Ymgynghoriad
Gweithredu diwygiadau addysg
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
yn monitro’r broses o weithredu dau ddiwygiad addysg allweddol wrth iddynt gael
eu cyflwyno drwy gydol y Chweched Senedd:
>>>>
>>>Bil
Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021
>>>Deddf
Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
<<<
Trwy gydol y
Chweched Senedd bydd yn monitro gweithrediad y diwygiadau hyn trwy gynnal
cyfres o wiriadau byr, â ffocws, thematig. Bydd pob gwiriad yn cynnwys
gweithgareddau ymgysylltu (e.e. ymweliadau ag ysgolion i siarad â staff,
disgyblion a rhieni) a chraffu ar waith un o Weinidogion Llywodraeth Cymru.
Bydd yr ymatebion
i'r ymgynghoriad yn helpu i lywio'r Pwyllgor o ran yr hyn y mae am ganolbwyntio
arno cyn pob gwiriad arfaethedig.
Gall unrhyw un
sydd â diddordeb naill ai yn y cwricwlwm newydd neu'r diwygiadau ADY - fel
addysgwyr, rhanddeiliaid, disgyblion neu rieni - gyflwyno eu barn ar unrhyw
elfen o gyflwyno'r diwygiadau addysg ar unrhyw adeg o’u taith pan gânt eu
gweithredu.
Mae croeso i chi
gyflwyno cymaint o ymatebion ag y dymunwch, mor rheolaidd ag y dymunwch.
Byddant i gyd yn cyfrannu at benderfyniadau'r Pwyllgor ynghylch sut i
ganolbwyntio ei waith craffu. Mae'n bwysig i'r Pwyllgor bod lleisiau
rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn cyfrannu at y corff hwn o waith.
Cyflwyno eich
sylwadau
Hoffem pe bai
modd i chi gyflwyno eich barn drwy lenwi’r profforma.
Y dyddiad cau ar
gyfer cyflwyniadau yw diwedd Chweched Senedd Cymru (yn 2026).
Dylech anfon eich
ffurflen
wedi'i llenwi at SeneddPlant@senedd.cymru
Rydym yn awyddus
i glywed gan gynifer o bobl â phosibl. Os hoffech gyflwyno eich sylwadau ond
nad ydych eisiau/nad ydych yn gallu cwblhau'r ffurflen hon, ffoniwch glercod y
Pwyllgor, a all drefnu ffordd wahanol ichi fynegi eich barn
0300 200 6565 neu
SeneddPlant@senedd.cymru
Cylch
gorchwyl:
Bydd yr
ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar:
>>>>
>>>Weithredu’r
Cwricwlwm i Gymru mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, ysgolion cynradd ac
ysgolion uwchradd.
>>>Lefel
cysondeb a thegwch y cyfleoedd dysgu i ddisgyblion ledled Cymru, o ystyried yr
hyblygrwydd sydd i ysgolion ddatblygu eu cwricwla eu hunain o fewn fframwaith
cenedlaethol.
>>>Diwygio
cymwysterau i gyd-fynd â'r Cwricwlwm newydd i Gymru.
>>>Gweithredu'r
system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd a throsglwyddo dysgwyr yn
effeithiol o'r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) bresennol.
>>>Cymhwyso'r
diffiniad o ADY, o'i gymharu â’r diffiniad ar hyn o bryd ar gyfer AAA, ac a oes
unrhyw achos o 'godi'r bar' o ran pennu cymhwysedd ar gyfer darpariaeth.
>>>Yr
hyn y mae’r lleoliadau dysgu proffesiynol a chymorth eraill yn ei dderbyn er
mwyn sicrhau gweithrediad effeithiol y Cwricwlwm i Gymru a’r system ADY.
>>>Ffactorau
eraill a allai, o bosibl, effeithio ar weithrediad y Cwricwlwm i Gymru a’r
system ADY, er enghraifft lefelau cyllid a’r hyn a gododd yn sgil y pandemig.
>>>Yr
heriau a’r cyfleoedd penodol sy’n dod i ran gwahanol fathau o ysgolion mewn
amgylchiadau amrywiol (e.e. cyfrwng iaith, demograffeg ac ardal) o ran
gweithredu diwygio’r cwricwlwm ac ADY.
<<<
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Sylwer bod
rhai ymatebion wedi cael eu cyfyngu ar gais yr anfonwr.
