Ymgynghoriad
Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): barn plant a phobl ifanc
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 23 Hydref 2023 a Dydd Gwener, 10 Tachwedd 2023
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Mae'r Pwyllgor
Biliau Diwygio yn edrych ar Fil Senedd
Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ar hyn o bryd.
Mae'r Pwyllgor wedi lansio ymgynghoriad i lywio ei waith, a bydd hefyd yn cynnal grŵp ffocws ar-lein gydag Aelodau o Senedd
Ieuenctid Cymru.
Mae'r deunyddiau a baratowyd ar gyfer y grŵp ffocws wedi cael eu haddasu fel bod Aelodau
o Senedd Ieuenctid Cymru sy’n methu â chymryd rhan yn y grŵp ffocws yn gallu rhannu eu barn yn ysgrifenedig yn lle hynny. Mae croeso
hefyd i unrhyw blant neu bobl ifanc eraill ymateb os ydyn nhw eisiau gwneud
hynny.
Gwybodaeth
am y Bil
Os daw'r Bil yn
gyfraith, yna:
>>>>
>>>Bydd
newidiadau i'r ffordd y mae Aelodau o'r Senedd yn cael eu hethol.
>>>Bydd
96 Aelod (mae 60 ar hyn o bryd).
>>>Bydd aelodau'n
cael eu hethol am bedair blynedd (pum mlynedd ar hyn o bryd).
>>>Bydd
yn rhaid i Ymgeiswyr ac Aelodau fyw yng Nghymru.
<<<<
Yn
ddiweddarach eleni, mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyflwyno Bil ar wahân sy'n
edrych ar amrywiaeth y bobl sy'n sefyll yn etholiadau'r Senedd ac yn nodi
cynlluniau i wneud yn siŵr bod nifer cyfartal o fenywod a dynion yn sefyll yn
etholiad y Senedd.
Sut i ymateb
Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am y Bil a darganfod
sut i rannu eich barn ar ein
gwefan.
Y dyddiad cau yw 17.00 dydd Gwener 10 Tachwedd 2023.
Mae'n ddrwg gennym os nad yw hyn yn rhoi llawer o amser i chi, ond rydym am
wneud yn siŵr y gallwn ystyried eich
barn pan fyddwn yn holi Llywodraeth Cymru am y Bil ym mis Rhagfyr. Nid oes raid
i chi ysgrifennu llawer, ac nid oes angen i chi ateb pob cwestiwn oni bai eich
bod yn dymuno gwneud hynny.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef
Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn croesawu cyfraniadau yn
y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i
sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith
Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor
wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn
ddiweddarach.
Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno
tystiolaeth i bwyllgor.
Datgelu gwybodaeth
Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
- Ymatebion gan bobl a ymatebodd fel unigolion
- SCME - CYP01 - Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 287 KB Gweld fel HTML (2) 34 KB
- SCME - CYP02 - Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 285 KB Gweld fel HTML (3) 34 KB
- SCME - CYP03 - Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 289 KB Gweld fel HTML (4) 35 KB
- SCME - CYP04 - Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 291 KB Gweld fel HTML (5) 35 KB
- SCME - CYP05 - Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 285 KB Gweld fel HTML (6) 33 KB
- Ymatebion gan sefydliadau
- SCME - CYP06 - Platfform (Saesneg yn unig) PDF 306 KB Gweld fel HTML (8) 42 KB
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Biliau Diwygio
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddReform@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565