y Ddeddf drwy reoliadau fel bod yr ardoll yn gymwys i ddocfeydd ac angorfeydd hefyd.

<<< 

 

Sut i rannu’ch barn

Rydym am sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n adlewyrchu amrywiaeth y bobl a chymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio arnynt.

 

Rydym yn annog unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i rannu’ch barn, gan wybod yn iawn y bydd eich barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.

 

I gyflwyno eich barn, llenwch y ffurflen ar-lein.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 16.00 ddydd Gwener 10 Ionawr 2025.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565