Dogfennau ategol
- Ffurflen Ymgynghori
PDF 527 KB Gweld fel HTML (1) 55 KB
- IER 01 Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 157 KB
- IER 02 Comisiynydd Plant Cymru
PDF 480 KB
- IER 03 Y Gymdeithas Fioleg Frenhinol (Saesneg yn unig)
PDF 256 KB
- IER 04 Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith yng Nghymru a Fforwm Ymgynghorol Therapi Lleferydd ac Iaith Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 132 KB
- IER 05 Llywodraeth Cymru
PDF 346 KB
- IER 06 ColegauCymru (Saesneg yn unig)
PDF 233 KB
- IER 07 Unigolyn
PDF 178 KB Gweld fel HTML (8) 5 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- IER 08 Brian Jones
PDF 225 KB Gweld fel HTML (10) 5 KB
- IER 09 Unigolyn
PDF 224 KB Gweld fel HTML (11) 5 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- IER 10 Unigolyn
PDF 171 KB Gweld fel HTML (13) 5 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- IER 11 Lowry Serw
PDF 171 KB Gweld fel HTML (15) 5 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- IER 12 Unigolyn (Saesneg yn unig)
PDF 98 KB
- IER 13 Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Saesneg yn unig)
PDF 474 KB
- IER 14 Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar (Saesneg yn unig)
PDF 547 KB
- IER 15 Pennaeth, Ysgol Gynradd Goetre Fawr (Saesneg yn unig)
PDF 275 KB Gweld fel HTML (20) 14 KB
- IER 16 Impact School Improvement Ltd (Saesneg yn unig)
PDF 217 KB Gweld fel HTML (21) 12 KB
- IER 17 Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ar ran Cynghrair Dysgu Byd-eang Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 223 KB Gweld fel HTML (22) 10 KB
- IER 18 Coleg Sir Gar and Coleg Ceredigion (Saesneg yn unig)
PDF 209 KB Gweld fel HTML (23) 7 KB
- IER 19 NSPCC Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 479 KB Gweld fel HTML (24) 44 KB
- IER 20 PACEY Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 379 KB Gweld fel HTML (25) 25 KB
- IER 21 Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Saesneg yn unig)
PDF 508 KB
- IER 22 CEPRA, UWTSD (Saesneg yn unig)
PDF 269 KB Gweld fel HTML (27) 28 KB
- IER 23 NASUWT Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 410 KB Gweld fel HTML (28) 45 KB
- IER 24 Dyneiddwyr Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 205 KB Gweld fel HTML (29) 15 KB
- IER 25 Mudiad Meithrin
PDF 784 KB Gweld fel HTML (30) 92 KB
- IER 26 Mind Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 391 KB Gweld fel HTML (31) 16 KB
- IER 27 Natspec (Saesneg yn unig)
PDF 423 KB Gweld fel HTML (32) 16 KB
- IER 28 Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 689 KB Gweld fel HTML (33) 61 KB
- IER 29 NAHT (Saesneg yn unig)
PDF 370 KB Gweld fel HTML (34) 24 KB
- IER 30 Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig (Saesneg yn unig)
PDF 433 KB Gweld fel HTML (35) 60 KB
- IER 31 Llywodraeth Cymru - Cwricwlwm - Gorffennaf 2022
PDF 371 KB
- IER 32 Llywodraeth Cymru- Gweithredu Diwygiadau ADY - Gorffennaf 2022
PDF 328 KB
- IER 33 Llywodraeth Cymru - Cwricwlwm - Mai 2023
PDF 386 KB
- IER 34 Llywodraeth Cymru - Gweithredu Diwygiadau ADY - Mai 2023
PDF 384 KB
- IER 35 Unigolyn (Saesneg yn unig)
PDF 257 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- IER 36 Unigolyn (Saesneg yn unig)
PDF 276 KB
- IER 36 Individual
PDF 142 KB
- IER 37 Y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar (Saesneg yn unig)
PDF 109 KB
- IER 38 Parents Voices in Wales CIC (Saesneg yn unig)
PDF 92 KB
- IER 39 Unigolyn (Saesneg yn unig)
PDF 222 KB Gweld fel HTML (46) 13 KB
- IER 40 21 Plus (Saesneg yn unig)
PDF 206 KB Gweld fel HTML (47) 19 KB
- IER 41 Cymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar (Saesneg yn unig)
PDF 226 KB Gweld fel HTML (48) 34 KB
- IER 42 NASUWT Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 158 KB
- IER 43 Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe Canolfan Plant (Saesneg yn unig)
PDF 188 KB Gweld fel HTML (50) 9 KB
- IER 44 British Heart Foundation (Saesneg yn unig)
PDF 187 KB Gweld fel HTML (51) 9 KB
- IER 45 Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Saesneg yn unig)
PDF 468 KB Gweld fel HTML (52) 39 KB
- IER 46 UNISON Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 208 KB Gweld fel HTML (53) 23 KB
- IER 47 Cynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr (Saesneg yn unig)
PDF 240 KB Gweld fel HTML (54) 58 KB
- IER 48 Natspec (Saesneg yn unig)
PDF 215 KB Gweld fel HTML (55) 21 KB
- IER 49 Mudiad Meithrin
PDF 191 KB Gweld fel HTML (56) 15 KB
- IER 50 Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith (Saesneg yn unig)
PDF 225 KB Gweld fel HTML (57) 17 KB
- IER 51 Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar (Saesneg yn unig)
PDF 231 KB Gweld fel HTML (58) 13 KB
- IER 52 Ymddiriedolaeth Cymunedau Elidyr (Saesneg yn unig)
PDF 198 KB Gweld fel HTML (59) 12 KB
- IER 53 Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB) (Saesneg yn unig)
PDF 250 KB Gweld fel HTML (60) 25 KB
- IER 54 Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 800 KB
- IER 55 Llywodraeth Cymru
PDF 257 KB
- IER 56 Parents Voices in Wales CIC (Saesneg yn unig)
PDF 254 KB Gweld fel HTML (63) 18 KB
- IER 57 Comisiynydd y Gymraeg
PDF 806 KB
- Mae'r wybodaeth a ganlyn wedi’i chyflwyno naill ai drwy gais y Pwyllgor, yn dilyn sesiwn dystiolaeth lafar, digwyddiad rhanddeiliad neu ymweliad
- Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (Saesneg yn unig) - 24 Ebrill 2023
PDF 559 KB
- Cymwysterau Cymru (Saesneg yn unig) - 24 Ebrill 2023
PDF 298 KB
- UCAS (Saesneg yn unig) - 24 Ebrill 2023
PDF 785 KB Gweld fel HTML (68) 41 KB
- Colegau Cymru - Curriculum (Saesneg yn unig) - 26 Ebrill 2023
PDF 292 KB
- Colleges Wales - ALN (Saesneg yn unig) - 12 Mai 2023
PDF 249 KB
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddChildren@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565