Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Diben yr ymgynghoriad

Mae Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) wedi’i gyfeirio at y Pwyllgor Biliau Diwygio ar gyfer craffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1.

 

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon yn rhoi mwy o fanylion am yr hyn y mae'r Pwyllgor yn edrych arno a sut y gallwch rannu’ch barn. Mae'r holl wybodaeth hefyd ar gael i'w lawrlwytho fel dogfen Microsoft Word. Mae gwybodaeth am sut i ddefnyddio'r opsiynau hygyrchedd yn y fersiwn Microsoft Word ar gael mewn dogfen eglurhaol.

 

Cylch gorchwyl

 

At ddibenion llywio ei waith craffu, gofynnodd y Pwyllgor am sylwadau ynghylch:

>>>> 

>>>Egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (Cymru) ac a oes angen deddfwriaeth i gyflawni’r amcanion polisi a nodir yn y Bil (mae rhagor o wybodaeth am y Bil i’w gweld isod).

>>>Unrhyw rwystrau posibl i weithredu darpariaethau’r Bil, ac a yw’r Bil a’r Memorandwm Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n cyd-fynd ag ef yn rhoi ystyriaeth ddigonol iddynt.

>>>A oes canlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil.

>>>Asesiad Llywodraeth Cymru o effeithiau ariannol ac effeithiau eraill y Bil fel y’u nodir yn Rhan 2 a Rhan 3 o'r Memorandwm Esboniadol.

>>>Pa mor briodol yw’r pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir yn Rhan 1: Pennod 5 o’r Memorandwm Esboniadol).

>>>Materion sy’n ymwneud â chymhwysedd y Senedd, gan gynnwys a yw Biliau’n gydnaws â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

>>>Y cydbwysedd rhwng yr hyn sydd wedi ei gynnwys ar wyneb y Bil a'r hyn sydd i'w gynnwys drwy is-ddeddfwriaeth.

>>>Unrhyw fater yn ymwneud ag ansawdd deddfwriaeth.

>>>Unrhyw fater arall yn ymwneud â goblygiadau cyfansoddiadol neu oblygiadau eraill y Bil.

<<<< 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth i'r ymgynghoriad oedd dydd Gwener 3 Tachwedd 2023.

 

Gwybodaeth am y Bil

 

Os caiff ei basio, bydd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn:

>>>> 

>>>Cynyddu maint y Senedd i 96 Aelod;

>>>Lleihau’r amser rhwng etholiadau cyffredinol arferol y Senedd o bum mlynedd i bedair blynedd.

>>>Cynyddu uchafswm y Dirprwy Lywyddion o un i ddau.

>>>Cynyddu’r terfyn deddfwriaethol ar faint Llywodraeth Cymru i 17 (ynghyd â’r Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol), a rhoi’r pŵer i gynyddur terfyn ymhellach i 18 neu 19.

>>>Ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd ac i Aelodau o’r Senedd, fod yn preswylio yng Nghymru (drwy anghymwyso ymgeiswyr ac Aelodau nad ydynt wedi’u cofrestru i bleidleisio yn un o etholaethau’r Senedd).

>>>Cynnig mecanwaith i’r Seithfed Senedd fedru ystyried rhannu swyddi sy’n ymwneud â’r Senedd (drwy ei gwneud yn ofynnol i’r Llywydd yn y Seithfed Senedd gynnig sefydlu pwyllgor Seneddol i adolygu materion penodedig).

>>>Newid system etholiadol y Senedd fel bod pob Aelod yn cael ei ethol drwy gynrychiolaeth gyfrannol ar sail rhestr gaeedig, a throi pleidleisiau’n seddi gan ddefnyddio fformiwla d’Hondt.

>>>Newid diben ac enw Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Ei alw’n Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru a rhoi’r swyddogaethau sydd eu hangen arno i sefydlu etholaethau newydd y Senedd a chynnal adolygiadau parhaus o ffiniau etholaethol y Senedd; a rhoi cyfarwyddiadau i’r Comisiwn eu dilyn wrth adolygu ffiniau.

>>>Darparu ar gyfer cynnal adolygiad o effaith y darpariaethau deddfwriaethol newydd a’r modd y cânt eu gweithredu, yn dilyn etholiad 2026 (drwy ei gwneud yn ofynnol i’r Llywydd, ar ôl yr etholiad, gynnig sefydlu pwyllgor Seneddol i adolygu materion penodedig).

<<<< 

 

Dogfennau ategol